Hanesion Graddio: Ymdrechion Rachel yn ei pharatoi at yrfa ddelfrydol fel ditectif
12 Gorffennaf, 2021
Rachel Drennan
Uchelgais Rachel Drennan yw bod yn dditectif sy'n ymchwilio i droseddau mawr, ac mae hi'n sicr wedi rhoi'r sylfeini ar waith i gyflawni ei breuddwyd.
Daw Rachel, sy’n 24 oed, o Cork yn Iwerddon yn wreiddiol, ac mae newydd ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC). Yn ystod ei chwrs, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu partneriaeth sy'n adolygu hen achosion sydd heb eu datrys o bobl sydd ar goll neu wedi eu llofruddio.
Mae hefyd wedi bod yn dysgu'r sgiliau allweddol sy'n gysylltiedig â phlismona drwy wirfoddoli fel Cwnstabl gyda Heddlu De Cymru ym Mhontypridd.
Ar ôl symud o Cork i dde Cymru yn hwyr yn ei harddegau, sicrhaodd Rachel le ar y cwrs gradd BSc Anrhydedd yn PDC. Ar ddechrau'r ail flwyddyn dechreuodd weithio gydag Uned Hen Achosion PDC, sy'n adolygu ac yn coladu hen dystiolaeth a thystiolaeth newydd a allai helpu achosion sydd heb eu datrys, y digwyddodd rhai ohonynt ddegawdau yn ôl.
O dan arweiniad arbenigwyr yn PDC, dechreuodd Rachel wedyn gymryd rhan mewn menter lle bu arbenigwyr ‘hen achosion’ yn cydweithio'n agos â myfyrwyr.
"Ym mis Tachwedd 2019 dechreuodd Locate International gydweithio â PDC. Mae’n gwmni buddiannau cymunedol sy'n gweithio i helpu teuluoedd pobl sydd ar goll i ddod o hyd i'w hanwyliaid,” dywedodd Rachel. .
"Mae'n dod â gwirfoddolwyr ac arbenigwyr o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd i ymchwilio ac adolygu achosion i sicrhau bod popeth y gellir yn rhesymol ei wneud, wedi'i wneud ac yn cael ei wneud.
"Roeddwn i'n rhan o hyn o'r dechrau, pan ddatblygais i a myfyriwr arall brosesau a chylch gorchwyl Locate ar gyfer teuluoedd. Y bwriad yn hynny o beth oedd pennu sut y bydden ni a’r partneriaid eraill yn mynd ati i gynnal yr ymchwiliadau, a sut a phryd i gynnwys gweithwyr proffesiynol yn y gwaith.
"Tîm bach iawn oedden ni i gychwyn, wedi ein mentora gan Dr Cheryl Allsop, uwch ddarlithydd mewn troseddeg a chyfiawnder troseddol yn PDC sydd hefyd yn gyfarwyddwr yr Uned Hen Achosion. Mae Ian McKim, Rheolwr Academaidd Troseddeg, hefyd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynllunio a threfnu'r timau. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda nifer o weithwyr proffesiynol eraill o Locate, gan gynnwys cyn-Dditectif Uwch Arolygwyr sy'n helpu i fentora'r myfyrwyr."
Fel gyda'r rhan fwyaf o gyrsiau PDC, doedd y profiad ddim yn un damcaniaethol yn unig. Mae Rachel wedi gallu cael profiad bywyd go iawn hefyd.
"Daeth un o’n hadolygiadau ar hen achosion i ben ddiwedd y llynedd, lle buon ni’n gweithio gyda’r llu oedd yn ymchwili, ac rydyn ni’n aros am ganlyniad hwnnw,” dywedodd.
"Achos Damien Nettles oedd hwn, llanc 16 oed a ddiflannodd o Ynys Wyth yn 1996. Adolygon ni’r achos, arwain y tîm, datblygu tasgau, a phenderfynu sut i dynnu’r holl ddogfennau at ei gilydd.
"Wrth i ni weithio ar yr achos hwnnw, fe welon ni Locate yn mynd o nerth i nerth, ac rydyn ni bellach yn gweithio gyda sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys gwasanaeth plant coll Amber Alert Europe – sy'n helpu i achub plant sydd ar goll - yn ogystal â hyfforddeion yr heddlu yn yr Almaen a phrifysgolion yn Awstralia."
Mae’r profiad gyda Locate International wedi bod yn help enfawr i Rachel wrth iddi weithio tuag at ei gyrfa.
"Gweithio fel ditectif mewn troseddau mawr yw fy ngyrfa ddelfrydol, felly mae'r profiad hwn wedi fy helpu'n aruthrol gan ein bod wedi dilyn yr un prosesau’n union ag y byddai tîm troseddau mawr yn ei wneud mewn ymchwiliadau - fel llofruddiaethau, trais rhywiol a phersonau coll - gyda logiau gweithredu, logiau penderfynu, a chyfiawnhad am bob penderfyniad a wneir," meddai.
"A phe baen ni’n darganfod rhywbeth perthnasol, gallen ni ymddangos yn y llys, yn yr un ffordd ag unrhyw swyddog heddlu arferol fyddai’n ymchwilio i achos. Nid yw'r ffaith mai tîm prifysgol ydyn ni yn golygu na ddown o hyd i rywbeth.
"Mae wir wedi fy helpu i ddeall prosesau’r heddlu, a gwneud cysylltiadau a dod i adnabod pobl yn y maes."
Ar ôl cael profiad uniongyrchol o un rhan o'r yrfa mae'n gobeithio ei dilyn, mae Rachel hefyd wedi cael blas ar agwedd arall ar blismona, drwy wirfoddoli ar y rheng flaen i Heddlu De Cymru.
"Ymunais â'r Cwnstabliaid Arbennig achos fy mod i eisiau rhoi cynnig arni cyn gwneud cais am swydd lawn amser, ac rydw i wedi gwneud hynny ers bron i ddwy flynedd erbyn hyn. Mae'n wych ac rwyf wrth fy modd," meddai.
"Mae'n heriol oherwydd ei fod yn blismona rheng flaen, yr un rôl yn union ag unrhyw swyddog arall gyda’r heddlu, yr un offer, yr un wisg. Yr unig wahaniaeth yw mai gwirfoddoli rydych chi.
"Ond dyw pobl ddim yn eich trin chi'n wahanol, dydyn nhw ddim yn gwybod mai cwnstabl gwirfoddol ydw i, felly pan fydda i'n mynd i alwadau, yn unrhyw beth o drais domestig i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gall fod yn heriol.
"Ond mae’r hyn rydych chi'n ei ddysgu o wneud hyn yn gwbl unigryw - allwch chi ddim ei ddysgu yn unrhyw le arall ac rwy'n gobeithio y bydd yn fy helpu i gael swydd gyda’r heddlu. Wedyn, gallaf weithio tuag at yr yrfa rwyf wedi bod eisiau ei dilyn erioed."