Hanesion Graddio: Instagram yn dod â hwb busnes i Ellyw, sydd newydd raddio
13 Gorffennaf, 2021
Ellyw Jones
Mae bod yn rhan o genhedlaeth y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn fantais fawr i Ellyw Jones, sydd newydd raddio o Brifysgol De Cymru (PDC) , ac sydd wedi adeiladu busnes llawrydd ffyniannus drwy ddefnyddio Instagram.
Mae Ellyw, sy’n 22 oed ac yn dod o Lanerfyl ger y Trallwng ym Mhowys, yn dathlu ennill gradd dosbarth cyntaf yn ei chwrs BA Anrh Dylunio Mewnol o Brifysgol De Cymru (PDC). Mae’n edrych ymlaen at adeiladu ar ei gyrfa fusnes sydd eisoes yn llwyddiannus.
Dechreuodd Ellyw ei thaith ddylunio fewnol pan aeth i ddiwrnod agored ar Gampws Caerdydd PDC, lle mae Cyfadran Diwydiannau Creadigol y Brifysgol.
"Dewisais astudio yn PDC oherwydd roeddwn wrth fy modd gyda'r creadigrwydd a'r safonau uchel oedd mor amlwg yn y Brifysgol drwyddi draw,” dywedodd.
"Hwn oedd y diwrnod agored gorau i fi fynd iddo, ac roedd y cwrs yn ateb fy ngofynion o'r diwrnod cyntaf un i bob pwrpas, yn cael gweithio ar brosiectau byw amrywiol a chydweithio â chwmniau dylunio mewnol, ac arddangos ein gwaith iddyn nhw."
Yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau agos â busnesau oedd eisoes yn gweithredu yn y sector, roedd y cwrs yn cynnig cyfnod ar leoliad i fyfyrwyr yr ail flwyddyn.
"Bues i’n ffodus i weithio yn Studio Severn Design yng Nghaerdydd yn ystod fy lleoliad," meddai Ellyw.
Roedd y profiad hwn o fudd mawr i fi gan iddo fy nghyflwyno i amryw o elfennau dylunio oedd yn newydd i fi, ac ehangu fy ngwybodaeth yn fawr. Bydda i’n ddiolchgar am hynny am byth. Mae'r lleoliad wedi agor drysau i lawer o wahanol bethau i fi, fel dylunio brandiau, ac wedi fy helpu i sylweddoli cymaint rwy'n mwynhau agweddau eraill ar y diwydiant.
Roedd gallu gweithio gyda phobl o'r diwydiant yn gynnar yn y cwrs yn fodd i ddod i wybod pa ddisgwyliadau oedd gan y diwydiant, ac roedd hynny wir yn ysgogiad i fi i lwyddo.
Yn ystod ei blwyddyn olaf yn PDC, parhaodd Ellyw i weithio fel gweithiwr llawrydd rhan-amser gyda Studio Severn Design, ond defnyddiodd ei sgiliau a'i phrofiad newydd hefyd i adeiladu ei busnes ei hun, yn cynnig dylunio mewnol, steilio mewnol, a dylunio brandiau busnesau newydd.
A dyma lle be modd iddi fanteisio ar y cyfleoedd ddaw yn sgil y cyfryngau cymdeithasol.
"Roedd byw mewn ardal wledig, rwy'n byw ar fferm, yn golygu nad oeddwn i’n gorfforol agos i’r busnesau a'r dylunwyr yn y diwydiant, felly doeddwn i ddim yn gallu rhwydweithio yn y ffordd draddodiadol," meddai Ellyw.
"Dyna pam y dechreuais i gyfrif Instragram ar gyfer fy musnes y llynedd, i arddangos fy ngwaith a'r hyn roeddwn yn gallu ei wneud.
"Mae'r cyfrif wedi gweithio'n wych i fi, ac rwyf wedi ei ddefnyddio i roi cychwyn ar fy ngyrfa. Rwyf wedi gallu cysylltu â phobl benodol ac wedi gallu gwneud gwaith llawrydd iddyn nhw, a chydweithio a siarad â gwahanol ddylunwyr a stiwdios. Byddai wedi bod yn anodd i bobl ddod i wybod amdana i oni bai am Instagram."
Wrth edrych tua'r dyfodol, mae gan Ellyw ambell syniad, ond dim cynlluniau cadarn eto.
"Rwyf wedi bod yn ystyried sut y byddwn i'n elwa o weithio i gwmni penodol i ddysgu gwahanol agweddau ar y diwydiant, a pharhau i weithio’n llawrydd ar yr un pryd," meddai.
"Hoffwn hefyd wneud rhywfaint o deithio a gwneud gwaith llawrydd wrth deithio’r byd. Byddai'n wych gweld sut mae gwahanol ddiwylliannau'n dylanwadu ar chwaeth, a sut mae gwahanol wledydd yn gwneud gwahanol bethau.
"Byddai ennill mwy o brofiad yn werthfawr iawn i fi, mae hynny’n hynod o bwysig ar gyfer dylunio mewnol."