Gwaith gan 22 o gyn-fyfyrwyr PDC yn cael ei gydnabod yn enwebiadau’r Oscars
22 Mawrth, 2022
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/03-march/Oscars_2021.jpeg)
Cyhoeddwyd rhestr fer Gwobrau’r Academi, sy'n cael eu cynnal am y naw deg a thrydydd trio, gyda 22 o raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) wedi’u henwi yn yr enwebiadau.
Mae cyn-fyfyrwyr o Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC wedi gweithio ar rai o ffilmiau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi’u henwebu yng nghategorïau Ffilm Nodwedd ac Effeithiau Gweledol Animeiddiedig.
Wedi gweithio ar ffilmiau hynod lwyddiannus fel Over The Moon, Wolfwalkers, The Midnight Sky, The One and Only Ivan ac A Shaun the Sheep Movie: Farmageddon, gall y cyn-fyfyrwyr Animeiddio ac Animeiddio Cyfrifiadurol bellach ychwanegu rhai o ffilmiau mwyaf ariannol lwyddiannus y blynyddoedd diwethaf at eu CVs.
Dywedodd Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformio PDC: “Rydyn ni wrth ein bodd bod creadigrwydd a phroffesiynoldeb graddedigion PDC wedi cael eu cydnabod ar lefelau uchaf y diwydiant ffilm rhyngwladol unwaith eto. Mae’r ffaith bod dros 20 o gyn-fyfyrwyr Ffilm, Effeithiau Gweledol ac Animeiddio PDC yn rhan o'r dathliad hwn a gydnabyddir yn fyd-eang yn dyst i ansawdd ein graddedigion, ac mae'n gosod Ysgol Ffilm a Theledu Cymru PDC ymhlith ysgolion ffilm blaenaf y byd. "
Bydd Gwobrau’r Academi yn cael eu cynnal am y naw deg a thrydydd tro ar ddydd Sul, 25 Ebrill yn Los Angeles – ddeufis yn hwyrach na’r bwriad gwreiddiol, yn sgil effaith pandemig Covid-19 ar sinema.
Llongyfarchiadau i’r cyn-fyfyrwyr canlynol, y mae eu gwaith ar y ffilmiau enwebedig wedi ei gydnabod:
Categori: Ffilm Nodwedd Animeiddiedig Orau
Over The Moon
Matt Jones, Artist Bwrdd Stori
Kieran McKay a Lucas Maxfield, Artistiaid Lookdev Cymeriadau 3D
Wolfwalkers
Matt Jones, Artist Bwrdd Stori
Bryony Evans, Uwch Artist Twtio
Gemma Roberts, Uwch Animeiddiwr 2D
A Shaun the Sheep Movie: Farmageddon
Jeff Karrie, Animeiddiwr CG
Jody Meredith, Alison Evans, Jason Comley, Rhodri Lovett, Ed Jackson, Paul Thomas, James Carlisle a Sean Gregory, Animeiddwyr Stopio-Symud
Jack Slade, Gwneuthurwr Modelau Stopio-Symud
Oliver Geen a Phil Davies, Gwisgo Setiau
Richard Stradling, Cynorthwyydd Cynhyrchu
Categori: Effeithiau Gweledol Gorau
Tenet
Rosie Walker, Hyfforddwr VFX
The Midnight Sky
Beth Warner, Cydlynydd Effeithiau Gweledol
The One and Only Ivan
Chaitan Joshi a Kathryn Chandler, Artistiaid Cynllun