VampFest yn cyrraedd Caerdydd – mewn pryd ar gyfer Calan Gaeaf

29 Hydref, 2021

Spooky bats at night.jpg

Mae Gŵyl Fampir fwyaf y byd - sy’n cael ei rhedeg gan ddau Gymro - yn symud o Transylfania i Gaerdydd, gyda chymorth staff a myfyrwyr o Brifysgol De Cymru (PDC).

Cynhelir Gŵyl Ffilm a Chelfyddydau Rhyngwladol Fampir - a elwir hefyd yn VampFest - rhwng 15-18 Mehefin 2022. Nawr yn ei chweched flwyddyn, meddylfryd darlithydd Newyddiaduraeth PDC, Craig Hooper, a threfnydd Gŵyl Elvis Porthcawl, Peter Phillips, yw'r digwyddiad. Bydd yn cael ei lansio ddydd Gwener yma (29 Hydref) yn Insole Court yng Nghaerdydd - y plasty gothig Fictoraidd a ddefnyddir fel lleoliad ffilmio ar gyfer cyfres ddrama ffantasi Sky One, A Discovery of Witches.

Bydd VampFest yn cynnwys ffilmiau brawychus, sinema awyr agored atmosfferig a theatr gerddorfaol, gwesteion enwog, awduron, trafodaethau academaidd, confensiynau cefnogwyr, diwrnod adrodd storïau teuluol ysblennydd, seremoni fawreddog Gwobrau Golden Stakes a’r Vampire Soiree chwedlonol, mewn gwisg eithafol.  Lleolir y digwyddiad yn Insole Court, gydag o leiaf un diwrnod yn dathlu A Discovery of Witches, wrth i’r gyfres deledu hynod lwyddiannus gael ei gwneud yn gyfan gwbl yng Nghymru.

Dangosir rhaglen o ffilmiau fampir clasurol, Beyond the Vampire’s Lair, yng Nghanolfan Gelf Chapter ynghyd â llawer o ddigwyddiadau eraill gan gynnwys cabaret fampirig, Escape Rooms a’r Ddawns Blood Donor a gynhelir mewn gwahanol leoliadau ledled y ddinas rhwng 15-18 Mehefin.

Bydd staff a myfyrwyr PDC yn cymryd rhan ym mhob elfen o VampFest, o weithio ar gynyrchiadau theatr, rhaglennu ffilmiau a rhedeg y sianeli cyfryngau cymdeithasol, i drefnu Cynhadledd Academaidd Fampir a llawer mwy. Bydd ‘666 Words’, cystadleuaeth ar gyfer awduron storïau byrion dan-16, hefyd yn rhan o'r digwyddiad. Bydd myfyrwyr Goleuo a Digwyddiadau Byw PDC yn helpu i osod yr olygfa ar gyfer lansiad yr ŵyl ddydd Gwener, tra bydd myfyrwyr Drama yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad llwyfan o Dracula.

Dywedodd Peter Phillips: “Ar gyfer y genre arswyd mwyaf yn y diwydiannau ffilm, teledu a llenyddiaeth, nid oes unrhyw ddigwyddiad arall tebyg iddo, lle mae gwneuthurwyr ffilm, ysgrifenwyr, actorion, awduron, perfformwyr, academyddion a chefnogwyr yn cael cwrdd, cymysgu a rhannu brathiad i’w yfed. Ar ôl sefydlu’r digwyddiad am nifer o flynyddoedd yn Transylfania, a chymryd taith cyn-bandemig trwy Highgate Village, rydym yn gyffrous ein bod yn dod â’r ŵyl i Gymru.”

I gael mwy o fanylion ar VampFest, ewch i www.ivfaf.com