Prifysgolion y Gynghrair i chwarae rhan hanfodol yn adferiad y DU o'r pandemig

31 Mawrth, 2021

university alliance logo.png

Bydd y 12 prifysgol sy'n rhan o grŵp Cynghrair y Prifysgolion yn helpu i bweru adferiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cenedlaethol o COVID-19, yn ôl ymgyrch newydd i’w lansio heddiw.

Bydd y prifysgolion hyn yn darparu'r sgiliau, y syniadau a'r datblygiadau arloesol sydd eu hangen i greu colofnau twf adferiad economaidd  a fydd yn gweld cymunedau ledled y wlad yn ffynnu unwaith eto, dywed yr ymgyrch, 'Pweru Dyfodol y DU'.

Mae 12 prifysgol y Gynghrair yn hyfforddi bron chwarter nyrsys y DU, yn cefnogi bron 24,000 o fusnesau gyda gwaith ymgynghori ac ymchwil  a chyfleusterau, ac maen nhw wedi derbyn dros £68m i'w wario ar adfywio eu cymunedau lleol, ochr yn ochr â'u buddsoddiadau sylweddol eu hunain.

Wrth i economi'r DU fynd i'r afael â dirwasgiad, mae ymgyrch heddiw yn tynnu sylw at sut y bydd prifysgolion y Gynghrair yn defnyddio eu rôl hollbwysig o fewn y GIG a gwasanaethau cyhoeddus, cymorth i fusnesau, ymchwil ac arloesi wedi eu gwreiddio’n lleol, a phartneriaeth â diwydiant, i ddod o hyd i atebion i'r heriau economaidd a chymdeithasol rydyn ni i gyd yn eu hwynebu a chefnogi colofnau twf y llywodraeth.

Maen nhw eisoes yn dod o hyd i driniaethau newydd i fynd i'r afael â gordewdra, creu llwybrau hyfforddi newydd i swyddogion yr heddlu, cefnogi Busnesau Bach a Chanolig i ddatblygu technolegau newydd, creu datblygiadau arloesol  gwyrdd, ailgynllunio stryd fawr sy'n dioddef, a gweithio gyda chwmnïau teledu i gynhyrchu rhaglenni newydd.

Yn ddiweddar, bu 22 o raddedigion Prifysgol De Cymru yn gweithio ar ffilmiau a enwebwyd ar gyfer Oscars eleni. Mae ei nyrsys dan hyfforddiant yn gweithio ar reng flaen y GIG. Mae’r garfan gyntaf o heddweision yng Nghymru a Lloegr wedi graddio o’r Brifysgol drwy gwblhau diploma graddedig newydd mewn plismona, ac mae'n arweinydd academaidd prosiect gwerth miliynau o bunnoedd i ddatgarboneiddio diwydiant yn Ne Cymru.

Mae’r ymgyrch wedi derbyn cefnogaeth cyflogwyr blaenllaw a phartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys y Siambr Fasnach Ryngwladol, ynghyd â chefnogaeth gan nifer o BBaChau a sefydliadau lleol sy'n gweithio gyda phrifysgolion y Gynghrair i sicrhau newid i'w cymunedau.

Dywedodd Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cynghrair Sgrîn Cymru: "Mae ein partneriaeth â Phrifysgol De Cymru yn ein galluogi i gael mynediad at raddedigion talentog i weithio mewn gwahanol adrannau ac yn uniongyrchol ar gynyrchiadau yn Wolf Studio Cymru. Mae nifer o raddedigion mewn Animeiddio, Dylunio a Chyfrifiadura wedi dod aton ni i weithio ar ein cynyrchiadau diweddaraf a gyda chefnogaeth y Brifysgol, lansiwyd porthol Cynghrair Sgrin Cymru yn llwyddiannus i hyrwyddo'r ystod eang o sgiliau, gwasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael yma yng Nghymru. Yn y bôn, mae'r bartneriaeth hon yn helpu PDC ac CSC i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o dyfu a meithrin y dalent greadigol sydd gennym yng Nghymru a datblygu gweithlu cynaliadwy, nawr ac ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Dr Gareth Lloyd, Rheolwr Peirianneg Prosesau, TATA Steel: “Dros y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi cynyddu ein gwaith gyda Phrifysgol De Cymru ac mae gennym nifer o brojectau PhD ac ymchwil ar waith. Bwriadu gweithio gydag arbenigwyr hydrogen oedden ni i ddechrau, ond mae hynny wedi symud yn ei flaen i fod yn gydweithio ar ystod ehangach o brojectau o fewn Canolfan Adnoddau Amgylcheddol Cynaliadwy PDC, yn ogystal ag arbenigwyr mewn gwyddoniaeth ddata.  “Mae’r Brifysgol wedi ein helpu i ehangu ein rhwydwaith o gysylltiadau, ac mae hyn eisoes wedi ei gwneud yn bosibl i ni weithio gyda chyflenwyr newydd a defnyddio offer newydd ar gyfer ein diwydiant ac mae hynny wedi gwella ein dulliau gwaith.”

"Mae'r rhyngweithio rhwng prifysgolion a chwmnïau fel TATA Steel yn rhoi mynediad i ni at arbenigwyr sydd â dros 30 mlynedd o brofiad ymchwil yn eu maes. Ond rydyn ni’n cydweithio ar fwy nag ymchwil yn unig.  Mae'r ddau ohonom yn chwarae rhan yn yr ymdrech i sicrhau bod myfyrwyr yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i agor y drws i'w llwybr gyrfa dewisol."

Dywedodd Yr Athro Debra Humphris, Cadeirydd Cynghrair y Brifysgol ac Is-Ganghellor Prifysgol Brighton: "Mae prifysgolion y Gynghrair wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn eu rhanbarthau, gyda threftadaeth yn ymestyn yn ôl gannoedd o flynyddoedd, a chenhadaeth i gefnogi pobl a chymunedau lleol, sy'n parhau hyd heddiw. Mae prifysgolion y Gynghrair yn helpu i adeiladu economi a gweithlu'r dyfodol gyda'u hymchwil arweiniol a chysylltiadau agos â busnes, ac maen nhw’n pweru'r gwasanaethau cyhoeddus rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

"Mae'r ymgyrch hon yn dangos rhai o'r ffyrdd y gall prifysgolion y Gynghrair fanteisio ar eu cryfderau ymarferol i gefnogi'r ymdrech genedlaethol i sicrhau adferiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn y misoedd a'r blynyddoedd sydd o’n blaen. Wrth i'r wlad geisio adeiladu yn ôl o'r argyfwng hwn, mae prifysgolion y Gynghrair yn barod i gefnogi ein cymunedau a'r adfywiad cenedlaethol, ac mae ganddyn nhw’r cysylltiadau lleol, yr arbenigedd, y partneriaethau a'r gefnogaeth gyhoeddus sydd eu hangen i bweru dyfodol y wlad."

Dywedodd Yr Athro Julie Lydon, Is-ganghellor Prifysgol De Cymru: "Mae prifysgolion yn chwarae rhan mor hanfodol yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, o arwain ymchwil ac arloesi gan helpu i ddatrys problemau byd go iawn i arfogi ein myfyrwyr a'n graddedigion â'r sgiliau y bydd eu hangen ar ein gweithlu yn y dyfodol. Rydyn ni’n rhan o'r gwaith o gefnogi ein rhanbarthau i ailadeiladu ein heconomi a'n cymdeithas, gan ddarparu cyfleoedd ac atebion, wrth i ni weithio'n agos gyda phartneriaid i adeiladu gwell yfory." 

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cynghrair y Prifysgolion Vanessa Wilson: "Fel grŵp cenhadaeth rydyn ni wedi ymrwymo i gydweithio, i ddatgloi potensial er mwyn sicrhau newid, a fu hyn erioed yn bwysicach i'r DU nag yw hi ar hyn o bryd. Rwy'n falch ein bod ni, drwy lansio'r ymgyrch hon, yn dangos ein potensial a'n parodrwydd fel grŵp cyfunol o brifysgolion i bweru’r  adnewyddiad ac adferiad cenedlaethol rydyn ni i gyd yn gweithio tuag ato, wrth i ni geisio ailadeiladu o Covid-19 ac wedi hynny.

"Bydd llwyddiant y rôl hon yn dibynnu ar feddylfryd y Llywodraeth o ran polisïau ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i harneisio potensial a phŵer ein sefydliadau, a sefydliadau eraill tebyg i ni, i gefnogi eu cynllun ar gyfer twf ac adfywiad cenedlaethol."