Gweithio ar ffilmiau ac ennill Oscars: Un o raddedigion PDC yn datgelu’r cyfan

27 Mai, 2021

Rosie Walker_Ollie Hilbert.jpg

Rosie Walker (chwith) yn y llun gyda'i chydweithiwr DNEG Ollie Hilbert

Mae Rosie Walker, a raddiodd gyda BA (Anrh) mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symud yn 2012, wedi bod yn sôn am ei gyrfa, gan gynnwys ei gwaith ar y ffilm sydd wedi ennill Oscar a BAFTA, Tenet.

Roedd Rosie, sy’n 32 oed, ac yn dod yn wreiddiol o Lundain, bellach yn byw yng Nghanada, ac roedd yn rhan o'r tîm yn DNEG a gynhyrchodd effeithiau gweledol (VFX) y ffilm. Cipiodd y ffilm Wobr yr Academi am yr Effeithiau Gweledol Gorau a Gwobr BAFTA am Effeithiau Gweledol Arbennig yn gynharach eleni.

Mae Rosie, a fu’n darlithio yn PDC, yn gweithio yn stiwdios DNEG yn Vancouver ac mae'n byw gyda'i gŵr a'i mab ifanc. Buodd hi’n sôn wrthon ni am ei gwaith ar Tenet a'i gyrfa ers graddio.

Ble dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn a’r yrfa hon?

Roedd gen i obsesiwn â ffilmiau fel The Matrix a Jurassic Park pan oeddwn i’n fy arddegau. Roeddwn i'n arfer eu gwylio dro ar ôl tro, yn ceisio deall sut roedden nhw wedi creu Bullet Time a'r T-Rex. Doedd YouTube ddim ar gael bryd hynny i esbonio sut oedd VFX wedi eu creu!

Roedd gen i athro celf a ’nysgodd i sut i fanipiwleiddio ffotograffiaeth ffilm drwy ddinoethi platiau ddwywaith yn yr ystafell dywyll, ac fe ’nghyflwynodd i i Photoshop a hen beiriant Mac.  Dywedais i wrth ymgynghorydd gyrfaoedd yr ysgol uwchradd fy mod i am weithio mewn animeiddio, neu effeithiau gweledol, a dywedodd wrtha i mai 'dim ond bechgyn' oedd yn gwneud hynny, ac efallai y dylwn i weithio mewn Tecstilau yn lle. Felly, yn naturiol, penderfynais i fy mod i’n mynd i fynd amdani!

Roeddech chi’n ddarlithydd yn PDC. Sut digwyddodd hynny?

Yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs Effeithiau Gweledol yn PDC, siaradais i â'r darlithwyr (Jason Bevan a Chris Thomas bryd hynny) am ymuno â nhw un diwrnod a dysgu VFX, gan fy mod i wrth fy modd yn helpu pobl eraill. Fe wnaethon nhw fy annog yn fawr, ac awgrymu y gallwn ddilyn cwrs TAR ym Mhrifysgol Caerdydd. Ac yn y pendraw, yn 2013, fe ymunais â nhw fel darlithydd rhan-amser.

Oedd rheswm penodol pam symudoch chi i Ganada? Ar gyfer yr yrfa, neu’r ffordd o fyw, neu'r ddau?

Cwrddais i a ‘ngŵr pan oedd y ddau ohonon ni’n gweithio yn BBC Cymru yng Nghaerdydd, ac mae'r ddau ohonom bob amser wedi eisiau byw yng Nghanada – Vancouver yn benodol. Cyn gynted ag y cysylltodd DNEG â fi ynglŷn â swydd yno yn 2018, fe fachon ni ar y cyfle, a dydyn ni ddim wedi difaru am eiliad.  Rydyn ni wrth ein bodd yma – rydyn ni’n byw ger coedwig a thraeth, sy'n wych i ni ac i Ben, ein mab tair oed.

O ran ffordd o fyw, mae'n llawer mwy hamddenol. Mae cael traethau a choedwigoedd ar garreg eich drws ar gyfer yr haf, a mynyddoedd ac eira ar gyfer y gaeaf, yn hyfryd ac yn dda iawn o ran sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae hefyd wedi bod yn amhrisiadwy cael lle i ddianc iddo yn ystod y pandemig. Mae dinas Vancouver hefyd yn adnabyddus am ei bwyd, gwin a chwrw anhygoel! Mae'n lle gwych i hamddena a chymdeithasu gyda ffrindiau.

Ydy'r diwydiant yn cynnig cyfleoedd ledled y byd? 

Mae'r diwydiant VFX yn bendant yn cynnig cyfleoedd yng Nghanada (Montreal, Vancouver a Toronto), India, America ac Ewrop.

Oes bwlch rhwng y rhywiau yn y diwydiant? Fyddech chi'n dweud eich bod chi’n fodel rôl i fenywod yn y sector?

Yn sicr, mae gwaith i’w wneud o hyd, ond ar ôl bron 10 mlynedd, rwy’n gallu gweld newid cadarnhaol yn bendant. Rwy’n cofio sylweddoli rywbryd yn 2013 mai dim ond ychydig o fenywod oedd yn fy nhîm ar bob sioe. Rwy'n gweld llawer mwy o amrywiaeth erbyn hyn. Mae nifer o sgyrsiau’n digwydd am hyn, ac rwy’n rhan o’r ymdrech i newid pethau. 

Yn ystod fy nghyfnod gyda DNEG, rydyn ni wedi gwneud llawer o waith i weld ble mae’r bylchau o ran amrywiaeth, a chau’r bylchau hynny. Rydyn ni dal wrthi.  Yn Vancouver rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda sefydliadau fel Big Sisters, sy'n paru menywod iau gyda 'chwiorydd' hŷn, i'w cefnogi nhw yn ystod eu blynyddoedd fel oedolion ifanc.

Rwyf wedi cadeirio trafodaethau ac wedi cyflwyno sesiynau i helpu i egluro VFX, a'i agor fel llwybr gyrfa, ac rwyf wedi gweithio gyda Science  World Vancouver, gyda fy  nghydweithwyr, dros y tair blynedd diwethaf.  Rydyn ni wedi bod yn rhoi arddangosiadau graffeg a meddalwedd VFX fel Houdini – unwaith eto gyda'r nod o arddangos y gyrfaoedd y gall pynciau STEM arwain atyn nhw, a chyffroi cynulleidfaoedd ifanc oed ysgol. 

Fel cymdeithas, mae angen i ni annog pwysigrwydd pynciau creadigol a STEM mewn ysgolion, a chefnogi pawb o oedran ifanc i ymuno â'r diwydiannau hyn.

Mae hefyd yn hynod ddefnyddiol esbonio rolau neu yrfaoedd posibl yn y diwydiant mewn ffordd y gall pawb ei deall, er mwyn dangos y ffordd.  Dyw rhestr o enwau swyddi heb wybodaeth bellach ar wefan yrfaoedd ddim yn helpu'r rhai sy'n ceisio deall ble y gallan nhw ddefnyddio eu sgiliau neu eu diddordebau a rhoi eu hangerdd ar waith.

Ac yn bwysicach na dim... mae angen i ni newid ein rhagfarnau ein hunain. Os ydych chi'n darllen hwn ac yn meddwl bod yn rhaid i chi berthyn i rywedd penodol neu fod â phroffil penodol i ymuno â'r diwydiant VFX, yna dyma gyfle i chi eich herio eich hun a mynd ar ei drywydd beth bynnag.

Beth fyddai eich cyngor i rywun sy'n ystyried ymuno â’r diwydiant?

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o ddiwydiant sy'n eich galluogi i greu rhywbeth newydd bob dydd nad oedd yn bodoli ddoe, yna dyma’r maes i chi. Mae cyfleoedd gwych i ddysgu ar hyn o bryd – mae YouTube yn llawn tiwtorialau, ac mae cwmnïau fel Autodesk a The Foundry, SideFX, yn rhoi’r math o feddalwedd sy’n cael ei defnyddio yn y diwydiant am ddim i fyfyrwyr.

Dechreuwch heddiw, a gobeithio y gwelaf i chi ymhen ychydig flynyddoedd!