Ymchwil i arwain strategaeth camddefnyddio cyffuriau ôl-Covid
13 Mai, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2020/05-may/Virus.jpeg)
Mae ymchwil i effaith COVID-19 ar bobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau, a'r gwasanaethau sy'n eu cefnogi, yn cael ei ddefnyddio i lywio strategaeth cymorth ôl-bandemig.
Er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r pandemig, cafodd prosiect ymchwil cydweithredol ei gynnal gan bartneriaeth o staff a chymheiriaid o Brifysgol De Cymru (PDC) ac elusennau cymorth Barod a Kaleidoscope, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Datblygu Cymru Ofalgar (DACW).
Roedd yr ymchwil yn edrych ar y profiadau a'r heriau oedd yn wynebu defnyddwyr gwasanaeth, staff rheng flaen, ac uwch reolwyr/penderfynwyr yn ystod y cyfnod cloi, gyda thri adroddiad yn cael eu cyhoeddi yn ei sgil:
- Adroddiad adolygu dan arweiniad cymheiriaid
- Adroddiad effaith ar staff
- Adroddiad Uwch Reolwyr a Gwneuthurwyr Penderfyniadau
Mae canfyddiadau'r ymchwil wedi dylanwadu ar strategaeth Llywodraeth Cymru, ac wedi cael eu crybwyll yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022, cynllun sydd wedi ei ddiwygio yn sgil Covid-19. Bydd yr holl wasanaethau sy'n ymwneud â chymorth o ran camddefnyddio sylweddau yn cael eu llywio gan y canfyddiadau.
Yn ôl y Cynllun Gweithredu, bydd Llywodraeth Cymru yn: "Sicrhau bod adborth defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei ystyried, drwy dalu sylw i ganfyddiadau Astudiaeth Effaith COVID-19 dan Arweiniad Cymheiriaid, a pharhau i gynnal ymchwil ymhlith defnyddwyr gwasanaethau mewn perthynas â thriniaeth a chymorth yn ystod COVID-19, a bydd hyn yn ei dro’n dylanwadu ar ymarfer yn y dyfodol o ran diwallu anghenion."
Dywedodd yr Athro Katy Holloway, Athro Troseddeg PDC, a oedd yn rhan o'r tîm a ymgymerodd â'r ymchwil, y bydd y profiadau a gafwyd yn ystod y prosiect yn helpu gydag astudiaethau yn y dyfodol.
"Roedd cynnwys cymheiriaid, a gwrando ar farn pobl oedd â phrofiad uniongyrchol o’r materion hyn, yn hanfodol bwysig o ran llwyddiant y prosiect pwysig hwn, a bydd yn helpu i lywio ymchwil pellach i faterion yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol," dywedodd yr Athro Holloway.
"Mantais allweddol arall fu cryfhau partneriaethau – fel y rhai rhwng academyddion, llunwyr polisïau, defnyddwyr gwasanaethau, uwch reolwyr, a staff rheng flaen - a chydnabod pwysigrwydd cydweithio i sicrhau'r gwasanaethau gorau posibl ac yn y pen draw lleihau niwed."
Mae Gweminar wedi'i chynhyrchu, lle mae canfyddiadau pob elfen o'r ymchwil yn cael eu cyflwyno gan rai sydd â phrofiad uniongyrchol o ymdopi â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn ystod y pandemig, yn ogystal â rhai sy'n gweithio i’w helpu.