Cymeradwyaeth broffesiynol i raglenni chwaraeon PDC

9 Mawrth, 2021

Sport Park

Mae Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA) wedi cymeradwyo dau gwrs chwaraeon a gweithgarwch corfforol a ddarperir gan Brifysgol De Cymru (PDC) ac sy'n gysylltiedig â'r sector.

Mae'r rhaglenni gradd canlynol wedi'u cymeradwyo yn erbyn nifer o safonau proffesiynol:

Datblygwyd safonau proffesiynol CIMSPA gyda chyfraniad cyflogwyr, darparwyr addysg ac arweinwyr sector, er mwyn sicrhau bod ymarferwyr presennol ac ymarferwyr y dyfodol yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau sydd eu hangen i weithio ac aros yn y sector.

Drwy alinio'r graddau â safonau proffesiynol, mae PDC wedi dangos ei gallu i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i bontio o'r ystafell ddarlithio i rolau gweithredol yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Bydd Ysgol Iechyd, Chwaraeon ac Ymarfer Proffesiynol y Brifysgol yn cyflwyno mwy o gyrsiau cyn bo hir i'w hystyried ar gyfer cymeradwyaeth yn erbyn safonau proffesiynol. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglenni Cryfder a Chyflyru (Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru/Myfyrwyr Graddedig Cryfder a Chyflyru) yn ogystal â'r radd BSc Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon.

Dywedodd Paul Rainer, Rheolwr Academaidd Chwaraeon PDC:  "Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael cymeradwyaeth CIMSPA ar gyfer Cryfder a Chyflyru a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Bydd y gymeradwyaeth yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hasesu yn erbyn galluoedd allweddol ac yn bodloni'r safonau proffesiynol sy'n ofynnol gan y galwedigaethau hyn.

"Bydd y ffaith bod y cyrsiau hyn wedi eu cymeradwyo, ochr yn ochr â'r cyfleoedd lleoliad gwaith helaeth mae PDC yn eu darparu, yn rhoi hwb enfawr i ragolygon myfyrwyr sy'n graddio o PDC i'r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol.  Mae'n dyst i waith timau'r cyrsiau a'r Brifysgol yn sicrhau bod gan fyfyrwyr y rhagolygon gorau posibl o ran eu gyrfaoedd yn y sector."

Dywedodd Helen Hiley, Swyddog Addysg (Addysg Uwch) CIMSPA: "Rydyn ni am greu sector sy'n cael ei barchu a'i reoleiddio. Wrth i lawer ddechrau ar eu taith yn y brifysgol, mae deall bod eu gradd yn cael ei chymeradwyo yn erbyn safonau proffesiynol dan arweiniad cyflogwyr wastad yn bwysig. Bydd ein partneriaeth â Phrifysgol De Cymru yn cael ei chryfhau diolch i'r gymeradwyaeth sydd wedi ei rhoi i’r rhaglenni hyn."

Mae partneriaeth CIMSPA a PDC yn un o 25 o Bartneriaethau Addysg Uwch sy'n cynrychioli ymrwymiad cynyddol gan sefydliadau addysg uwch i gysoni cyrsiau ag anghenion cyflogwyr y sector, fel y'u cynrychiolir mewn safonau proffesiynol.