Ymarfer corff ac ymarfer yr ymennydd: sut gallai parhau’n actif helpu pobl i wella o strôc

22 Mawrth, 2021

Exercise GettyImages-884653660.jpg

Bydd prosiect dan arweiniad Prifysgol De Cymru (PDC) yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio Hyfforddiant Dwysedd Uchel Ysbeidiol (HITT) i helpu cleifion strôc i wella.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru yn rhan o brosiect cydweithredol Québec-Cymru, mae'r  Athro Damian Bailey , Athro Ffisioleg a Biocemeg PDC yn gweithio'n agos gydag academyddion ym Mhrifysgol McGill ac Université Laval yng Nghanada, yn ogystal â chydweithwyr ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, ar y prosiect. 

Fel prif achos anabledd yn y DU, strôc sy'n gyfrifol am y pedwerydd nifer uchaf o farwolaethau yng Nghymru, a'r trydydd mwyaf yng Nghanada. Mae'n costio biliynau o bunnoedd i'r GIG a systemau iechyd eraill ledled y byd bob blwyddyn, ac felly mae dod o hyd i strategaethau effeithiol i fynd i'r afael â'r baich ariannol hwn wedi dod yn fwyfwy pwysig.

Awgryma tystiolaeth gronnol y gall HIIT wella swyddogaeth wybyddol mewn oedolion hŷn sy'n dioddef strôc, dementia a cholli cof. Mae eisoes wedi ei ddefnyddio’n llwyddiannus gydag adferiad cleifion â chyflyrau cronig fel clefyd y galon, diabetes a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).

Mae manteision HIIT yn gysylltiedig â'r newidiadau a ysgogir gan ymarfer corff sy'n gwella llif gwaed i'r ymennydd, sy’n golygu ei fod yn ddull hyfforddi sy'n effeithlon o ran amser ac yn un a allai helpu i hybu iechyd y galon a'r ysgyfaint a’r ymennydd mewn cleifion sy'n gwella o strôc – sy'n ffactorau allweddol wrth atal strôc bellach.

Dywedodd yr Athro Bailey: "Gyda’r nifer o oedolion hŷn yn cynyddu, bu twf cyfatebol yn y nifer o bobl mae clefydau niwrofasgwlaidd yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys strôc a dementia. Gan nad oes modd gwella’n llwyr ar hyn o bryd, mae angen i’r ymdrechion mawr sydd ar waith i wella iechyd yr ymennydd ganolbwyntio ar atal, gyda phwyslais ar ffactorau risg y gellir eu newid megis hyrwyddo gweithgarwch corfforol.

"Gyda thystiolaeth gref ynghylch y buddion cyhyrysgerbydol, cardiofasgwlaidd a serebrofasgwlaidd a ddaw o ymarfer corff rheolaidd – lawn cystal â thriniaeth gyda chyffuriau mewn nifer o gyflyrau cronig – nawr yw'r amser i ystyried rhoi HIIT ar bresgripsiwn. Gellid dadlau y byddai gan hynny fwy o botensial na dim i hybu iechyd pobl hŷn, drwy ohirio strôc, dirywiad gwybyddol a dementia. Byddai hynny o fudd i unigolion, eu teuluoedd a chymdeithas yn gyffredinol. "

Yn rhan o'r prosiect, mae'r Athro Bailey wedi dwyn ynghyd grŵp o arbenigwyr o faes presgripsiynu ymarfer corff i adfer o  strôc, niwroblastigrwydd, afiechyd y galon a’r ysgyfaint a chyflyrau serebrofasgwlaidd i ffurfio rhwydwaith ymchwil newydd.

Bydd y prosiect yn ystyried tystiolaeth wyddonol ynghylch defnyddio HIIT ac yn sefydlu sut y gellir ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn effeithiol, yn enwedig o dan y cyfyngiadau presennol yn dilyn pandemig Covid-10. Bydd yr ymchwil wedyn yn cynllunio hap-dreial aml-safle dan reolaeth i benderfynu a yw HIIT yn cynnig mwy o fuddion nag yw hyfforddiant parhaus dwysedd cymedrol confensiynol (MICT).

Bydd y tîm ymchwil yn trafod nodweddion y cleifion a allai elwa fwyaf ar HIIT, gan gynnwys yr amser sydd wedi mynd heibio ers iddynt gael strôc, y math o strôc a pha ran o’r ymennydd yr effeithiwyd arni. Bydd teilwra paramedrau HIIT i nodau penodol y cleifion yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau'r diogelwch a'r effeithiolrwydd mwyaf posibl yn yr ymyriad hwn.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae ein prifysgolion yn sefydliadau sydd wedi eu cysylltu’n fyd-eang, yn gweithio gyda phartneriaid ledled y byd i newid bywydau pobl a’r gymdeithas er gwell. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o hyn ar waith, ac yn amlygu’r cysylltiadau cynyddol rhwng Cymru a Quebec. 

“Ers i Lywodraeth Cymru sefydlu swyddfa ym Montreal yn 2018, rydyn ni wedi bod yn gweithio hyd yn oed yn agosach â’n cymheiriaid yno i adnabod cyfleoedd i gydweithio a rhannu dysgu, ac rydym wedi darparu nifer o grantiau i gefnogi cydweithio rhwng academyddion o’r ddwy genedl. Mae’r ymchwil i’r Gwyddorau Bywyd sy’n digwydd yng Nghymru yn bwysig i’r byd i gyd, ac mae hyn yn gryfder y mae Cymru a Quebec yn ei rannu. Gobeithiwn y gwelwn llawer mwy o gydweithio hir dymor yn y maes hwn, ac yn gefn i hynny, rydyn ni’n lansio ail Alwad am Gynigion gyda Quebec y gwanwyn hwn, gyda ffocws ar Wyddorau Bywyd yn flaenoriaeth.”

Bydd canlyniadau'r hap-dreial rheoli yn adeiladu ar adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y Journal of Physiology, a chânt eu rhannu drwy rwydweithiau ymchwil, elusennau a grwpiau adfer o strôc lleol.