Lansio gêm Wallace a Gromit ar ôl prosiect yn cynnwys ymchwil gan PDC

25 Ionawr, 2021

ONLINE _ PRINT. The Spick _ Span mobile, Wallace _ Gromit_s van _ Squirt-O-Matic_ a contraption in The Big Fix Up. ‚í∏ Aardman Animations _ W_G Ltd. _ Fictioneers Ltd. 2020.jpg

Mae Wallace & Gromit: Big Fix Up wedi'i lansio, wedi i Prifysgol De Cymru (PDC) ddarparu cymorth ac arbenigedd ymchwil drwy gydol y prosiect realiti estynedig (RE).

Stiwdio animeiddio eiconig Aardman a Fictioneers sydd wedi lansio'r app, a dyma’r tro cyntaf erioed i'r cymeriadau poblogaidd Wallace a Gromit fentro i’r byd RE.

Yn ystod y prosiect, bu PDC yn gweithio gyda stiwdio animeiddio arobryn Aardman, a Fictioneers: consortiwm o gwmnïau o Brydain yn cynnwys Potato, Sugar Creative a Tiny Rebel Games, i gynhyrchu profiad realiti estynedig yn serennu Wallace a Gromit, gyda chefnogaeth ariannol gan UK Research & Innovation (UKRI). 

Wedi'i rendro mewn CG, bydd modd i ddefnyddwyr ryngweithio mewn llu o ffyrdd newydd ar yr app, a bydd ffans yn gallu mynd yn agosach nag erioed i'r ddeuawd eiconig. Mae’r profiad yn gyfoethog ac aml-haenog, diolch i dechnoleg arloesol. 

Gall defnyddwyr gemau ymuno â Wallace a'i gi ffyddlon, wrth i’w menter fusnes ddiweddaraf, Spick & Spanners, gychwyn ar ei jobyn mwyaf uchelgeisiol eto, sef 'Trwsio' Bryste.  Gwahoddir ffans i lawrlwytho app am ddim a chwarae gartref, ac am y tro cyntaf erioed byddan nhw’n gallu camu'n uniongyrchol i fyd Wallace & Gromit, mewn app symudol sy’n ‘ffenestr’ i’w byd.  

Mae ambell lais cyfarwydd yn y gêm hefyd. Miriam Margolyes, yr actor Prydeinig y mae Bafta wedi ei gwobrwyo, sy'n cymryd rôl BERYL: bot Deallusrwydd Artiffisial  Spick & Spanner, a Jim Carter sy’n portreadu’r miliwnydd Bernard Grubb sy’n berchen ar gwmni gwneud peis.

Mae stori newydd Wallace a Gromit yn brofiad sy’n gwbl seiliedig ar y cartref, sy'n golygu ei fod yn hygyrch i bawb sydd â ffôn clyfar diweddar.  

Mae The Big Fix Up wedi'i osod yn ninas Bryste, cartref Aardman, ond bydd pobl o bob rhan o'r DU yn gallu cymryd rhan yn yr antur, a fydd yn cyflwyno Wallace, Gromit, a chast cyffrous o gymeriadau newydd yn eu cartrefi eu hunain!

Dewiswyd Fictioneers gan UKRI i fod yn rhan o'u rhaglen Cynulleidfa'r Dyfodol, sy'n rhan allweddol o Fargen Sector Diwydiannau Creadigol y Llywodraeth, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018. Dyfarnwyd grant Ymchwil a Datblygu gwerth sawl miliwn i Fictioneers i ymchwilio i, ac arloesi, gyda phrofiadau trochi cyfoes.

Dywedodd Corrado Morgana, Rheolwr Academaidd Animeiddio a Gemau PDC: "Mae wedi bod yn bleser pur gweld canlyniad y cydweithio rhwng Fictioneers a PDC.

"Mae myfyrwyr PDC wedi bod yn cynnal profion chwarae a rhoi adborth gwerthfawr, ac mae staff PDC wedi cydlynu rhagor o waith ymchwil gyda chynulleidfaoedd, gan ddarparu mewnwelediad ar gyfer y gymuned ymchwil a datblygu ehangach.  Mae'r holl weithgarwch hwn wedi cyfrannu at ddylunio a datblygu’r  prosiect ac mae dosbarthiadau meistr ac interniaethau ar gyfer myfyrwyr wedi cynnig cyfleoedd ardderchog. 

"Mae'r prosiect wedi bod yn amhrisiadwy o ran amlygu ffyrdd newydd o weithio, ar y cyd, ar-lein a phrofi gallu'r diwydiannau creadigol i addasu i amgylchedd sy'n newid, a datblygu sgiliau allweddol ar gyfer dyfodol ein diwydiannau a'n myfyrwyr."