Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2021: Grym dau gwestiwn syml
11 Mai, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/05-may/Midwifery.jpeg)
Yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2021, rydym yn canolbwyntio ar ddylanwad ymchwil yr Athro Linda Ross, o Brifysgol De Cymru (PDC), ar hyfforddiant nyrsys a bydwragedd.
Mewn partneriaeth gydag arbenigwyr o bob rhan o Ewrop, mewn prosiect a oedd yn edrych ar sut y gellir addysgu gofal ysbrydol, cyd-arweiniodd yr Athro Ross Brosiect EPICC, sydd wedi effeithio ar hyfforddiant nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn tuag 20 o wledydd. Yng Nghymru mae gofal ysbrydol bellach wedi'i wreiddio yn hyfforddiant pob nyrs a bydwraig.
Mae model, a ddatblygwyd gan yr Athro Ross a'i chydweithiwr, yr Athro Wilf McSherry, yn helpu myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth i gynnig gofal ysbrydol drwy ofyn dau gwestiwn i gleifion - 'Beth sy'n bwysig i chi? Sut galla i helpu?’ Mae hyn er mwyn i'r gweithwyr iechyd proffesiynol allu deall mwy am anghenion ysbrydol eu cleifion, yn hytrach na'u gofynion corfforol yn unig.
Mae Alison Strong, sy'n 48 oed, yn fam i dri ac yn dod o Gwmbrân. Mae’n un o'r rhai sydd wedi cael eu hyfforddi, yn rhan o'r cwricwlwm, i ddeall a defnyddio'r model gofal ysbrydol wrth roi cymorth i famau newydd a'u teuluoedd. Eglurodd sut mae wedi bod o ddefnydd iddi.
C. Sut gwnaethoch chi benderfynu eich bod am fod yn fydwraig?
Dilynais i lwybr eithaf hir at fydwreigiaeth. Treuliais i 13 mlynedd yn gweithio fel athro ysgol gynradd, yna saith mlynedd fel athro cyflenwi ar ôl i fy nhrydydd plentyn gael ei eni.
Ar ôl treulio cymaint o amser yn addysgu, dyma benderfynu ei bod yn bryd cael newid. Fe wnes i gais i fynd ar y cwrs bydwreigiaeth sawl gwaith cyn cael fy nerbyn o'r diwedd. Roedd yn rhywbeth yr oeddwn i wir eisiau ei wneud, felly doedd dim byd yn mynd i fy rhwystro cael lle ar y cwrs er i mi fethu â gwneud hynny’n wreiddiol.
Yn ystod y ddwy flynedd cyn i fi ddechrau'r cwrs, roeddwn i’n nyrs feithrin gymunedol yn gweithio gydag ymwelwyr iechyd, felly gyda phlant hyd at bedair oed.
Ar ôl hynny, roedd bydwreigiaeth fel petai’n gwneud mwy o synnwyr fyth. Roeddwn i’n gweithio ochr yn ochr ag ymwelwyr iechyd a oedd wedi gweithio fel bydwragedd yn y gorffennol. Roeddwn i wir yn mwynhau gofalu am bobl a gweld plant yn datblygu, ond doeddwn i ddim yn teimlo bod hyn yn mynd i fod yn ddigon i fi am byth.
C. Sut mae bydwreigiaeth yn wahanol i addysgu?
Fel bydwraig, rydych chi'n gofalu am y fenyw. Rydych chi gyda'r fenyw, rydych chi'n ei hannog hi ac yn ei grymuso hi drwy’r enedigaeth. Rydych chi’n cynnig cefnogaeth iddi cyn y geni, rydych chi’n creu perthynas, boed fel bydwraig gymunedol – yn ei gweld yn rheolaidd drwy gydol ei beichiogrwydd - neu'r fydwraig yn yr ysbyty. Mae'n berthynas arbennig iawn.
Fel athro, y plant wrth canolbwynt - mae'n rôl wahanol iawn – ond mae'r ddau yn rhoi boddhad mawr mewn gwahanol ffyrdd.
C. Sut ydych chi wedi dysgu am ofal ysbrydol yn ystod eich cyfnod yn astudio yn PDC?
Rydyn ni wedi gwneud ychydig o sesiynau gyda Linda dros y tair blynedd rwyf wedi bod yn hyfforddi, ac mae'n dda ei fod yn rhan allweddol o'r cwrs bellach.
Rhan bwysig ohono yw deall nad yw'n ymwneud â chrefydd yn unig, sy’n rhywbeth y gall pobl gamddeall pan fyddan nhw’n clywed am ofal ysbrydol. Mae'n ymwneud â'r person cyfan, deall y person, gwrando ar y person.
Mae sesiynau Linda yn gwneud i chi oedi ac ystyried pethau y gallwch eu gwneud ar gyfer cleifion, gofyn i chi'ch hun pam eich bod chi wedi gwneud ambell beth, pam y gwnaethoch chi ymateb yn y ffordd y gwnaethoch chi. Mae wedi bod yn ffordd wych o gael dealltwriaeth fanylach ohonoch chi eich hun a'r bobl rydych chi'n gofalu amdanyn nhw.
C. Sut ydych chi'n meddwl ei fod wedi eich helpu chi fel bydwraig dan hyfforddiant?
Gan fy mod i ychydig yn hŷn ac wedi cael tri o blant fy hun, mae'n debyg bod gen i ychydig mwy o ddealltwriaeth o bobl, o'r heriau mae mamau newydd yn eu hwynebu, a’r heriau mae eu partneriaid a'u teuluoedd yn eu hwynebu.
Mae'r ddau gwestiwn yn ganllaw gwych i sut i gael pobl i fod yn agored ac i siarad. Gall mamau, a’u partneriaid, fod ag ofn weithiau ynghylch beth y gallan nhw ei ofyn, neu beth gallan nhw ei wneud. Maen nhw’n dibynnu arnoch chi am ofal, cyngor, cymorth – a dyma lle mae hyfforddiant Linda yn troi’n gymorth gwerthfawr i’ch ymarfer.
Yn bersonol, rwyf wedi cefnogi cyplau ifanc sydd yr un oedran â fy mab hynaf, sef 20 oed. Rwyf bob amser yn meddwl fy mod am roi’r un gofal iddyn nhw ac y byddwn am iddo ef a'i bartner ei gael, ac mae'r cwestiynau 2Q-SAM yn ffordd wych o ddarganfod sut yn union y galla i eu helpu nhw.
Rwy’n credu ei fod yn eich gwneud chi’n fwy empathetig â phobl, ac yn gwneud i chi ddeall bod ofn arnyn nhw weithiau, a bod angen cymorth arnyn nhw.
Bu’n fantais ychwanegol cael dysgu mwy am wasanaethau eraill sydd ar gael mewn ysbytai, fel y gwasanaeth caplaniaeth. Pe baen ni wedi canolbwyntio ddim ond ar ofal corfforol cleifion, mae'n debyg na fydden ni’n gwybod pa wasanaethau eraill sydd ar gael i'w cefnogi.
Gyda'r hyfforddiant ychwanegol hwn, rydyn ni’n dysgu llawer mwy am yr hyn sydd ar gael mewn lleoliadau gofal iechyd, ac felly gallwn roi mwy o arweiniad iddyn nhw os ydyn nhw am wybod mwy am y gwasanaethau hyn.