Hanesion Graddio: Athrawon dan hyfforddiant arloesol yn cynnig cymorth dysgu gartref yn y cyfnodau cloi
16 Gorffennaf, 2021
Creodd tri athro dan hyfforddiant, a raddiodd yr wythnos hon o Brifysgol De Cymru (PDC), adnoddau dysgu i gefnogi rhieni yn ystod y cyfnodau cloi.
Pan darodd pandemig y coronafeirws, a phlant yn cael eu hanfon adref o’u hysgolion, sylweddolodd Owen Lewis, Louise Lloyd ac Adam Jones fod angen ychydig o gymorth ychwanegol ar rieni a phlant fel ei gilydd, tra oedd ysgolion yn sefydlu systemau dysgu gartref.
Dywedodd Louise, sydd o Lynebwy: "Mae gen i fab 8 oed fy hun ac mae mam Owen yn bennaeth ysgol. Pan ddaeth y byd i stop, fe sylweddolon ni bod athrawon yn wynebu heriau enfawr wrth ddarparu gwaith i blant ei wneud gartref. Hefyd, roedd llawer o rieni'n ei chael hi'n anodd gweithio a gofalu am blant, a llwyth o wybodaeth newydd yn eu cyrraedd bob dydd. Fe aethon ni ati i ystyried sut gallen ni helpu."
Er eu bod nhw yng nghanol eu hastudiaethau eu hunain ar y cwrs BA (Anrh) Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Cynradd gyda SAC, aethon nhw ati i bostio fideos ar YouTube yn arddangos tasgau syml i blant eu gwneud, gydag eitemau cyffredin o’r cartref.
Dywedodd Adam, sydd o Bontypridd: "Doedden ni ddim eisiau i'r fideos fod yn rhy addysgol, dim ond rhywbeth y gallai plant o wahanol oedrannau ei wneud gartref, a dyna pam y penderfynon ni ar yr enw ‘Not in the Textbook’ ar gyfer ein sianel.
"Nid pob fideo oedd wedi'i gynhyrchu'n berffaith ‘chwaith, ac roedd hyn yn fwriadol. Roedden ni eisiau i bobl gynhesu at y deunydd, felly pan oedd pethau’n mynd o chwith, roedden ni’n cadw hynny yn y fideos.”
O’u rhannu ar wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, dechreuodd y fideos ddenu sylw a daeth adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr diolchgar.
Dywedodd Owen, sydd o'r Coed Duon: "Y fideos mwyaf poblogaidd oedd paentio gyda rhew, paentio gyda swigod, a chreu parasiwtau o napcynau. Roedd rhai rhieni’n anfon lluniau aton ni o’r hyn roedd eu plant wedi ei greu.
"Er i ni gael hwyl yn creu’r fideos, a chael ffocws newydd yn ystod cyfnod anodd, roedd hefyd yn rhywbeth gwerth chweil ei wneud.
"Pan godwyd y cyfyngiadau symud, fe wnaethon ni addasu'r wybodaeth yn y fideos i greu podlediad i athrawon dan hyfforddiant, i’w helpu gyda dysgu cyfunol."
Mae gan bob un o'r tri swyddi ar gyfer mis Medi ac mae Apple Education wedi cysylltu i'w gwahodd i weithio ar e-lyfr.
Dywedodd yr Uwch Ddarlithydd Matthew Pullen: "Cafodd Louise, Adam ac Owen effaith enfawr yn ystod y cyfnodau cloi gyda’u sianel YouTube i gefnogi dysgu gartref. Maen nhw’n enghreifftiau gwych o athrawon dan hyfforddiant blaengar, angerddol ac arloesol o ran eu hagwedd at eu dysgu eu hunain a sut y gall ddatblygu plant a phobl eraill. Ar y cwrs, rydym yn dangos sut gall technoleg wella dysgu ac mae'r myfyrwyr hyn yn enghraifft wych o sut olwg fydd ar addysgu yn y dyfodol."