Gall gormod o’r cyfryngau cymdeithasol fod yn niweidiol, ond nid yw'n creu gaethiwed neu ddibyniaeth fel y mae cyffuriau
26 Mawrth, 2021
Os ydych chi'n treulio oriau bob dydd ar y cyfryngau cymdeithasol,, nid chi yw’r unig un. Mae'r defnyddiwr rhyngrwyd cyffredin yn treulio dwy awr y dydd ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol. Ond ydy’r ffaith eich bod yn gwirio Facebook, Instagram, Twitter a TikTok bob rhyw awr yn golygu eich bod yn "gaeth" iddyn nhw?
Mae'r term "dibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol" yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i ddisgrifio pobl sy'n treulio llawer o amser ar y gwefannau a'r apiau hyn. Gall gwneud hynny fod yn niweidiol mewn amrywiaeth o ffyrdd – gan achosi hunan-barch isel, cwsg gwael a chynyddu straen.
Mae'r prif ffocws wrth ystyried dibyniaeth ar sylweddau yn tueddu i fod ar dair elfen allweddol: gorfodaeth (neu golli rheolaeth), goddefgarwch (angen defnyddio mwy i gael yr un effaith) a symptomau alldynnu (sgil-effeithiau annymunol o roi’r gorau i ddefnyddio). Mae ffactorau eraill yn ymwneud â chwant, meddylu’n ormodol am y sylwedd a pharhau i’w ddefnyddio er ei fod yn achosi problemau amlwg. Mae'n hawdd gweld sut mae'r ffactorau hyn yn berthnasol i gyffuriau, ond beth am siopa, gamblo neu ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol?
Mae cynnydd mewn diddordeb yn y rhain a "chaethiwed" neu “ddibyniaeth” ymddygiadol eraill – fel gamblo, rhyw neu'r rhyngrwyd – wedi arwain at ehangu’r diffiniad o gaethiwed neu ddibyniaeth. Mae seicolegwyr yn disgrifio archwaeth gormodol ac ysgogiadau pwerus i gymryd rhan mewn ymddygiadau penodol sydd â'r pŵer i greu niwed anfwriadol sylweddol.
Fel ymchwilwyr i’r cyfryngau cymdeithasol a dibyniaeth, rydym wedi treulio'r 25 mlynedd diwethaf yn dod i ddeall gwahanol fathau o gaethiwed neu ddibyniaeth. Mae ein hymchwil yn dangos nad yw dibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol yr un fath â dibyniaeth ar sylweddau, fel alcohol a chyffuriau.
Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
Gall defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol gormod yn sicr fod yn niweidiol. Un o brif nodweddion y cyfryngau cymdeithasol yw ei fod yn rhoi rhywfaint o reolaeth i ddefnyddwyr dros y ffordd y maen nhw’n eu portreadu eu hunain. Gall pobl olygu eu hymddangosiad ar-lein a’u portreadu eu hunain mewn ffordd sy’n wahanol i’r gwir wrth geisio cael cymeradwyaeth pobl eraill.
Gall hyn achosi pob math o niwed. Mewn astudiaeth yn 2019, gwelwyd, ymhlith defnyddwyr benywaidd oedd yn defnyddio’r llwyfannau am ryw awr a hanner y dydd, bod cysylltiad ag awydd cynyddol i fod yn denau, ymwybyddiaeth gynyddol o sut roedden nhw’n credu roedd pobl eraill yn eu barnu a chymhelliant i ymarfer corff i golli pwysau.
Yn 2016, buom yn ymchwilio i'r ffyrdd mae pobl yn ceisio cymeradwyaeth gan eraill ar y cyfryngau cymdeithasol. Edrychwyd ar ba mor aml yr oedd pobl yn manipiwleiddio postiadau i gynyddu sawl tro y bydden nhw’n cael eu ‘hoffi’, yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i godi’r galon a phostio heb gwestiwn am faterion nad oedden nhw o reidrwydd yn cytuno â nhw.
Fe welon ni fod hunan-barch yn gostwng wrth i’r math hwn o ymddygiad ar-lein gynyddu. Ond nid oedd ein canfyddiadau yn dangos bod teimlad o orfod defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol – rhywbeth sy’n allweddol i greu dibyniaeth neu gaethiwed. Gall ffactorau cymdeithasol eraill, fel ofn colli rhywbeth a nodweddion personoliaeth narsisaidd, yrru'r angen i orddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Dibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
Yn 2020, gwnaethom gynnal astudiaeth i gamblo niweidiol a allai helpu i ateb y cwestiwn a yw caethiwed i'r cyfryngau cymdeithasol yn real.
Fe welon ni fod datblygiadau technolegol cyflym o ran rhwyddineb a chyflymder mynediad i apiau ffôn a llechi yn arwain at lefelau uwch o niwed yn sgil gamblo. Gall prosesau seicolegol tebyg fod ar waith ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol, lle mae'r angen am gymeradwyaeth a’r awydd i gael pobl i’ch ‘hoffi’ chi neu’ch postiadau, yn cael eu chwyddo.
Mae esboniadau ymddygiadol ynghylch sut mae caethiwed neu ddibyniaeth yn datblygu yn pwysleisio pwysigrwydd rôl gweithgareddau atgyfnerthu. Yn aml, mae cynhyrchion hapchwarae yn defnyddio'r math mwyaf pwerus o atgyfnerthu: taliadau ar hap. Mae hyn o bosibl yn debyg i'r ffordd mae defnyddwyr yn cael eu cymeradwyo gan eraill pan fôn nhw’n “hoffi” postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae rhai’n dadlau y gellir ystyried gorddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gronig yn ffurf ar gaethiwed neu ddibyniaeth, ond nid yw Cymdeithas Seiciatreg America yn cydnabod hynny.
Mae gwahaniaethau pwysig rhwng defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ormodol a sylweddau, o ran dibyniaeth. Er enghraifft, mae alldynnu o sylweddau yn aml yn gorfforol annymunol ac weithiau'n beryglus heb oruchwyliaeth feddygol. Mae defnyddwyr yn aml yn dioddef stigma, all fod yn rhwystr i geisio cymorth. Yn wahanol i hyn, nid yw wedi'i sefydlu eto bod effeithiau alldynnu corfforol pan fydd pobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.
Gallai ystyried defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mwy fel continwwm o niwed posibl ei gwneud yn bosibl creu negeseuon sydd wedi'u targedu'n fwy priodol a gallai hyn yn ei dro atal problemau rhag datblygu yn y lle cyntaf.
Mae'n amlwg bod agweddau ar ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn cyd-fynd â rhai o nodweddion dibyniaeth, megis syniadau seicolegol ynghylch archwaeth gormodol neu ysgogiadau pwerus, a'r mecanweithiau atgyfnerthu sy’n rhan o’r llwyfannau hyn, sef cymeradwyo neu ddilysu drwy hoffi. Mae'n amlwg hefyd y gall hyn fod yn niweidiol o ran effaith negyddol ar hunan-barch a delwedd corff rhai defnyddwyr.
Ond er gwaethaf y ffactorau hyn, efallai mai'r cwestiwn mwyaf defnyddiol fyddai sut mae creu cydbwysedd rhyngweithio iach yn ein byd rhithwir a’n byd real.
Mae'n werth cofio bod caethiwed neu ddibyniaeth ymddygiadol, fel y rhai sydd ar waith gyda sylweddau, yn aml yn digwydd ochr yn ochr â materion iechyd meddwl eraill fel gorbryder ac iselder, gan awgrymu y gallai bod yn agored i niwed fod yn amlweddog. Gall hyn hefyd fod yn wir o ran gorddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.