Mis Ymwybyddiaeth Menopos y Byd | Menopos yn ystod y pandemig

25 Hydref, 2021

Robin Andrews

Gall y menopos, a'r blynyddoedd cyn hynny (perimenopos), greu nifer o heriau.

Yn un peth, mae dros 30 o wahanol symptomau menopos, sy'n gallu ei gwneud yn anodd gwybod a yw symptomau'n cael eu hachosi gan y menopos neu gyflyrau iechyd eraill. Ymhlith y cyflyrau sy'n aml yn cael eu camgymryd am symptomau   menopos (ac i'r gwrthwyneb), mae anhwylderau thyroid, ffibromyalgia, ac iselder.

Hefyd, mae’r menopos yn cyflwyno'n wahanol mewn gwahanol unigolion. Canfuwyd, er enghraifft, bod menywod Indiaidd yn cael y  menopos yn gynharach na menywod Prydeinig, a bod menywod Asiaidd yn llai tebygol o adrodd am symptomau difrifol ar y cyfan o'u cymharu â menywod Affricanaidd Americanaidd, Gwyn a Hispanaidd.  Mae rhai menywod hefyd yn adrodd am gael patrymau symptomau mwy seicolegol, megis iselder, gorbryder, a niwl yr ymennydd, tra bo eraill yn dioddef mwy gan symptomau wrinwenerol, megis sychder faginol, rhyw poenus, a cholli libido.

Oherwydd bod y menopos yn gallu amrywio o berson i berson, gall hyn wneud trin y menopos yn arbennig o anodd. Y rheswm am hyn yw bod menywod yn cyflwyno amrywiaeth o symptomau nad ydynt yn gysylltiedig yn unswydd â’r menopos, gan gynnwys problemau treulio, alergeddau, croen yn cosi, curiad calon afreolaidd, a theimladau tebyg i sioc drydanol, yn ogystal â’r cyfnodau o deimlo’n boeth a chwysu yn y nos, sef y symptomau fasreoli.

Mae ymchwil yn dangos bod menywod yn eu menopos yn llai tebygol o geisio cymorth gyda’u symptomau, hyd yn oed pan fyddant yn wanychol. Mae nifer o resymau pam nad yw menywod yn mynd am gymorth gyda’r menopos. Mae rhai’n rhesymau ymarferol eu natur, er enghraifft, gall gofynion gwaith a theulu ei gwneud yn anodd mynychu apwyntiadau meddyg yn ystod amseroedd agor meddygfeydd teulu. Mae tystiolaeth arall yn pwysleisio sut y gall credoau tabŵ am y menopos fod yn rhwystr i geisio cymorth: canfu arolwg gan Gymdeithas Menopos Prydain  dystiolaeth fod llawer o fenywod yn teimlo'n chwithig yn trafod symptomau personol iawn gyda'u meddyg, yn enwedig pan nad oedd darparwr iechyd benywaidd ar gael. Yn ogystal, oherwydd natur y cyflwr hwn, mae llawer o fenywod yn ystyried y menopos yn gyfnod pontio naturiol nad oes angen triniaeth arno, ac mae'r athroniaeth hon ynddi ei hun yn rhwystr i ofal iechyd. 

Fodd bynnag, gall dechrau'r menopos yn aml gyd-daro â nifer o gyflyrau iechyd hirdymor, gan gynnwys osteoporosis, clefyd y galon, ac iselder. Gall gadael symptomau menopos difrifol heb eu trin am gyfnodau hir arwain at ansawdd bywyd gwaeth, a all waethygu problemau iechyd. Yr hyn sy'n peri pryder mawr yw bod y menopos hefyd wedi bod yn gysylltiedig â risg hunanladdiad, a chadarnhaodd tystiolaeth, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fod menywod rhwng 51 a 54 oed yn y DU yn fwy tebygol nag unrhyw fraced oedran benywaidd arall o’u lladd eu hunain.  Yn y DU, yr oedran cyfartalog ar gyfer y menopos yw 51 oed.

Gyda'r materion hyn mewn golwg, mae'n bwysig iawn chwilio am atebion fydd yn annog menywod yn eu menopos i geisio triniaeth feddygol yn brydlon ac yn ôl yr angen.

Yn ystod Covid 19, mae mwy o bobl yn dewis ymgysylltu â ffynonellau gwybodaeth ar-lein. Mae gwirwyr symptomau yn dod yn fwyfwy pwysig i'r rhai sy'n credu y gallent fod yn mynd drwy’r perimenopos neu’r menopos. Gall teclynnau gwirio symptomau helpu menywod i wybod a allai eu symptomau fod yn rhai menopos mewn gwirionedd, a gallant roi mwy o addysg i fenywod ar eu symptomau. Gall hyn, yn ei dro, eu galluogi i'w trafod yn hyderus gyda'u clinigwyr.

Rwyf wedi bod yn ymchwilio i ddylanwad teclynnau iechyd ar-lein ar ganlyniadau iechyd menopos, mewn cydweithrediad â Health & Her, gwefan ar-lein sydd â’r bwriad o gefnogi menywod yn eu menopos. Un o nodweddion allweddol y safle yw'r gwiriwr symptomau ar-lein (healthandher.com/symptom-tool/).

Fel rhan o fy ymchwil, fe wnes i gynnal arolwg ymhlith defnyddwyr teclynnau gwirio symptomau a chanfod eu bod yn cynyddu’r tebygrwydd o fynd am gymorth meddygol, ac yn gwella cyfathrebu â gweithwyr iechyd proffesiynol, ac ymwybyddiaeth o faterion iechyd. Dywedodd llawer o fenywod fod eu symptomau wedi gwella ers defnyddio'r teclynnau gwirio hyn, a’u bod yn gweld cysylltiad rhwng y gwelliant hwn yn eu symptomau a chael eu grymuso i geisio cymorth ar gyfer eu symptomau.

Disgrifiodd ymatebwyr hefyd sut roedden nhw’n ymdopi â'r menopos yn ystod Covid-19. Roedd llawer o fenywod wedi dewis ymgysylltu mwy â theclynnau ar-lein a ffynonellau gwybodaeth ar y rhyngrwyd wrth iddyn nhw wynebu rhwystrau cynyddol i ofal iechyd wyneb yn wyneb.  Dywedodd cyfranogwyr hefyd eu bod wedi dod yn fwy ymwybodol o iechyd yn ystod y pandemig a’u bod yn ystyried y teclynnau gwirio symptomau’n adnodd addysgol dibynadwy.

Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod angen i ymchwil feddygol werthuso'r ffordd mae adnoddau iechyd ar-lein yn cael eu defnyddio, ac mae'r angen hwn wedi dod yn arbennig o berthnasol yng ngoleuni'r pandemig, wrth i ddarpariaeth iechyd symud tuag at fformatau digidol.

Er gwaethaf ei anfanteision, gellir ystyried y menopos hefyd fel carreg filltir sy'n arwain at fwy o ryddid a mwy o gyfleoedd. Mae menopos yn nodi diwedd y mislif, sydd hefyd yn golygu diwedd ar y Syndrom Cyn Mislif a phoeni am feichiogi. Mae llawer o fenywod yn adrodd am deimladau o rymuso a hyder ar ôl y mislif, gan fod y digwyddiad hwn yn aml yn cyd-daro â mwy o sefydlogrwydd ariannol a llai o ymrwymiadau teuluol, sy’n rhoi  mwy o amser iddyn nhw ganolbwyntio arnyn nhw eu hunain a'r hyn sy'n eu gwneud yn hapus. 

Fodd bynnag, i'r rhai sydd eu hangen, gallai teclynnau iechyd digidol ddarparu ffordd o gael gafael ar wybodaeth iechyd brydlon a pherthnasol, a all yn ei dro eu hysbrydoli i chwilio am gymorth meddygol amserol a theimlo mwy o reolaeth dros eu taith drwy’r menopos.

Mae Robin Andrews yn Ymchwilydd Doethurol a ariennir gan Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth ym Mhrifysgol De Cymru.