GradFest21 Creadigol: Charlotte ac Iwan yn sicrhau swyddi yn y diwydiant Animeiddio cyn graddio

1 Gorffennaf, 2021

Charlotte Harrison and Iwan Williams.jpg

Mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i fyfyrwyr Animeiddio Charlotte Harrison ac Iwan Williams, sydd eisoes wedi sicrhau swyddi yn y diwydiant cyn graddio fis nesaf.  Fel rhan o GradFest21 Creadigol, mae Charlotte, 21 oed o Northampton, ac Iwan, sydd hefyd yn 21 oed ac o Gaerffili, yn dweud mwy wrthym am eu hamser yn PDC.

Pam wnaethoch chi ddewis PDC?

Charlotte: “Roeddwn i wrth fy modd â’r cyfleusterau oedd gan PDC i’w cynnig, ac roeddwn i hefyd yn hoffi natur benodol fy nghwrs [Animeiddio: 2D a Stop Motion] a oedd yn caniatáu imi wella fy sgiliau yn fy hoff faes animeiddio.

Iwan: Roeddwn i'n meddwl mai'r cwrs Animeiddio yn PDC oedd y cwrs a oedd fwyaf addas ar gyfer fy niddordebau o'i gymharu â'r rhai eraill a welais; roeddwn hefyd yn hoff iawn o'r cyfleusterau a'r caledwedd - yn enwedig y bocsys golau hen ffasiwn.

Sut mae'r cwrs wedi eich paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant?

Charlotte: Rwyf wedi dod yn llawer mwy hyderus a gwybodus o ran sut i gymhwyso fy sgiliau animeiddio yn ystod y cwrs, ac mae hefyd wedi fy nysgu i fod yn hyblyg ac yn addasadwy iawn mewn sefyllfaoedd anodd!

Iwan: Rhoddodd y cwrs y sgiliau a’r ddealltwriaeth i mi o egwyddorion animeiddio, ynghyd â’r cysylltiadau i allu ymuno â’r diwydiant. Hefyd, oherwydd pandemig COVID-19, fe ddysgodd i mi sut i addasu i sefyllfaoedd anodd.

Dywedwch wrthym am eich swydd - beth yw eich rôl a beth mae’n ei gynnwys?

Charlotte: Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau gweithio i Studio AKA yn Llundain, fel Animeiddiwr Iau ar eu cyfres plant Hey Duggee, sy'n gyfle gwych iawn! Rwy'n cynorthwyo'r tîm animeiddio craidd yn bennaf trwy gydol y cynhyrchiad, ac rydw i'n cael lluniau i weithio arnyn nhw ar gyfer gwahanol benodau.

Iwan: Rwy'n gweithio i A Production, stiwdio animeiddio wedi'i lleoli ym Mryste, lle rwy'n gweithio fel arlunydd cynllun. Mae fy rôl yn cynnwys paratoi ffeiliau animeiddio fel eu bod yn barod ar gyfer yr animeiddwyr.

Pa gyngor sydd gennych chi i rywun sydd eisiau gweithio ym maes Animeiddio?

Charlotte: Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod yn barchus ac yn galonogol i'ch cyd-ffrindiau cwrs neu gydweithwyr. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio ochr yn ochr â’m ffrindiau cwrs hynod dalentog, ac mae gwaith tîm yn rhan sylfaenol o weithio ym maes animeiddio; fe ewch yn bell os ydych chi'n gydweithredol, yn barchus ac yn ddylanwad cadarnhaol yn eich amgylchedd gwaith.

Iwan: Fy nghyngor i fyddai ymarfer yr hanfodion, arsylwi sut mae pethau'n symud, a bod yn awyddus i ddysgu, gan y bydd dealltwriaeth dda o symudiad a sut i'w gynrychioli yn mynd â chi ymhellach nag unrhyw lwybr byr meddalwedd. Mae hefyd yn syniad da cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn y diwydiant, yn enwedig cyrsiau hyfforddiant ac interniaethau gan eu bod yn ffordd dda iawn o fynd i mewn i'r sector.”