Anrhydedd Cenedlaethol Uchaf i fyfyriwr graddedig peirianneg PDC

1 Mawrth, 2021

USW graduate Matthew Hunter, Design Development Engineer and former apprentice at global engineering company, Renishaw, was awarded the Frederic Barnes Waldron 'Best Student' award March 2021

Mae un o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ennill anrhydedd blynyddol uchaf ar ôl cael ei enwebu gan uwch aelod o staff y Brifysgol.

Yn ddiweddar dyfarnwyd gwobr 'Myfyriwr Gorau' Frederic Barnes Waldron i Matthew Hunter, Peiriannydd Datblygu Dylunio a chyn brentis yn y cwmni peirianneg byd-eang, Renishaw.  Enwebodd Dr Paul Davies, Pennaeth Peirianneg PDC, Matthew ar ôl iddo ennill anrhydedd dosbarth cyntaf yn ei radd Peirianneg Fecanyddol.

Cyflwynir y wobr ar ran Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ar argymhelliad pennaeth adran ym mhob prifysgol. Bob blwyddyn, rhoddir y wobr i fyfyriwr israddedig rhagorol sy'n aelod cyswllt o'r IMechE ac sy'n astudio tuag at radd achrededig IMechE.

“Rwyf wedi ennill gwybodaeth amhrisiadwy gan beirianwyr Renishaw a helpodd fi i gyflawni fy ngradd dosbarth cyntaf,” meddai Matthew.

“Maent wedi fy helpu i ddatblygu fy nealltwriaeth beirianyddol gyffredinol y gallaf ei chymhwyso i brosiectau cwmni ac asesiadau academaidd.

“Dechreuodd fy hoffter o beirianneg pan wnes i geir trydan Greenpower gyda fy nhad a fy mrawd yn blentyn a’u rasio.  Rwyf wedi cael yr un mwynhad mewn peirianneg yn ystod fy nghyfnod fel prentis.

“Rhoddodd prentisiaeth gyfle i mi weithio ac astudio ar yr un pryd i ennill y cymwysterau a’r profiad sy’n ofynnol ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.”

Dywedodd Dr Davies: “Roedd Matthew Hunter yn fyfyriwr eithriadol ac roedd ei waith caled a’i frwdfrydedd yn golygu bod ei radd ar gyfartaledd dros yr holl flynyddoedd a astudiodd yn PDC yn agos at 90%.

“Yn ystod ei amser gyda ni enillodd ei HNC gyda Rhagoriaeth, HND gyda Rhagoriaeth ac anrhydedd dosbarth cyntaf mewn BEng Peirianneg Fecanyddol, gan ei wneud yn dderbynnydd teilwng iawn o wobr ‘Myfyriwr Gorau’ Frederic Barnes Waldron.”

Dywedodd Hugo Derrick, Cymrawd Technegol yn Renishaw: “Mae Matthew wedi bod yn ychwanegiad gwych i’r tîm, ac mae’n wych gweithio gydag ef.

“Mae Renishaw bob amser wedi ymfalchïo yn ei feddylwyr arloesol ac mae gwobr Matthew yn cydnabod yn haeddiannol ei gyflawniadau academaidd rhagorol a’i allu i gynhyrchu atebion newydd.”

Mae Renishaw yn cynnig ystod o raglenni prentisiaeth arobryn mewn peirianneg, gweithgynhyrchu, meddalwedd, TG a pheirianneg electroneg wedi'i hymgorffori.