Hanesion Graddio: Cafodd John ei helpu trwy’r amseroedd anoddaf gan y cymorth a gafodd
14 Gorffennaf, 2021
John Caven
Wynebodd John Caven ei amser mwyaf tywyll ychydig cyn y Nadolig diwethaf, ar ôl cael ei effeithio gan broblemau iechyd meddwl difrifol.
Ond roedd y cymorth a gafodd y dyn 40 oed, gan gynnwys y cymorth gan Brifysgol De Cymru (PDC), yn golygu ei fod wedi gallu dathlu cael gradd anrhydedd 2.2 mewn Hyfforddi, Datblygu a Gweinyddu Pêl-droed Cymunedol, ac mae'n edrych ymlaen at ddyfodol disglair yn gweithio yn y gêm y mae'n ei charu.
Yn wreiddiol o Leeds, ac yn awr yn byw ger Holmfirth, Gorllewin Swydd Efrog, gyda’i wraig a’i dri phlentyn, mae taith John i lwyddiant gradd wedi bod yn unrhyw beth ond syml, ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed heb gymhwyster i’w enw.
Yn wreiddiol yn weithiwr adeiladu ac yna'n berchennog ei fusnes adeiladu ei hun, darganfu John angerdd dros gefnogi pêl-droedwyr ifanc yn y gymuned gyda'i gyfle cychwynnol yn dod pan ddechreuodd ymgymryd ag hyfforddiant gwirfoddol ar gyfer tîm llawr gwlad ei fab, Cumberworth Juniors.
“Fe wnes i fwynhau gwneud hynny’n fawr, fe ddaeth â chymaint o hapusrwydd i mi, ac, wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, oherwydd fy mod i’n fos arnaf i fy hun, roeddwn i’n gallu helpu mwy o grwpiau gwahanol yn y gymuned. Roedd yn rhywbeth roeddwn i'n angerddol amdano ac yn ei fwynhau’n fawr, ond ni welais i mohono erioed fel swydd, na gyrfa y gallwn ei dilyn,” meddai John,
Fel sy'n digwydd yn aml, fodd bynnag, rhoddodd amgylchiadau reswm i John ailystyried hyfforddi pêl-droed fel mwy na rôl wirfoddol.
“Ychydig flynyddoedd yn ôl nid oedd pethau’n mynd yn rhy dda - roedd gen i broblemau iechyd, bu farw un o’m ffrindiau agos, targedwyd fy ngwaith gan droseddwyr, ac fe wnaethon ni ddioddef colledion ariannol nad achoswyd gan y busnes," dywedodd.
“Daeth popeth ar yr un pryd a phenderfynais fy mod am newid gyrfa lwyr, ac edrych ar sut i fynd i hyfforddi pêl-droed.”
Ar ôl cychwyn cwrs gradd yn agos at ei gartref yn wreiddiol, y dywedodd 'nad oedd yn hollol unol â'r disgwyliadau', tra hefyd yn parhau i weithio yn y fasnach adeiladu rhwng dosbarthiadau, roedd yn rhaid i John ailfeddwl am ei gynlluniau, gan sylweddoli na allai orymestyn ei amser.
Fodd bynnag, gyda'i brofiad yn y sector, llwyddodd John i sicrhau rôl hyfforddi yng Nghynghrair Un ochr Clwb Pêl-droed Doncaster Rovers, lle bu’n ymwneud yn helaeth â sefydlu'r Doncaster Titans, sy'n cefnogi pobl ifanc ag anableddau.
Wrth barhau i geisio bwrw ymlaen â'i astudiaeth, dywedodd ffrind a oedd yn gweithio yn Sefydliad Cymunedol Sheffield United wrtho am y cyrsiau a gynigir gan PDC, sy'n cynnig cyfle i ennill dyfarniad hyfforddi a gydnabyddir gan ddiwydiant wrth fod yn gysylltiedig â chlwb pêl-droed.
“Doedd gen i ddim syniad bod y cyrsiau hyn yn bodoli hyd yn oed, felly pan wnes i ddarganfod y gallwn i astudio tra hefyd yn gwneud y gwaith yn Doncaster Rovers, dyna'n union yr oeddwn i eisiau,” meddai John.
Ar ôl ymuno â Diploma Sylfaen PDC mewn Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol, aeth John ymlaen i gwblhau ei flwyddyn gyntaf gyda llwyddiant ysgubol. Yn fuan wedi hynny, fodd bynnag, wynebodd heriau a arweiniodd at ei anawsterau iechyd meddwl.
“Cyn gorffen yr ail flwyddyn yn PDC collais gwpl o aelodau agos o’r teulu, a darodd fi’n galed iawn a dyna oedd y catalydd ar gyfer y problemau a’m gwthiodd yn ôl flwyddyn, gan olygu na wnes i raddio o’r cwrs sylfaen ochr yn ochr â’r myfyrwyr yr oeddwn wedi dechrau’r cwrs gyda nhw,” meddai.
“Yna, pan ddechreuais fy ngradd, sylwais ar rai problemau iechyd, yna daeth y pandemig a’r cyfnod clo. Gyda fy ngwraig yn hunangyflogedig, roedd yn golygu ein bod ni'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, roedd ein plant yn ei chael hi'n anodd bod gartref ac ni allem eu helpu gyda'u gwaith ysgol, a chyda'r llwyth gwaith yn y brifysgol, aeth y cyfan yn drech na mi a chyrhaeddais fy mhwynt isaf ychydig cyn cyfnod y Nadolig y llynedd.”
Diolch byth, ar un o’r adegau anoddaf ym mywyd John, cafodd y cymorth yr oedd ei hangen yn daer arno ar ôl gofyn am help gan ei ddarlithwyr, Caplaniaeth PDC, a Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol.
“Dwi wir yn meddwl bod y cymorth a gynigiwyd wedi fy arbed,” meddai John.
“Mae wedi bod yn afreal. Y diwrnod ar ôl i mi gael fy eiliadau isaf, cefais epiffani yn dilyn eiliad gyda fy ngwraig. Fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i wneud ychydig o alwadau ac estyn allan, i geisio rhoi trefn ar fy mywyd.
“Roedd pawb yn y brifysgol yn wych. Anfonais e-bost at gwpl o staff yn PDC a mentor y rhaglen addysgol, a’m cyfeiriodd at y Gaplaniaeth a Chymorth Myfyrwyr PDC, a chefais gwpl o gyfarfodydd gyda chwnselwyr. Euthum o fethu ymdopi i gael nifer o bobl a oedd ar gael yn rhwydd i siarad â nhw a chynnig cymorth.
“Bu’r cymorth cychwynnol honno yn help i mi symud ymlaen, a dal ati, ac fe wnaeth y cymorth dilynol gan y tiwtoriaid fy helpu i gamu dros y llinell.”
Yn y cyfnod yn arwain at yr ail gyfnod clo yn ystod tymor yr hydref y llynedd, roedd John yn gweithio ar brosiect i ddatblygu pêl-droed merched yn ei ardal gartref, ond roedd yr heriau yr oedd yn eu hwynebu yn golygu nad oedd yn gallu cwblhau'r cynllunio. Fodd bynnag, y ‘llinyn arian’ oedd y ffaith bod ganddo fwy o amser i ddatblygu ei gynllun.
“Dyna oedd yr unig ras achubol rhag y cyfnod clo,” meddai John. “Ar ddechrau’r cyfan roeddwn i’n mynd i lunio prosiect i ddatblygu pêl-droed merched o fewn y gymuned, ond feddyliais i ddim y byddwn yn llwyddo i wneud hynny.
“Ond, yn ystod y cyfnod clo, ac ar ôl fy materion iechyd meddwl, llwyddais i lunio cynlluniau i hyrwyddo cyfranogiad mewn pêl-droed i ferched o unrhyw oedran. Rwyf wedi cael llawer o gefnogaeth gan gyrff cenedlaethol a lleol, ac mae'n edrych yn debyg bod hyn yn barod i gychwyn nawr, ac ni fyddai hynny wedi digwydd heb y cyfnod clo hir.
“Roedd yn golygu bod gen i fwy o amser i wneud ymchwil a datblygu dealltwriaeth o’r hyn oedd ei angen i wneud iddo weithio.”