Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys: Lianne, sy’n dilyn cwrs Meistr, yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu
12 Mai, 2021
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, mae Lianne Illman, sy’n astudio at radd Meistr, yn esbonio sut aeth hi o fod yn rhywun adawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau i fod yn fyfyriwr ôl-radd.
Mae'n dipyn o ystrydeb dweud nad ydych chi byth yn rhy hen i ddysgu rhywbeth newydd, ond mae Lianne Illman, myfyriwr Meistr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn profi bod ’na sail i’r ystrydeb honno.
Er nad yw'n hen mewn unrhyw ystyr, mae Lianne, sy’n dod o Bont-y-pŵl, yn briod, ac yn fam i un, yn 48 oed, ac wrthi'n astudio ar gyfer MSc mewn Astudiaethau Iechyd Cymunedol. Mae hyn yn rhywbeth na fyddai wedi'i gredu o gwbl pan adawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau.
"Roeddwn i'n dipyn o rebel yn yr ysgol, felly doeddwn i byth yn ei gymryd o ddifri a lwyddais i ddim i basio unrhyw arholiadau," meddai.
"Ar ôl gadael yr ysgol fe wnes i nifer o swyddi, ond pan oeddwn i'n gweithio fel cynorthwyydd gofal mewn cartref nyrsio, roeddwn wrth fy modd. Bryd hynny, roeddwn i'n dawel iawn, ddim yn gallu gyrru, ond roeddwn i eisiau cael mwy o brofiad bywyd. Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n mynd i fynd i nyrsio ryw bryd, ond doeddwn i ddim yn gwybod pryd, felly roedd yn broses raddol dros ambell flwyddyn o'r adeg pan oeddwn i'n 24 oed."
Ar ôl dilyn cwrs coleg rhan-amser i gael ei TGAU Saesneg, dilynodd Lianne gwrs nyrsio rhagarweiniol dwy flynedd yng Nghasnewydd, cyn cofrestru yn y pen draw ar gyfer diploma mewn nyrsio yng Nghaerdydd yn y flwyddyn 2000.
Pan yn astudio ar gyfer y diploma daeth Lianne i wybod bod ganddi gyflwr oedd wedi effeithio ar ei dysgu erioed, heb yn wybod iddi.
"Pan oeddwn i'n gwneud y diploma, ges i ddiagnosis dyslecsia, a oedd fwy na thebyg yn esbonio pam roedd dysgu wedi bod mor heriol i fi," esboniodd. Ond fe wnaeth fy helpu i gael trefn ar bethau a deall fy arddull ddysgu.
"Rwyf wedi dysgu byw gydag ef, ond rwy'n cael trafferth gyda fy Saesneg, ac yn tueddu i orfod ailysgrifennu fy aseiniadau. Mae'n rhaid i mi gynllunio ymlaen llaw a dechrau aseiniadau'n gynnar oherwydd bod angen yr amser ychwanegol hwnnw arna i."
Ar ôl cwblhau ei diploma yn 2002, gweithiodd Lianne ar y wardiau i ddechrau. Newidiodd hyn pan ddaeth yn fam i Lili 15 mlynedd yn ôl, ac aeth i weithio mewn banc nyrsio er mwyn gallu gweithio o gwmpas anghenion gofal plant. Pan ddychwelodd i'r gwaith yn llawn amser 11 mlynedd yn ôl, dechreuodd rôl newydd yn y tîm nyrsio cymunedol yn Nhorfaen, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ar ôl dod yn ddirprwy reolwr ar y tîm nyrsys ardal, penderfynodd Lianne ei bod am ddatblygu ei harbenigedd ymhellach ac astudio ar gyfer gradd Meistr, gan ddechrau yn PDC yn y pen draw yn 2019.
"Yn y tîm ardal rydych chi'n fwy o ymarferydd annibynnol, mae'n rhaid i chi feddwl ‘y tu allan i'r bocs’ yn aml, a gwneud llawer o flaengynllunio," dywedodd Lianne.
"Oherwydd bod gen i brofiad ym maes nyrsio cymunedol, mae'r Radd Meistr wedi atgyfnerthu hyn. Mae wedi mynd â fi i'r lefel nesaf ac wedi rhoi darlun llawnach ac ehangach i fi ac wedi fy ngalluogi i ennill gwybodaeth academaidd y gallaf ei defnyddio yn fy rôl. Roedd yn gwneud i bopeth deimlo’n fwy real rywsut – yn rhoi’r darnau i gyd at ei gilydd."
Mae astudiaethau Lianne hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar ei theulu, yn enwedig ei merch 15 oed Lili.
"Fel teulu rydyn ni i gyd wedi tynnu at ein gilydd i fy ngalluogi i astudio a gweithio ar yr un pryd," dywedodd Lianne.
"Rwy'n credu ei fod yn gwneud lles i fy merch hefyd, gan ei fod yn dangos bod dysgu’n rhywbeth sy’n para gydol oes. Rwy'n ffodus iawn ei bod hi wrth ei bodd yn yr ysgol. Mae hi'n weithiwr da iawn ei hun, ac yn falch iawn fy mod i'n gwneud Gradd Meistr.
"Mae'n wych - mae’n ysbrydoli’r plant, achos maen nhw'n gallu gweld y gallan nhw anelu at hynny, ac y gall pobl lwyddo waeth beth sydd yn eu gorffennol."
Mae Lianne yn cyfaddef nad oedd ganddi lawer o hyder cyn dechrau'r cwrs, ond mae wedi gweld newid mawr ynddi hi ei hun ers dechrau ei Gradd Meistr.
"Wrth i'r ddwy flynedd fynd heibio, rwyf wedi datblygu fel person. Pan ddechreuais i, roeddwn i'n bryderus, doeddwn i ddim yn gwybod a allwn i ei wneud, ond rwyf wedi mwynhau'r flwyddyn ddiwethaf yn fawr ac rwy'n falch fy mod wrthi," dywedodd.
Mae'r newid agwedd hwn hefyd wedi cael ei gydnabod gan staff a chydweithwyr yn PDC, i'r fath raddau fel bod Lianne wedi ennill Myfyriwr Ôl-gofrestru Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng Ngwobrau Rhagoriaeth eleni, a gynhaliwyd gan Ysgol Gwyddorau Gofal PDC.
Wrth enwebu Lianne dywedodd dwy o’i darlithwyr, Angela Hiscocks a Donna Pace: "Ar ddechrau'r cwrs roedd Lianne yn ansicr iawn o'i gallu i gymryd rhan mewn unrhyw fath o astudio ac nid oedd yn hyderus ynddi hi ei hun o gwbl.
"Drwy gydol y modiwl cyntaf roedd gan Lianne ffocws cryf ac fe ymgysylltodd yn wych. Er gwaethaf y diffyg hyder cychwynnol, daeth Lianne i sylweddoli ei bod hi’n gallu astudio ar lefel Meistr ac roedd yn benderfynol o lwyddo.
"Mae hyn wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i'r tîm addysgu Nyrsys Ardal."