Gŵyl gerddoriaeth yn dychwelyd yn rhithiol i gefnogi doniau lleol

26 Ionawr, 2021

Music festival returns virtually to support local talent

Bydd gŵyl Immersed! 2021 yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 29 a 31 Ionawr er budd Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau

Bydd gŵyl gerddoriaeth yng Nghaerdydd a drefnir gan fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru yn dychwelyd ym mis Ionawr 2021 gyda chalendr tri diwrnod yn llawn digwyddiadau ar-lein.

Bydd Immersed! 2021 yn arddangos rhai o ddoniau cerddorol gorau de Cymru. Mae hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynghylch amrywiaeth, tra'n amlygu'r heriau sy'n wynebu lleoliadau cerddoriaeth fyw Cymru yng ngoleuni pandemig Covid-19. Bydd holl elw'r digwyddiad yn mynd at elusen y mae’r Ysgol wedi ei chefnogi ers tipyn, sef Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau.

Bydd enillwyr Gwobrau Cerddoriaeth Cymru gan gynnwys Adwaith, Bandicoot, ac Otto, ynghyd ag artistiaid fel Mace the Great, yn perfformio ar rith-lwyfannau, gyda'r digwyddiad wedi'i gynllunio i gynnig profiad ymdrochol o’r dalent gerddorol sydd mor amlwg yn ne Cymru. Mewn ymgynghoriad â cherddorion, hyrwyddwyr a labeli o Gaerdydd, mae'r trefnwyr wedi ymdrechu i arddangos sîn gerddoriaeth fyw fywiog yr ardal a dathlu pob rhan o'i diwylliant cerddorol.

Mae'r rhaglen amrywiol yn cynnwys mwy nag erioed o fenywod yn perfformio a chyflwyno, yn ogystal â chynrychiolaeth o gymunedau ethnig ac artistiaid LHDTC+.  Mae llawer o'r perfformiadau fydd yn rhan o’r ŵyl yn cynnwys myfyrwyr cerddoriaeth o PDC yn ogystal â nifer o gyn-fyfyrwyr PDC. Bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda bandiau, artistiaid, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr, ynghyd â dosbarth meistr cynhyrchu a sesiwn Holi ac Ateb gyda’r arbenigwr drymio a bas High Contrast.

Sefydlwyd y digwyddiad dair blynedd yn ôl ac mae'n parhau i gael ei reoli gan fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru, sydd wedi gweithio gyda cherddorion, hyrwyddwyr a labeli o Gaerdydd i arddangos sîn gerddoriaeth fyw fywiog y ddinas. Y llynedd gwerthwyd pob tocyn i Immersed! yn Tramshed a chodwyd miloedd o bynnoedd i Ymddiriedolaeth Canser yr Arddegau. Yr uchelgais ar gyfer 2021 yw adeiladu ar y llwyddiant hwn i hyrwyddo mwy o gerddoriaeth newydd a mwy o amrywiaeth ac i gefnogi achosion teilwng iawn yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Dywedodd Gruff Owen, perchennog y label gerddoriaeth Gymreig Libertino Records: "Mae Libertino yn falch iawn o gael eu llwyfan eu hunain yn Immersed! 2021. Roedd 2020 yn flwyddyn negyddol a dinistriol i'r celfyddydau i gyd, ond yn enwedig i'r sector cerddoriaeth fyw. Roedd dod ag eleni i ben drwy ffilmio diwrnod ein label ni yn uchafbwynt ac yn cynnig gobaith i'n hartistiaid a’r rhai fydd yn ymuno ar-lein â’r ŵyl.  Daw eto haul ar fryn, ac mae cerddoriaeth yn hollbwysig i godi’r galon unwaith eto."

Ynghyd â hyrwyddo rhai o dalentau gorau Caerdydd, bydd Immersed! 2021 hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ymgyrch #AchubEinLleoliadau #SaveOurVenues, sy'n ceisio cefnogi dros  400 o leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled y DU sydd dan fygythiad o gau. Bydd Tramshed, lleoliad cerddoriaeth a chelfyddydau yng Nghaerdydd, lle bydd perfformiadau'r ŵyl yn cael eu ffilmio, yn noddi llwyfan #AchubEinLleoliadau #SaveOurVenues ddydd Sadwrn a bydd elw o werthu nwyddau yn cael ei roi i gefnogi'r achos pwysig hwn.

Dywedodd y darlithydd, David Coker: "Mae'r 'normal newydd' sydd wedi ei greu gan y pandemig wedi peryglu popeth diwylliannol, ac er ei fod wedi effeithio heb os ar lawer o’n cynlluniau, mae Immersed! 2021 yn mynd yn ei flaen, diolch byth.  Gyda mwy o fandiau, mwy o 'lwyfannau', mwy o leoliadau, a mwy o gyfleoedd, mae'r digwyddiad eleni yn ceisio cefnogi artistiaid yn ystod y pandemig drwy gyrraedd dros ddeugain mil o sgriniau."

Dywedodd Ben Calvert, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru,: "Mae'r ŵyl yn fynegiant o’r cyfan rydyn ni'n gobeithio y bydd myfyrwyr PDC yn ei gyflawni. Rydyn ni’n ceisio dileu’r ffin rhwng diwydiant a'n myfyrwyr, ac mae hyn yn sicr yn rhoi cyfle iddynt effeithio ar eu maes, gyda chefnogaeth academyddion sydd â phrofiad o'r diwydiannau hynny."

 

Am wybodaeth bellach, gweler gwefan y digwyddiad a sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Gwefan: immersedfestival.co.uk

Facebook: @immersed.TS

IG: @immersed_fest

Trydar: @immersed2021

TikTok: @immersed2021