Yr effaith Covid-19 ar brofiad y myfyriwr: Is-Ganghellor PDC yn cyfrannu at drafodaeth ymhlith arweinwyr AU

20 Mai, 2021

online study

Cyfrannodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor PDC, at bodlediad gan Arweinwyr Addysg Uwch yr wythnos hon i drafod profiad myfyrwyr ar ôl Covid-19.

Gyda dysgu cyfunol yn parhau ar gampysau prifysgolion ledled y DU, roedd y podlediad – dan arweiniad y sefydliad addysg a thechnoleg dielw Jisc – yn cynnwys panel o arweinwyr yn cyfrannu at sgwrs ynghylch sut mae'r pandemig wedi effeithio ar fyfyrwyr.

Yn ogystal â’r Athro Lydon, roedd y panel yn cynnwys rheolwr gyfarwyddwr addysg uwch (AU), Jonathan Baldwin, dirprwy brif weithredwr Prifysgol Caerhirfryn, Nicola Owen, a Mike Larsen, Prif Swyddog Gweithredol Stuiosity, llwyfan cymorth astudio ar-lein.

Yn y drafodaeth dywedodd yr Athro Lydon ei bod wedi gweld "ymdeimlad cryf o bobl yn tynnu at ei gilydd" a "chreadigrwydd mawr" ymysg dysgwyr drwy gydol y pandemig. "Mae bod mewn cyswllt fel cymuned wedi bod yn bwysig iawn," meddai.

Roedd Nicola Owen yn cytuno, ac ychwanegodd: "Mae myfyrwyr wedi bod yn hynod o wydn. Maen nhw wedi gwneud y gorau o'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol iddyn nhw, ac rwy'n credu eu bod nhw wir wedi gwerthfawrogi ymdrechion sydd wedi cael eu gwneud [gan y brifysgol], wedi gweld ein bod wedi arloesi wrth i ni fynd yn ein blaen, ac wedi cymryd rhan yn yr arloesedd hwnnw."

Bu anawsterau hefyd, fodd bynnag. Dywedodd Mike Larsen fod myfyrwyr yn rhoi gwybod am deimladau o "unigedd a phryder" – yn ogystal â "diolchgarwch am yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan brifysgolion i barhau i gefnogi eu dysgu a chyflwyno eu rhaglenni."

Roedd Jonathan Baldwin yn canmol y gwaith sydd wedi'i wneud i wneud y trawsnewid hwn yn llwyddiannus. "Mae pob prifysgol yn mynd i'r afael â hyn," meddai. "Mae arwain a rheoli yn y byd digidol yn wahanol iawn i reoli ac arwain yn y byd go iawn."

Ychwanegodd yr Athro Lydon: "Mae AU yn y DU, ers blynyddoedd lawer, wedi bod yn ystyried ffyrdd o gael mwy o bartneriaeth gyda'n myfyrwyr, o ddyluniad y cwricwlwm a phrofiadau dysgu i gael myfyrwyr ar gyrff llywodraethu.

"Mae Covid-19 wedi cyflymu'r broses o ddarparu addysgu a dysgu digidol ar-lein o bell, ac rwy'n croesawu mwy o hygyrchedd a chynhwysiant, a mwy o gyfranogiad gan fyfyrwyr, yn sgil hynny."

Gwrandewch ar y bennod hon o'r podlediad neu Lawrlwythwch drawsgrifiad (.docx) o'r bennod.