Bydd cynhyrchiad theatr byw a gefnogir gan PDC yn mynd ar daith o amgylch Cymru yr haf hwn

8 Gorffennaf, 2021

Gwlad yr Asyn.jpg

Bydd drama Gymraeg newydd a gyd-gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr yn lleoliadau teithiol ledled Cymru.

Gwlad yr Asyn fydd y daith gyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru ers pandemig Covid-19, a dyma'r cynhyrchiad cyntaf erioed i Os Nad Nawr. Cynhyrchir y sioe mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac fe'i cefnogir gan Brifysgol De Cymru (PDC) a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Wedi’i gyflwyno’n bennaf fel cynhyrchiad awyr agored, mae Gwlad yr Asyn yn cyfuno satire, cerddoriaeth fyw ac alegori, gan adrodd hanes asyn benywaidd unigryw sydd wedi'i fagu mewn byngalo, yn mwynhau yfed pop a gwylio’r teledu! Ond y tu ôl i’r hiwmor mae stori deimladwy am alar a chamdriniaeth, a chyfle i archwilio a chwestiynu ein perthynas ni gydag anifeiliaid a byd natur yn ogystal â sefyllfa wleidyddol Cymru.

Placeholder Image 2

Gyda’r cyfarwyddwr Steffan Donnelly wrth y llyw, mae tri pherfformiwr yn y sioe: yr actores Gwenllian Higginson (Merched Caerdydd, Macbeth, Enid a Lucy, 35 Diwrnod) a’r cyfansoddwyr a cherddorion Sam Humphreys a Bethan Rhiannon o’r band Calan. Yn ystod y perfformiad, bydd y perfformwyr yn cyflwyno nifer o gymeriadau difyr trwy arddull monolog a chanu byw. Cawn hefyd ymweld â nifer o leoliadau – o fferm yng nghefn gwlad Cymru i lan y môr, heb anghofio’r warchodfa asynnod, Donkey Land!

Dywedodd Steffan: “Mae hon yn ddrama aml-haenog. Mae’n stori gariad, sgwrs onest, siwrne epig, alegori am Gymru a gìg electro-gwerin! Mae’r artistiaid yn arbennig, a dwi’n edrych ymlaen at greu gwledd o gerddoriaeth, stori a chymeriadau difyr efo nhw. Dwi’n siŵr mod i’n siarad ar ran llawer o’r gynulleidfa wrth ddeud, ar ôl y 15 mis diwethaf, fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at gerddoriaeth, stori dda, a drinc yn yr haul (gobeithio)!”

Does dim dwywaith bod trefnu taith theatr genedlaethol yn ystod pandemig yn heriol, ond mae’r cast a’r criw yn edrych ymlaen at ddechrau’r daith yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 10 Awst cyn perfformio wedyn yn yr awyr agored mewn nifer o leoliadau eraill ledled Cymru yn ystod mis Awst.

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae’r ddrama grafog hon yn gyfuniad perffaith o hiwmor a dychan ar y naill law ac o siwrne deimladwy a thwymgalon ar y llaw arall. Rwy’n hynod o falch bod y cwmni wedi llwyddo dan amgylchiadau heriol i gynllunio cyfres o berfformiadau, gan gychwyn trwy gyflwyno’r ddrama ar lwyfan mawr agored yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yna yr awyr agored ledled Cymru.

“Dyma fydd taith gyntaf y Theatr Genedlaethol o ddarn o theatr byw oddi ar gychwyn y pandemig, a braf iawn, wrth i’r amgylchiadau wella, fydd croesawu cynulleidfaoedd yn ôl dros yr haf. Braf hefyd yw cydweithio gyda chwmni newydd Os Nad Nawr a chael cyflwyno drama newydd gan un o fuddugwyr go ddiweddar Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol.”

Am fanylion llawn y daith, ac i archebu tocynnau, ewch i theatr.cymru/gwladyrasyn.