PDC yn cefnogi Cronfa Her Cymru Werdd
7 Gorffennaf, 2021
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn cefnogi lansiad partneriaeth newydd i ddod o hyd i ddulliau arloesol a chreadigol i feithrin sector sgrin cynaliadwy i Gymru.
Mae'r Gronfa Her Cymru Werdd yn bartneriaeth rhwng Ffilm Cymru Wales – yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilmiau o Gymru – a Clwstwr, rhaglen arloesol ar gyfer sector sgrin de Cymru, a ariennir gan y Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol sy'n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Bydd y gronfa amlddisgyblaethol arloesol yn cynnig arian i ymchwilio a datblygu dulliau newydd o weithio yn y diwydiant ffilm a theledu, gyda'r nod o gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050, a bydd yn chwilio am atebion i'r heriau amgylcheddol allweddol o fewn y diwydiant ffilm yng Nghymru.
Mae'r cyllid ar gael i unigolion, sefydliadau a chydweithrediadau ar draws sectorau, yn cynnwys:
- Ffilm, Teledu a Chyfryngau
- Academia
- Technoleg (TG, Gwasanaethau Meddalwedd, Electroneg a Chyfrifiadurol)
- Cludiant
- Ynni a Dŵr
- Rheoli Gwastraff
Bydd tri o prosiect yn derbyn hyd at £25,000 yr un. Yna bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i Weithdai Her Cymru Werdd i ddatblygu eu syniadau cyn cyflwyno cais ffurfiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad o ddiddordeb yw 20 Awst, a bydd disgwyl i’r prosiectau llwyddiannus gychwyn ym mis Tachwedd eleni.
Meddai’r Athro Ruth McElroy, Cadeirydd Ffilm Cymru Wales ac Athro Diwydiannau Creadigol yn PDC: “Allwn ni ddim aros ymhellach i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae gan y diwydiannau teledu a ffilm ôl troed carbon rhyfeddol o fawr. Yn ôl BAFTA, mae pob awr o deledu yn cynhyrchu 13 tunnell fetrig o garbon deuocsid. Mae hynny’n cyfateb yn fras i’r hyn mae dinesydd cyffredin o America’n cynhyrchu mewn blwyddyn gyfan. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol os ydym am wneud ein sector ffilm a theledu, sydd ar gynnydd, yn lanach, yn wyrddach ac yn fwy cynaliadwy.”