Disgyblion Ysgol Uwchradd Casnewydd yn chwarae ditectifs seiber yn PDC
23 Gorffennaf, 2021
Mae prosiect 11 wythnos ar gyfer plant ysgol o Ysgol Uwchradd Casnewydd wedi dod i ben gyda Helfa Drysor ym Mhrifysgol De Cymru (PDC).
Nod y prosiect cydweithredol oedd codi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch a gyrfaoedd mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).
Fel rhan o’r ‘Tresmasiad Dynolffurf’, targedwyd yr ysgol gan y gwyddonydd ffuglennol, drwg, Emma Bunsen, a drodd rhai o’r staff yn Ddynolffurf. Dros gyfres o wythnosau, dysgwyd y disgyblion sut i archwilio lleoliad trosedd gan ddefnyddio technegau fforensig digidol, a dadansoddi datganiadau tystion yn ymwneud â'r drosedd. Roedd y rhaglen yn ymdrin â phynciau fel y Rhyngrwyd Pethau (dylunio eu dyfeisiau eu hunain), seiberddiogelwch a thechnoleg y dyfodol.
Trwy ddatrys cyfres o bosau a heriau, darganfu’r myfyrwyr nad oedd Emma yn ddrwg wedi’r cyfan, ond ei bod yn gwneud gwaith pwysig i helpu i amddiffyn pobl trwy ddatblygu meddyginiaethau a gwrthwenwynau i docsinau niweidiol.
Daeth y prosiect i ben gydag ymweliad â champws Casnewydd PDC, lle cafodd disgyblion Blwyddyn 7 dystysgrif cyflawniad am eu hymdrechion.
Dywedodd Clare Johnson, Rheolwr Partneriaethau ac Allgymorth yn PDC: “Rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda disgyblion Ysgol Uwchradd Casnewydd yn fawr. Mae cyflwyno pynciau STEM yn gynnar yn addysg plant yn gam hanfodol i wella amrywiaeth yn y diwydiant, gan ei fod yn codi dyheadau ac yn dangos iddynt yr amrywiaeth enfawr o gyfleoedd sy'n agored iddynt, ymhell cyn bod angen iddynt ddewis arbenigeddau pwnc ar lefel TGAU.”
Dywedodd Gill Lee, Pennaeth Ysgol Uwchradd Casnewydd: “Roedd yn fraint cael gweithio gyda PDC ar y prosiect hwn. Rydym am integreiddio Addysg Uwch a gyrfaoedd i'n gwaith yn Ysgol Uwchradd Casnewydd a rhoddodd y prosiect hwn gyfle i'n myfyrwyr ddysgu am y ddau.
“Roedd mynd â’r myfyrwyr ar y campws yn ffordd wych o gwblhau’r prosiect ac erbyn hyn mae gan bob un o’r myfyrwyr hyn ddyheadau i fynd i’r brifysgol.”