Rebecca’n ennill gwobr tra bo’i mab yn disgwyl calon newydd
22 Hydref, 2021
Byddai gweithio'n llawn amser, astudio'n rhan-amser ar gyfer gradd, a gofalu am deulu â phâr o efeilliaid, yn fwy na digon o her ar y gorau.
Ond pan fydd un o'ch meibion yn cael diagnosis o gyflwr difrifol ar y galon a'ch bod yn cael gwybod y bydd yn rhaid iddo gael trawsblaniad calon, mae straen ychwanegol, yn naturiol.
Ond mae Rebecca Manley, sy’n 44 oed ac yn astudio at radd mewn Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) ar ôl cwblhau HND yn y pwnc, yn ddirwgnach, ac mae hefyd newydd gael ei gwobrwyo’n Dirfesurydd Meintiau Mwyaf Addawol 2020 gan Gymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) Cymru, sy'n cynrychioli busnesau contractio peirianneg sifil.
Bu llwybr Rebecca at yrfa mewn arolygu meintiau’n anghyffredin a dweud y lleiaf. Bu'n gweithio mewn canolfan alwadau cyflenwr nwy tan ddiwedd ei hugeiniau, ac yna symudodd i waith recriwtio, ac yna caffael. Pan ddywedodd cyn-gydweithiwr wrthi fod swydd ar gael yn y cwmni peirianneg sifil ac adeiladu, Alun Griffiths, gwnaeth gais llwyddiannus amdani.
Mae bellach yn gweithio i’r cwmni ar safle metro newydd De Cymru yn Ffynnon Taf, yn canolbwyntio ar adeiladu'r Ganolfan Reoli Integredig, yn monitro costau ac isgontractwyr.
Mae gweithio ar un o brosiectau seilwaith mwyaf de Cymru wedi cyflwyno heriau dyddiol i Rebecca dros y 18 mis diwethaf, ond roedd clywed bod un o’i meibion yn byw gyda chyflwr difrifol ar y galon yn fwy o her o lawer.
"Fe wnaethon ni ddarganfod ym mis Mehefin 2021 fod y cyflwr ar Billy, ac mae e bellach dan ofal Ysbyty Great Ormond Street," meddai.
"Ar ôl y diagnosis cychwynnol, does dim sicrwydd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd nesaf a dweud y gwir. Rydyn ni wedi bod i Great Ormond Street ychydig o weithiau, ac yn mynd ’nôl ym mis Hydref i fonitro capasiti ei ysgyfaint ac i ba raddau maen nhw’n cyflawni eu swyddogaeth. Bydd e’n cael sgan MRI i weld sut mae ei galon a'i ysgyfaint yn gweithio.
"O hynny byddan nhw’n penderfynu a fyddwn ni’n cael ein rhoi ar y rhestr aros ar gyfer trawsblaniad ar unwaith, neu fyddwn ni’n dychwelyd ymhen blwyddyn – mae’n benderfyniad pwysig achos dydych chi ddim eisiau iddo fynd yn sâl yn y cyfamser, yn amlwg.
"Wedyn bydd tua blwyddyn ar y rhestr aros. Ar ôl cael trawsblaniad byddai ar feddyginiaeth am weddill ei oes, ond byddai ansawdd ei fywyd yn well nag y mae ar hyn o bryd.
"Mae gan Billy efell, Tommy, ac mae’n eithaf hawdd gweld y gwahaniaeth. Dyw Billy ddim yn bwyta cymaint â'i frawd, a dyw e ddim mor actif. Mae'n colli ei anadl ac yn blino’n llawer haws."
I gefnogi Ysbyty Great Ormond Street, cwblhaodd Rebecca her 2,000 o sgwatiau y mis diwethaf, gan godi £6,000 i'r ysbyty.
Er ei bod yn canolbwyntio ar y presennol, mae Rebecca yn bwriadu parhau â'i datblygiad proffesiynol i ennill statws Siartredig gan ei chorff proffesiynol, Sefydliad Siartredig Syrfewyr Peirianneg Sifil (CICES).
Ac er nad yw'r 18 mis diwethaf wedi bod yn ddelfrydol, gyda'r pandemig a chyflwr ei mab, mae Rebecca'n hael ei chanmoliaeth i PDC.
"Roeddwn i'n cael trafferth dysgu ar-lein i ddechrau gan fy mod i'n hoffi bod gyda phobl, ac mae'n well gen i ryngweithio wyneb yn wyneb," meddai. "Ond ar y cyfan rwyf wedi cael profiad cadarnhaol iawn.
"Ers y diagnosis rwyf wedi cael llawer o gefnogaeth gan staff PDC, mae wedi bod yn anhygoel. Maen nhw'n gwneud eu gorau glas i helpu, ac alla i ond diolch iddyn nhw."
Mae Rebecca yn codi arian ar gyfer Ysbyty Great Ormond Street trwy Justgiving- mwy yma.