Gwerth £20m o gyllid ychwanegol ar gyfer prosiect i ddatgarboneiddio diwydiant yn ne Cymru
17 Mawrth, 2021
MAE prosiect sy'n cynnwys Prifysgol De Cymru (PDC), ac sy'n edrych ar gynlluniau datgarboneiddio a'r seilwaith sy'n ofynnol ar gyfer economi hydrogen yn ne Cymru, wedi cael £20m o gyllid i barhau â'i ddatblygiad.
Mae prosiect trefnu Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), sy'n cael ei arwain gan Costain, ar ôl derbyn arian cam dau, wedi cwblhau asesiadau cam un yn llwyddiannus.
Mae Cam Dau’r prosiect yn cynnwys astudiaethau peirianyddol i ymchwilio i’r llwybrau at ddatgarboneiddio, gan gynnwys defnyddio a chynhyrchu cyflenwad hydrogen, defnyddio a storio carbon (CCUS), a chludo CO2 mewn llongau o dde Cymru,. Dyma fyddai’r diwydiant llong-gludo CO2 cyntaf yn y DU, a byddai'n creu diwydiant cwbl newydd ar gyfer y rhanbarth.
Cefnogir y prosiect gan amrywiaeth o sefydliadau partner o'r sectorau diwydiannol, academaidd, y gyfraith, cyhoeddus a phreifat, yn gweithio ledled y rhanbarth i greu parth diwydiannol allyriadau net-sero cyntaf y byd.
Yn ogystal â chyfrannu at ymrwymiad y DU i leihau allyriadau carbon, bydd y prosiect yn cynyddu gallu'r DU i weithgynhyrchu cynnyrch sment a dur carbon isel neu garbon sero-net yn lleol, gan helpu i sbarduno dyfodol carbon isel i sector adeiladu'r DU, a sectorau eraill.
Mae'r cynllun wedi ei alinio â chynllun 10 pwynt y Llywodraeth ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd, a bydd yn cynnwys astudiaethau peirianyddol ar:
- Gynhyrchu a dosbarthu hydrogen o ynni adnewyddadwy a Nwy Naturiol Hylifol wedi'i fewnforio, yn cael ei ddosbarthu drwy addasu’r rhwydwaith nwy presennol
- Cynhyrchu trydan glanach drwy ddefnyddio carbon wedi ei ddal a/neu nwy naturiol sy'n cynnwys llawer o hydrogen
- Technolegau diwydiannol dal, defnyddio a storio carbon ar hyd arfordir De Cymru yn ogystal â chludo CO2
- Datgarboneiddio diwydiannau mawr drwy gyfnewid tanwydd (defnyddio ffynhonnell ynni gwyrddach a glanach yn lle ffynonellau eraill llai gwyrdd), effeithlonrwydd prosesau a chynhyrchu tanwyddau cludo glanach.
Dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Hydrogen PDC ym Maglan ac arweinydd academaidd SWIC; "Mae PDC yn falch iawn o ymuno â Costain a'n partneriaid yng nghlwstwr diwydiannol de Cymru i gyflawni'r prosiect datgarboneiddio diwydiannol hollbwysig hwn.
"Mae'r sefydliadau a gynrychiolir yn y prosiect hwn yn rhan hanfodol o'r economi yn ne Cymru ac wedi dod at ei gilydd i greu datrysiadau mewn peirianneg fydd yn sicrhau gostyngiadau mawr mewn carbon, tra'n parhau’n gystadleuol.
"Byddwn yn cynorthwyo'r partneriaid drwy nodi cyfleoedd Ymchwil a Datblygu a chefnogi datblygu sgiliau sy'n angenrheidiol i gyflawni'r nod di-garbon."
Dywedodd Rob Philips, cyfarwyddwr sector ynni Costain: "Mae gan SWIC y potensial i gryfhau gwydnwch economaidd diwydiant a chymunedau Cymru drwy sicrhau bod gweithrediadau yn y rhanbarth yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir.
"I arwain y trefniadau, byddwn yn gweithio gyda'r partneriaid i gefnogi penderfyniadau buddsoddi a fydd yn hyrwyddo defnyddio hydrogen yn rhanbarthol ac yn datblygu maes Defnyddio a Storio Carbon er mwyn cyflawni’r datrysiadau gorau o ran lleihau carbon yn sylweddol."
Dywedodd Dr Chris Williams, pennaeth datgarboneiddio diwydiannol, Diwydiant Cymru: "Ein huchelgais yn SWIC yw creu clwstwr sy'n arwain y byd, yn wirioneddol gynaliadwy, felly bydd y prosiect lleoli hwn, dan arweiniad Costain ac a ariennir yn rhannol gan Innovate UK, yn gam pwysig tuag at wireddu'r uchelgais hwnnw.
"Mae pob un o'n diwydiannau yn wynebu newid trawsnewidiol i gyrraedd sero net. Mae'r prosiect hwn yn dechrau datblygu'r seilwaith pŵer carbon isel, a’r seilwaith hydrogen a Dal, Storio a Defnyddio Carbon angenrheidiol, a fydd mor bwysig i gynnal a thyfu diwydiant sero net yn ne Cymru."