Gwneud Ymchwil yn Fwy Cynhwysol - Hyrwyddo bod pobl o Grwpiau Du ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynnwys mewn ymchwil
7 Hydref, 2021
Mae ymchwil yn y Deyrnas Unedig yn cael ei hannog fwyfwy i fod yn fwy cynhwysol a hefyd i allu llywio datblygiad polisïau ac arferion sy'n sensitif i boblogaeth aml-ethnig y DU yn well (Etti et al., 2021; Salway et al., 2009).
Ychwanegodd yr Athrofa Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd at y llais hwn mewn adroddiad diweddar, gan bwysleisio'r angen i gynnwys mwy o gyfranogwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BAME) mewn ymchwil i sicrhau bod astudiaethau'n gynrychioliadol o boblogaeth y DU (NIHR, 2021).
Amlygwyd y galw am well dealltwriaeth o nifer y lleiafrifoedd ethnig sy'n cymryd rhan, eu profiad a'u canlyniadau mewn ymchwil (Shirley et al., 2020; Pan et al., 2020; Mathur et al, 2020) oherwydd effaith anghymesur Covid-19 ar gymunedau BAME (Raisi-Estabragh et al., 2020).
Mae ymchwil sy'n archwilio anghydraddoldebau ethnig a’r perygl o ddod i gysylltiad â Covid-19 yn awgrymu y gallai ffactorau croestoriadol sy'n cael eu hategu gan hiliaeth a gwahaniaethu strwythurol fod wedi dylanwadu ar gyfradd heintio uwch ymhlith cymunedau BAME (Is-grŵp Ethnigrwydd y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, 2020; Sze et al., 2020). Mae hiliaeth strwythurol yn cynnwys llawer o ffactorau fel statws economaidd tlotach, trefniadau byw, a llai o gyfleoedd i weithio o gartref (Mathur, et al., 2020; Sze et al., 2020).
Mae'r perthnasoedd pŵer anghyfartal a'r credoau a gynhyrchir gan brofiad canfyddedig o allgáu a chamarfer gan y system yn aml yn arwain at bobl o gymunedau BAME yn teimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio, eu gwahaniaethu, a'u hymylu (Flores et al., 2021; Sze et al., 2020). Gall y rhain yn eu tro arwain at bobl o gefndir ethnig leiafrifol yn teimlo'n amheus, ac yn llai hyderus ynghylch dilyn mesurau iechyd cyhoeddus, gan gynnwys cynnal prawf covid neu gymryd rhan mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â covid (Sze et al., 2020).
Yn yr un modd, gall pobl o gefndiroedd BAME deimlo eu bod yn cael eu gwthio i'r ochr mewn ymchwil, ac o’i herwydd. Mae'n bosibl bod diffyg cynrychiolaeth grwpiau BAME mewn ymchwil (Chastain et al., 2020) yn dynodi hanes o ymchwil sy’n ethnosentrig ac sy’n allgáu unigolion. Mae hefyd yn bosibl bod profiad grŵp BAME o anghydraddoldebau yn dylanwadu'n uniongyrchol ar eu hamharodrwydd i ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus a'u gwrthodiad i gymryd rhan mewn ymchwil (Sze et al., 2020).
Yng Nghymru, mae'r llywodraeth wedi rhoi pwyslais cryf ar 'Gymru sy’n fwy cynhwysol a chyfartal'. Mae polisïau Cymreig nodedig yn pwysleisio egwyddorion fel cynhwysiant, cydraddoldeb, hawliau, annibyniaeth, grymuso, rheolaeth, a phartneriaeth (er enghraifft, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, 2015), i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau (Gwella Bywydau yn cefnogi Ffyniant i Bawb, 2018, t.1). O safbwynt ymchwil, mae hyn yn golygu canolbwyntio'n benodol ar faterion o'r fath a chynnal mwy o ymchwil sy'n adlewyrchu cyfansoddiad hiliol, ethnig a diwylliannol ein cymdeithas (Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru, 2021, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015). Fodd bynnag, efallai y bydd sawl her wrth fynd i'r afael â'r rhain yn llwyddiannus. Mae rhai o'r rhain wedi'u hamlygu isod.
Efallai y bydd angen i ymchwilwyr fod yn fwy ymwybodol o'r anghydraddoldebau sy'n bodoli yn ein cymunedau a sut mae'r rhain yn llunio profiadau a safbwyntiau pobl. Dylai'r rhain yrru ein hagenda ymchwil. Ar yr un pryd, gallai sut y gellid recriwtio unigolion o grwpiau pobl Dduon ac Ethnig Leiafrifol i astudiaethau ymchwil fod yn broblemus hefyd. Mewn astudiaeth ddiweddar a archwiliodd effaith Covid-19 ar bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru / y DU, er enghraifft, canfuwyd ei bod hi'n anodd iawn recriwtio cyfranogwyr o gymunedau BAME er gwaethaf awydd i wneud hynny.
Fe wnaeth trafodaeth ymhlith ymchwilwyr iechyd a chymdeithasol PDC arwain at y farn na ddylai’r heriau allweddol hyn atal y gwaith o ddatblygu ymchwil gynhwysol, benodol. Yng ngoleuni'r trafodaethau a'r profiadau hyn, mae'n amserol gwerthuso ffocws ymchwil bresennol PRIME yn feirniadol ac archwilio'r rhwystrau a'r hwyluswyr i wella cyfranogiad cymunedau ethnig leiafrifol mewn ymchwil.
Er mwyn helpu i ddatblygu capasiti a sensitifrwydd i'r materion a godwyd uchod, mae rhai aelodau o PRIME@PDC wrthi'n cymryd rhan mewn trafodaeth gyda Chydweithwyr o Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Y ffocws yw trafod syniadau i gefnogi ffyrdd o wella cynrychiolaeth grwpiau BAME ar bob lefel o ymchwil. Cytunwyd y byddai un dull yn edrych ar ddatblygu grŵp cynnwys y cyhoedd yn PDC a fyddai'n helpu tuag at ddatblygu ymchwil fwy cynhwysol a phenodol.
Gallai'r grŵp hwn gyfarfod yn rheolaidd (yn hytrach na chael ei ddwyn ynghyd ar gyfer prosiect penodol) a byddai'n cynghori PRIME@PDC ar ddatblygu, cynnal a lledaenu'r holl ymchwil. Byddai'r model arfaethedig yn debyg i'r un a ddefnyddir gan y Grŵp Cynghori ar Addysgu ac Ymchwil (grŵp o ddynion a menywod ag anableddau dysgu sydd wedi bod yn cyfarfod yn fisol yn y brifysgol ers 18+ mlynedd).
Drwy fabwysiadu dull rhagweithiol a thymor hwy, gobeithir y gellir cyflawni'r nodau canlynol:
- Archwilio profiadau pobl o gymunedau ethnig leiafrifol yng Nghymru ynghylch hwyluswyr a rhwystrau i'w hymgysylltiad ag ymchwil
- Nodi beth sydd angen ei wneud i oresgyn rhwystrau i gyfranogwyr posibl gymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol
- Sicrhau bod barn a phrofiadau uniglion o Grwpiau Pobl Dduon ac Ethnig Leiafrifol yn llywio pob cam o'r broses ymchwil.
- Gwerthuso canlyniadau gan ddefnyddio mesurau fel - nifer yr astudiaethau ymchwil gyda ffocws ar BAME, nifer y bobl o gymunedau BAME sy'n cymryd rhan mewn ymchwil ac ati.
Gan Dr Edward Oloidi