COP26: Cymorth i fusnesau fynd i'r afael â'u hôl troed carbon
25 Hydref, 2021
Wrth i arweinwyr y byd ddod at ei gilydd yn COP26 i drafod camau i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, mae’n hysbys bod gan y sector busnes ran fawr i'w chwarae yn yr argyfwng hinsawdd.
Mae sefydliadau sydd heb ddechrau torri eu hôl troed carbon yn dweud mai'r rhwystrau mwyaf sy'n eu hwynebu yw diffyg adnoddau neu gyllid, a diffyg gwybodaeth neu ddata.
Mae ein cyfres o ddigwyddiadau 'Yfory Gwyrddach' wedi'i chynllunio i gefnogi busnesau gyda'r heriau hyn, gan edrych yn fanylach ar gyllid cynaliadwy ar gyfer arloesi, mynediad at gyfleoedd ac adnoddau, sut i weithredu newidiadau fesul tipyn fydd yn creu effaith gadarnhaol, a phŵer ymchwil gymhwysol mewn cynaliadwyedd.
Dydd Llun, 1 Tachwedd – Panel Myfyrwyr: Arddangos ehangder cynaliadwyedd yn yr economi
Dydd Mawrth, 2 Tachwedd – Cyllid Gwyrdd: Cyllid Cynaliadwy ar gyfer Arloesi - Banc Busnes Prydain
Dydd Mercher, 3 Tachwedd – Cyllid Gwyrdd: Cyllid Cynaliadwy ar gyfer Arloesi - cydweithio â diwydiant ac ymchwil gymhwysol
Dydd Iau, 4 Tachwedd – Newid yn yr Hinsawdd: Busnes Pawb