Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys 2021: Myfyriwr nyrsio ysbrydoledig o PDC yn cyhoeddi canllaw cyflym defnyddiol
10 Mai, 2021
Rhys Thomas
I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys ar 12 Mai, rydyn ni wedi bod yn siarad â Rhys Thomas, sy’n fyfyriwr yn PDC. Yn ystod y pandemig, helpodd Rhys ei gydweithwyr drwy greu canllaw poced, i gynorthwyo gyda’u dyletswyddau ar ward dementia.
Yn dod o Aberdâr, mae Rhys yn fyfyriwr BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl) blwyddyn olaf. Mae ar leoliad ar hyn o bryd ar Ward Seren, ward asesu iechyd meddwl organig, yn ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Pan darodd Covid y DU, tynnwyd myfyrwyr nyrsio o’u lleoliadau arferol i helpu mewn mannau eraill. Roedd Rhys yn gweithio fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd ar Ward Seren, pan ddysgodd y byddai myfyrwyr nyrsio ail flwyddyn yn cael eu rhoi ar leoliad yno. Roedd newidiadau angenrheidiol i'r cwricwlwm, oherwydd Covid, yn golygu bod gan y myfyrwyr hyn lai o brofiad gyda chleifion nag y byddai ganddyn nhw fel arfer. O’i ben a’i bastwn ei hun, a chan ddefnyddio ei arian ei hun, aeth Rhys ati i greu canllawiau defnyddiol yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar eu cyfer.
"Dechreuais feddwl am yr hyn fyddai'n ddefnyddiol iddyn nhw ei wybod am y ward ac a fyddai yn eu helpu i fagu hyder. Rydyn ni’n derbyn llawer o wybodaeth a dyw hi ddim yn ymarferol cario pentyrrau o waith papur gyda chi drwy’r amser.
"Er enghraifft, mae trosiant yr uned yn isel felly dydyn ni ddim yn delio â derbyn a rhyddhau cleifion mor aml â wardiau eraill, felly roddais wybodaeth am y prosesau hynny yn y canllaw.
"Nodais hefyd rifau ffôn defnyddiol, ystyron acronymau, lefelau halen, meddyginiaethau cyffredin, map o'r uned, a mwy. Mae myfyrwyr weithiau’n teimlo'n bryderus ynghylch gofyn cwestiynau, felly gall y canllaw weithredu fel rhywbeth i danio sgwrs gyda'u mentor.
"Rwyf wedi cyflwyno tua 15 o ganllawiau hyd yn hyn ac wedi cael adborth gwych. Dywedodd uwch nyrs y gallen nhw gael eu haddasu i fod yn ddefnyddiol ar gyfer nyrsys cymwysedig hefyd.
Roedd Rhys wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ond roedd yn amau a allai fod yn nyrs.
"Roeddwn i wedi eisiau dechrau nyrsio ers amser maith ond doedd gen i ddim hyder i wneud cais. Roedd fy ffrind yn fy annog o hyd, felly fe wnes i gais drwy’r broses Glirio a chael cyfweliad yn PDC.
"Roedd fy ffrind yn iawn. Dyma’r peth gorau i fi ei wneud erioed. Mae'r profiadau wedi bod mor eang, ac rwyf wedi bod mannau na fyddwn i byth wedi'u disgwyl, fel ar leoliad gyda Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, yn Ysbyty Cwm Cynon. Ges i fy nhaflu’n syth i’r pen dwfn ond roedd gen i fentoriaid anhygoel.
"Rwy'n mwynhau her gwaith iechyd meddwl a’r ffaith ei fod mor amrywiol. Weithiau bydd cleifion yn ceisio gweld pa mor bell y gallan nhw herio eu gofalwyr. Ein gwaith ni yw profi iddyn nhw na allan nhw ein gwthio ni i ffwrdd, gwneud yn siŵr eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, a meithrin ymddiriedaeth. Gall hyn fod yn anodd iawn, yn enwedig ar leoliad chwe wythnos, ond rydych yn gwneud y gorau y gallwch chi ar eu cyfer.
"Pe bawn i'n cynnig cyngor i rywun sy'n ystyried bod yn nyrs iechyd meddwl, byddwn i’n awgrymu eu bod yn dechrau gyda meddwl agored, allwch chi ddim gadael i unrhyw ragdybiaethau effeithio ar y gofal rydych chi’n ei gynnig. Hefyd byddwn i’n annog cydweithio. Mae Covid wedi ein dysgu ni nad ydyn ni’n anorchfygol a bod gwaith tîm yn hanfodol. Trafodwch yn agored gyda chydweithwyr - maen nhw'n gefn i chi ac rydych chi’n gefn iddyn nhw.”