Sut yr arweiniodd cyfarfyddiad ar hap at gofnodi stori sawl bywyd

10 Mai, 2020

Howard Williamson and Milltown Boys at 60.jpg

Mae'r Athro Howard Williamson, Athro mewn Polisi Ieuenctid Ewropeaidd ym Mhrifysgol De Cymru (PDC), wedi cyhoeddi llyfr newydd, The Milltown Boys at Sixty (Routledge 2021). Mae'r llyfr yn ddilyniant i The Milltown Boys Revisited (Berg 2004), oedd yn cofnodi profiadau grŵp o ddynion o Dde Cymru tan iddyn nhw gyrraedd eu deugain oed, yr oedd wedi'u hastudio gyntaf pan oedden nhw yn eu harddegau yng nghanol y 1970au.

Sut dechreuoch chi astudio'r bobl ifanc sy'n ymddangos yn llyfrau’r Milltown Boys?

Ar hap yr oedd y cyfan.   Roedd gen i fflat yn 'Milltown' yn 1973, a digwyddais gwrdd â rhai o'r 'Bechgyn' ar ymweliad â'r siopau. Gwnes i wirfoddoli yn eu 'clwb ieuenctid' fel roedd e’n cael ei alw, a – ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar ôl dysgu llawer amdanyn nhw – es i ati i archwilio’u profiadau gyda’r system cyfiawnder troseddol a'u barn amdani.  Roedd hynny'n golygu treulio llawer o amser gyda'r Bechgyn, mynd i'r llys gyda nhw ac ymweld â hwy mewn canolfannau cadw.

Mae wedi bod yn brosiect hir, tua 50 mlynedd. Sut ydych chi wedi llwyddo i gadw mewn cysylltiad â'r Bechgyn?

Cael a chael oedd hi!  Symudais i ffwrdd yn 1979 ac ysgrifennais am gyfnod a fu’n un diddorol iawn.  Yna cyhoeddwyd hwn fel llyfr (Five Years, y Biwro Ieuenctid Cenedlaethol 1981).  Roedd yn darlunio'r amgylchedd yr oedd y Bechgyn yn byw ynddo ac yn sôn am eu ffordd o fyw, ac yn proffilio pump o'r Bechgyn ac yn ystyried llwybrau gwahanol eu bywydau rhwng 13 ac 18 oed. Dyna egluro teitl y llyfr, er mai 'Five Years' yw trac agoriadol albwm Ziggy Stardust Bowie hefyd, cân a oedd mor bwysig i fi a’r Bechgyn.   Bowie oedd eu harwr.

Fe gadwais mewn cysylltiad i raddau â'r pump, ac ambell un arall, ond collais gysylltiad â'r rhan fwyaf o'r Bechgyn mewn gwirionedd.  Ugain mlynedd yn ddiweddarach, fodd bynnag, a minnau erbyn hynny’n weithiwr ieuenctid proffesiynol, yn ymgynghorydd polisi ieuenctid rhan-amser ac yn academydd rhan amser, roedd llawer o ddiddordeb academaidd a pholisi mewn pobl ifanc a oedd 'wedi ymddieithrio' – a dyma ddechrau meddwl tybed beth oedd wedi digwydd i'r Bechgyn.  Wedi'r cyfan, gellid dadlau mai nhw oedd y genhedlaeth gyntaf o'r hyn y gwnes i’n ddiweddarach eu galw’n ieuenctid 'statws zer0' – y rhai nad oedden nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (y defnyddir y term erchyll 'NEET' i’w disgrifio erbyn hyn).  Gadawodd y Bechgyn yr ysgol yn swyddogol yng nghanol y 1970au pan oedd swyddi di-grefft lleol yn diflannu.  Oedden nhw wedi parhau i fyw bywyd ar yr ymylon neu wedi dilyn rhyw lwybr arall?

Gyda chymorth a chefnogaeth y rhai yr oeddwn wedi aros mewn cysylltiad â nhw, holais 30 o'r Bechgyn a gwneud cyfweliadau hynod o fanwl gyda nhw, a thrawsgrifio 500,000 o eiriau.   Bues i wrthi am bedair blynedd yn dadansoddi'r deunydd a chreu The Milltown Boys Revisited.

Beth sydd wedi aros gyda chi’n bennaf am y Bechgyn?

Yn gyntaf, y teyrngarwch rhyngddyn nhw, waeth pa mor dda neu wael y bu eu bywydau.  Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi aros yn deyrngar i’w gilydd drwy bopeth.   Yn ail, eu gwydnwch anhygoel – y penderfyniad i oroesi, drwy ba ffordd bynnag.   Wrth gwrs, mae rhai wedi peidio â gallu llwyddo, ond gall barn o’r tu allan fod yn anghywir.   O gymryd 'Spaceman', er enghraifft, gallech benderfynu ei fod wedi cael bywyd trasig – yn byw ar ei ben ei hun mewn fflat fach, wedi derbyn yr eneiniad olaf ar un adeg, wedi bod yn alcoholig, yn gaeth i heroin, mewn ac allan o'r carchar, bellach yn dioddef o emffysema ac anhwylderau eraill, ac wedi bod yn ddi-waith erioed i bob golwg.   Ond byddai'n rhaid i chi ailystyried pe bawn i hefyd yn dweud wrthoch chi ei fod wedi bod yn bync llawn bywyd ac ysbryd, yn bartïwr heb ei ail, yn siaradwr huawdl a gwybodus, yn rhywun gafodd radd mewn Celfyddyd Gain yn 41 oed, yn rhywun sy’n cyfrannu at fy modiwl ar Bolisi Cymdeithasol a Phobl Ifanc, sydd wedi creu’r cloriau ar gyfer fy ail lyfr, a’r trydydd, ac sydd wedi gwerthu rhai o'i baentiadau, sy'n fwy nag a wnaeth Van Gogh yn ystod ei oes!

Rhaid i ni fod mor ofalus o ran pasio barn neu wthio’r Bechgyn i'r categorïau cymdeithasol neu esboniadau damcaniaethol mae academyddion mor hoff ohonyn nhw.

A'r hyn sydd bob amser yn aros gyda fi yw eu hiwmor, mewn cyfnodau da a drwg.  Hiwmor sy’n eu cynnal nhw. Mae’n fy lladd i bron – bydda i'n chwerthin cymaint pan fydda i gyda nhw.

Beth fu rhan anoddaf y prosiect?

Heb unrhyw amheuaeth, gweld rhai ohonyn nhw’n mynd i iechyd gwael cynamserol (weithiau drwy gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol, weithiau drwy salwch corfforol, yn amlach drwy salwch meddwl) neu’n marw.  O'r pum Bachgen yn Five Years, mae dau bellach wedi marw, mae un yn dioddef yn wael iawn o iselder ac mae un arall yn byw bywyd cwbl feudwyaidd.  Dim ond Danny sy'n dal i fyw bywyd llawn.   Effeithiodd marwolaeth Marty yn 2014 arnaf yn ddwfn; fe oedd y cyntaf o'r Bechgyn i fi gwrdd ag e.   Bu farw Ted o ganser ym mis Ionawr 2021.  Roedden ni’n gwybod ei fod yn marw ac roeddwn i’n gobeithio y byddai'r llyfr yn cael ei gyhoeddi cyn iddo farw.  Yn anffodus, ddigwyddodd hynny ddim.   Ond fe es i i’r angladd, ac roedd yn dipyn o anrhydedd – dim ond lle i 30 oedd, oherwydd cyfyngiadau Covid, ond fe wnaeth ei deulu a'i ffrindiau le i fi yn eu plith.

Beth oedd eich hoff ran o'r prosiect?

Rwy'n credu mai'r derbyniad ges i gan y Bechgyn wrth gysylltu â nhw, yn gorfforol neu'n rhithiol.  Weithiau rwyf heb siarad â nhw ers blynyddoedd, neu ddegawdau hyd yn oed, ond mae’n teimlo fel ddoe bob tro.  O bryd i'w gilydd, maen nhw’n cysylltu â fi. Rai blynyddoedd yn ôl gadawodd Tony neges ar fy ffôn: 'Howard, os nad wyt ti wedi marw ac mai hwn yw dy rif di o hyd, ffonia fi'n ôl'.  Doedden ni ddim wedi siarad ers 15 mlynedd ond pan wnaethon ni ailgysylltu, buon ni’n sgwrsio am dair awr a mwy.   Mae'r rhai rwyf wedi cadw mewn cysylltiad â nhw bob amser wedi rhoi croeso cynnes i fi. Ond mae’n bosib iawn nad yw’r rheiny nad ydyn nhw’n rhannu atgofion cynnes amdana i ddim wedi trafferthu cadw mewn cysylltiad!

Wnaethoch chi erioed ystyried peidio â gwneud y prosiect?

Doedd gwneud y prosiect erioed yn rhan o’r cynllun.   Ar hap y digwyddodd pob cam o’r broses mewn gwirionedd.   Roeddwn i wedi bod yn meddwl, byth ers i mi gyfweld â'r Bechgyn yn 2000 pan oedden nhw’n 40 oed, am ysgrifennu amdanyn nhw eto ar eu penblwyddi’n 60 oed, ond syniad digon amhendant, ffwrdd â hi oedd e i gychwyn.   Ond yn raddol daeth yn syniad mwy pendant, yn gyntaf yn angladd Marty ac wedyn yn angladd mab Gary, a laddodd ei hun.   Dywedodd Gary ei bod yn bryd cael llyfr arall, roedd cryn dipyn o'r Bechgyn a oedd yno'n cytuno, a dechreuais ystyried y syniad o ddifri.

Ond roeddwn i'n rhy brysur gyda phethau eraill i fynd ati go iawn, tan argyfwng Covid.  Daeth fy mhrysurdeb i ben, ac roedd y Bechgyn yn fwy rhydd hefyd am wn i.   A dyma benderfynu mynd ati.   Gyda marwolaeth Ted fe ddes i sylweddoli bod rhywfaint o frys, felly dechreuais o ddifri – gyda chaniatâd Gary – ddiwedd Mawrth 2020.  Gwnes i gyfweliadau hir ar-lein gyda 12 o'r Bechgyn dros yr ychydig fisoedd nesaf a chwblhau'r llawysgrif erbyn mis Medi.  Ers hynny, mae wedi bod yn gyfnod prysur o gynhyrchu, marchnata a hyrwyddo drwy Routledge!  Flwyddyn a diwrnod ers dechrau dyma fi’n derbyn fy nghopi cyntaf!  Ac rwyf eisoes wedi bod yn ysgrifennu nodiadau ar gyfer y dyfodol, wrth i sylwadau gael eu cynnig ac wrth i'r Bechgyn ymateb.  Aeth fy nghopïau cyntaf o'r llyfr i Spaceman a Gary – am resymau amlwg - ychydig wythnosau'n ôl, a phan fyddaf yn prynu mwy byddaf yn anfon copi 'diolch' wedi'i lofnodi i bob un o’r Bechgyn eraill a gyfrannodd at y llyfr diweddaraf hwn.

Fyddech chi'n cynghori eraill i wneud rhywbeth tebyg h.y. ymgymryd â darn mor hirdymor o ymchwil?

Alla i ddim dweud ei fod wedi bod yn ymrwymiad enfawr, oherwydd wnes i erioed ymrwymiad swyddogol iddo.  Daeth y llyfr cyntaf o ymchwil ôl-radd.  Cafodd yr ail ychydig bach o gyllid (£20,000 gan y Loteri) ac arbrawf oedd e i raddau, oherwydd doedd dim sicrwydd y gallai gael ei gyflawni.  Mae'r llyfr diweddaraf wedi digwydd ar hap braidd yn sgil bachu ar gyfle’r foment.

Felly doedd byth cynllun mawreddog!  Gweithiwr ieuenctid ydw i.  Dyna’r fath o berthynas oedd gen i gyda rhai o'r Bechgyn pan oedden nhw’n ifanc ac mae hynny wedi galluogi'r ymchwil i symud yn ei flaen, wrth i gyfleoedd godi.  Heb y berthynas honno, dydw i ddim yn credu y byddai’r astudiaeth wedi bod yn bosibl, yn sicr i’r dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth sydd wedi bod yn bosibl.  Efallai nad oes neb wedi creu 'ethnograffi hydredol' mor hir o’r blaen; mae'n wahanol iawn i ddilyn carfannau drwy holiaduron dros amser.

Ond i ateb eich cwestiwn, dydw i ddim yn credu y byddwn i’n cynghori rhywun i fynd ati.   Byddai'n anodd iawn ei gynllunio.   Ond pe bai’r cyfle'n codi..... ?

Sut ydych chi'n defnyddioch ymchwil wrth addysgu?

Mewn myrdd o ffyrdd, gobeithio.  Nid dyma'r unig ymchwil rwyf wedi'i wneud, o bell ffordd.  Ar ôl bod yn ymchwilydd contract dros nifer o flynyddoedd, rwyf wedi gwneud nifer o brosiectau ymchwil ar faterion ieuenctid a phethau eraill, yn cwmpasu meysydd polisi o entrepreneuriaeth i gamddefnyddio cyffuriau.  Rwyf wedi bod yn weithiwr ieuenctid ers 25 mlynedd.  Rwyf wedi bod yn ymgynghorydd polisi ieuenctid ar sawl lefel lywodraeth ac mewn llawer o wahanol wledydd.  Rwyf yn dod â hynny i gyd i fy addysgu, sy'n ymwneud ag astudiaethau ieuenctid, polisi cymdeithasol ac allgáu cymdeithasol.  Ac mae fy ngwybodaeth am fywydau ifanc a chwrs bywyd, o ’nghysylltiadau â Bechgyn Milltown, yn rhan o'r cyfuniad o syniadau a phrofiad rwy’n ei ddefnyddio wrth ddarlithio neu diwtora a goruchwylio unigolion.

Unrhyw beth arall hoffech chi ei rannu gyda ni?

Dau beth.  Yn gyntaf, datganiad personol: Rwyf wedi cael bywyd breintiedig iawn, yn bennaf o gael dwy addysg – un mewn ysgol uwchradd elît a nodedig, ac un ar strydoedd Milltown.  Mae'r profiad dysgu deuol hwnnw wedi fy arfogi â chyfalaf diwylliannol sy'n fy ngalluogi i weithredu ym mhob agwedd ar fywyd, o garchardai i balasau.  Yn ail, yn gysylltiedig â hyn ond neges i eraill: Gafaelwch yn y foment, achos pwy a ŵyr i ble y gallai’r foment honno arwain.  Pan gwrddais i â Marty y tu allan i archfarchnad Budgen yn ystod haf 1973, gallwn fod wedi anwybyddu neu weiddi'n ôl ar y bachgen digon haerllug a ddaeth ata i, ond yn lle hynny, siaradais i ag e. Roeddwn i’n chwilfrydig amdano, a 47 mlynedd yn ddiweddarach dyma fu’n dal i sôn amdano.   Diolch iddo.

Roedd yr Athro Williamson hefyd yn destun podlediad yn canolbwyntio ar ei lyfr newydd. Gallwch wrando ar y podlediad yn Professor Howard Williamson: The Milltown Boys at 60 podcast.