Hydro-Québec i weithio ar fasnacholi technoleg storio hydrogen a ddatblygwyd gan Brifysgol De Cymru

19 Mawrth, 2021

hydro-quebec-2020-187-64I8453 (002) - cropped.jpg

Mae technoleg storio hydrogen newydd gam yn nes diolch i gytundeb ymchwil ac arloesi newydd rhwng Canolfan Ragoriaeth mewn Trydaneiddio Trafnidiaeth a Storio Ynni (CETEES) Hydro-Québec a Prifysgol De Cymru (PDC).

Mae'r ddau sefydliad wedi llofnodi cytundebau masnach i drosglwyddo'r dechnoleg storio hydrogen dan batent, sydd wedi deillio o ymchwil PDC, i Hydro-Québec. Y nod yw ei masnacheiddio, yn rhan o’r ymdrechion parhaus i ddatgarboneiddio diwydiant a darparu ffynonellau ynni amgen, glanach. Mae'r dechnoleg hon yn caniatáu i'r hydrogen gael ei amsugno i'r deunydd ar grynodiad a dwysedd uwch gan gynyddu ei gapasiti ar gyfer storio hydrogen.

Mae gan y dechnoleg hon, y cafodd ei chanlyniadau eu cyhoeddi yn 2019, sawl mantais allweddol dros opsiynau storio hydrogen eraill sydd ar gael ar hyn o bryd, sef:

  • Mwy o gapsiti storio
  • Yr un capasiti storio yn pwyso llai
  • Mwy o ddiogelwch yn sgil llai o bwysau tanc
  • Costau gweithgynhyrchu is
  • Angen seilwaith symlach
  • Dim angen y cam hylifo, ac felly’n creu arbedion mewn cludiant graddfa fawr

Gall y dechnoleg storio ynni hon gael ei rhoi ar waith at sawl diben, gan gynnwys cludo llawer iawn o hydrogen yn ddiogel, neu gael cronfeydd o gerbydau wedi eu pweru gan hydrogen sy'n gallu dal mwy o hydrogen mewn llai o le. Mae hyn yn gwneud hydrogen yn fwy ymarferol ar gyfer amrywiaeth o fathau o gerbydau ac yn gostwng y gost yn sylweddol.

Bydd Hydro-Québec yn gweithio gyda'r patentau a ddatblygwyd gan PDC dros y ddwy flynedd nesaf i ddod â nhw i'r cam masnacheiddio.

"Ystyrir bod hydrogen yn allwedd bwysig i ganiatáu datgarboneiddio sawl sector o'r economi na ellir eu trydaneiddio'n hawdd. Fodd bynnag, mae angen goresgyn sawl her er mwyn dod â’r dechnoleg i'r farchnad dorfol, a storio hydrogen yw un o’r heriau hynny.  Felly, rydym yn hynod falch o weithio gyda Phrifysgol De Cymru i fynd i'r afael ag un o'r heriau mawr hyn." Jean Matte, Uwch Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Hydro-Québec (CRHQ).

"Mae Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy PDC a chydweithwyr sy'n gweithio ym maes Cemeg wedi bod yn gweithio i ddatblygu technoleg hydrogen ers blynyddoedd lawer. Maen nhw wedi meithrin arbenigedd sylweddol yn y maes hwn drwy weithio gyda'n partneriaid rhyngwladol, gan gynnwys Hydro-Québec. Mae cefnogi amgylchedd cynaliadwy yn rhywbeth rydyn ni’n gweithio tuag ato'n barhaus, yn rhan o ymdrechion ehangach i ddatgarboneiddio sectorau fel diwydiant a thrafnidiaeth, i wella ansawdd yr aer a chyfyngu ar effeithiau hirdymor ar iechyd.

"Mae'r cytundeb hwn gyda Hydro-Québec i fasnacheiddio ein hymchwil i ddulliau storio hydrogen yn gam gwych ymlaen ac yn un a fydd, gobeithio, yn cael gwir effaith ar y nod o ddefnyddio mwy o ynni gwyrdd a mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd." Yr Athro Paul Harrison, Dirprwy Is-ganghellor Arloesi ac Ymgysylltu Prifysgol De Cymru

"Rwy'n falch iawn o weld cydweithio parhaus rhwng Prifysgol De Cymru a Hydro-Québec; yn enwedig o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i hadu'r prosiect."

"Ynni hydrogen yw un o'r ffyrdd allweddol y gallwn ddibynnu llai ar  danwydd ffosil, a gweithio tuag at ddod yn genedl wyrddach, yn unol â'n nod o ddod yn genedl carbon sero-net erbyn 2050. Mae ein hadroddiad diweddar, Hydrogen yng Nghymru, yn amlinellu ein gweledigaeth o sut rydym yn bwriadu creu mwy o gyfleoedd yng Nghymru ar gyfer economi sy'n galluogi hydrogen, yn unol â'n Cynllun Cyflawni Carbon-isel.

"Yn ogystal â braenaru’r tir ar gyfer technolegau mwy newydd a gwyrddach, mae cydweithio fel hyn yn cyd-fynd yn llwyr â'n Strategaeth Ryngwladol, a gyhoeddwyd y llynedd.

"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i’r cydweithio rhwng PDC a Hydro-Québec, ac yn edrych ymlaen at glywed mwy am y gwaith yn y dyfodol.“ Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

"Mae'r bartneriaeth a gyhoeddwyd heddiw rhwng Hydro-Québec a Phrifysgol De Cymru yn unol â chanllawiau'r llywodraeth i roi hydrogen wrth galon y broses o gyfnewid ffynonellau ynni. Bydd y cydweithio hwn yn caniatáu i dechnolegau storio ynni arloesol gael eu defnyddio, gyda’r nod o leihau nwyon tŷ gwydr mewn sawl sector, gan gynnwys cludiant, sy'n gyfrifol am dros 40% o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae ein llywodraeth am i Quebec gael ei chydnabod fel arweinydd byd-eang mewn cynhyrchu hydrogen gwyrdd ar raddfa fyd-eang, yn union fel rydyn ni’n cael ein cydnabod am ein trydan. Rydyn ni’n falch iawn o’r cydweithio hwn, sy'n tynnu sylw at ein harbenigedd ac yn cyfrannu at ddylanwad Quebec ledled y byd." Jonatan Julien, Gweinidog Ynni ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Québec

"Fel y Gweinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol a La Francophonie, rwyf wrth fy modd gyda'r cyhoeddiad am y bartneriaeth addawol hon rhwng Québec a Chymru mewn arloesi a storio hydrogen. Mae'r cydweithio hwn yn enghraifft berffaith o bwysigrwydd cydweithredu dwyochrog wrth feithrin adferiad economaidd, cynnydd mewn masnach, mynediad at farchnadoedd a chadwyni cyflenwi, yn ogystal â mentrau sydd â'r nod o ddatblygu cyfleoedd busnes a buddsoddi yn Québec a Chymru." Gweinidog Québec dros Gysylltiadau Rhyngwladol a La Francophonie a'r gweinidog dros Fewnfudo, Ffrangegeiddio ac Integreiddio