Pan oedd eich angen chi arnon ni, fe gadwoch chi ni’n ddiogel

9 Gorffennaf, 2021

Health Minister.jpg

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y mis diwethaf, ymwelodd y Gweinidog Iechyd @Eluned_Morgan ag Uned Therapi Dwys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Buom yn siarad â'r Nyrs dan Hyfforddiant, Emily Andrews, a gafodd sgwrs â'r Gweinidog y diwrnod hwnnw am ei hastudiaethau:

Enw: Emily Andrews

Cwrs: Nyrsio Oedolion 

Blwyddyn astudio: 3ydd (terfynol) 

Sut mae eich cwrs yn mynd?

"Mae fy nghwrs yn mynd yn wych. Rwyf wedi cwblhau holl rannau academaidd fy ngradd nawr, dim ond aros am ganlyniadau fy nhraethawd hir. Mae'n rhaid i fi hefyd orffen fy lleoliad terfynol, gwneud iawn am unrhyw oriau a gollwyd a chael fy holl gymwyseddau wedi'u cymeradwyo." 

Ble ydych chi'n gweithio ar leoliad?

"Dwi newydd orffen 8 wythnos yn yr Uned Therapi Dwys eto ac rydw i nawr yn gwneud 4 wythnos ar ward yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg." 

Sut wnaeth eich astudiaethau newid pan darodd pandemig Covid?

"Roeddwn i allan ar leoliad ar y pryd felly yn ystod wythnos gyntaf fy lleoliad cawson ni ein tynnu oddi yno tan i ni wybod beth oedd yn digwydd. Byddwn wedi bod yn hapus i aros yno a bwrw ymlaen ond roedd popeth ychydig yn ansicr tra bo trefniadau’n cael eu gwneud.

"Yn nes ymlaen, cawson ni’r opsiwn i optio i mewn i leoliad estynedig neu gael cyfnod theori estynedig. Dewisais i’r lleoliad estynedig.

"Gan fy mod i'n byw oddi cartref ac i ffwrdd o unrhyw bobl agored i niwed, doedd gen i ddim rheswm i beidio ag optio i mewn. Roeddwn i eisiau helpu. Cawson ni gyfle i ofyn i weithio mewn meysydd penodol, gofynnais am gael gweithio yn yr Adran Frys a’r Uned Therapi Dwys.

"Roeddwn i wir yn gobeithio cael yr Adran Frys ond yn yr Uned Therapi Dwys y cefais fy rhoi.  Fel mae'n digwydd, gwnes i fwynhau’r Uned Therapi Dwys lawer yn fwy nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl ac erbyn hyn dyma'r maes rwy'n mynd i fod yn gweithio ynddo.  Roedd tîm yr Uned Therapi Dwys y gweithiais i gyda nhw yn hollol anhygoel a dysgais gymaint tra oeddwn yno."

Beth fu eich heriau mwyaf?

"Mae'n mynd yn dda iawn. Roeddwn i’n drist iawn i adael yr Uned Therapi Dwys gan fy mod i wedi ymgartrefu cystal yno ac wedi tyfu’n nyrs fwy cymwys a hyderus yn ogystal â bod yn ased i'r tîm. Mae'r heriau ar hyn o bryd i fi yn mynd drwy fy holl waith papur a chael yr holl lofnodion rwyf wedi'u colli yn y gorffennol." 

Pam wnaethoch chi ddewis astudio yn PDC?

"Fe wnes i gais drwy glirio. Fe wnes i roi cynnig ar nyrsio deintyddol cyn gwneud cais ond doedd hynny ddim yn fy siwtio i, felly awgrymodd fy mam nyrsio a soniodd hi fod rai lleoedd clirio ar gael o hyd yn PDC, felly es i amdani a dwi ddim wedi difaru am eiliad.

"Rwy'n mwynhau'r dysgu cyson a'r heriau a sy’n dod yn sgil nyrsio."