Cydnabyddiaeth i PDC am ei gwaith yn cefnogi ffoaduriaid
15 Ionawr, 2021
Mae tîm Cynllun Noddfa Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches PDC wedi cael eu cydnabod am eu gwaith yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, wrth i fframwaith newydd unigryw gael ei lansio gan brifysgolion Cymru.
Wedi ei ddatblygu gan Rwydwaith Cenhadaeth Ddinesig Cymru, y fframwaith newydd yw'r cyntaf o'i fath yn y DU a'i nod yw helpu prifysgolion i adeiladu ar y ffyrdd maen nhw’n yn gweithio gyda phobl, ysgolion a chymunedau. Bydd yn cefnogi prifysgolion i sicrhau buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol drwy gysylltu'n agosach â chymunedau ledled Cymru a’r tu hwnt.
Lansiwyd y fframwaith yn swyddogol yn Arddangosiad Cenhadaeth Ddinesig Prifysgolion Cymru, gyda Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AS, yn rhoi'r brif araith. Yn ystod y digwyddiad ar-lein, tynnwyd sylw at waith PDC fel enghraifft ddisglair o gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled Cymru.
Dan arweiniad Dr Mike Chick, mae'r Cynllun Noddfa Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yn galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at hyfforddiant a pharatoadau iaith cyn dechrau ar eu gradd – rhywbeth nad yw'n cael ei gynnig gan unrhyw brifysgol arall yng Nghymru.
Y fframwaith, y cyntaf yn y byd lle mae holl brifysgolion cenedl gyfan wedi ymrwymo iddo, yn blaenoriaethu cenhadaeth ddinesig SAU a chryfhau cysylltiadau â'r cymunedau o'u cwmpas. Mae'n galluogi prifysgolion i rannu arfer gorau wrth ddatblygu a chyflawni prosiectau cenhadaeth ddinesig, ac mae'n helpu'r sector drwy arddangos effaith gadarnhaol ei waith cenhadaeth ddinesig.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth wraidd y Fframwaith Cenhadaeth Ddinesig, gyda saith nod llesiant y ddeddfwriaeth unigryw hon yn ffurfio'r egwyddorion allweddol i lywio ac arwain sut mae prifysgolion yn cyfrannu at genhadaeth ddinesig yng Nghymru.
Wrth siarad yn y digwyddiad lansio, dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor PDC a Chadeirydd Prifysgolion Cymru: "Mae'r tarfu sydd wedi ei greu gan Covid-19 wedi dangos bod gan brifysgolion yng Nghymru allu unigryw i ddod at ei gilydd a chreu effaith wirioneddol ar gymunedau ar adegau o angen. Mae prifysgolion Cymru yn deall bod y genedl yn wynebu llu o heriau dros y blynyddoedd nesaf a bod yn rhaid i'w rôl o ran arfogi'r genedl i ymateb i'r heriau hynny fod yn flaenoriaeth strategol. Byddant yn parhau i flaenoriaethu cenhadaeth ddinesig ac yn trafod gydag arweinwyr yn eu rhanbarthau i fynd i'r afael â newidiadau cymdeithasol allweddol a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'w cymunedau."