Ymchwil yn dangos y pellter ychwanegol mae'n rhaid i rai o drigolion Cymru ei deithio i gael gwasanaethau bancio

16 Mawrth, 2021

Cash machine.jpg

Bu'n rhaid i BRESWYLWYR mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru deithio dros 21km yn bellach i gael mynediad at wasanaethau bancio yn 2018 o'i gymharu â degawd ynghynt, yn ôl ymchwil gan Brifysgol De Cymru ( PDC).

Mae erthygl a gyhoeddwyd gan Ymchwil y Senedd - ar sail gwaith a wnaed yn rhan o’r Cynllun Cymrodoriaeth Academaidd gan Athro Cysylltiol PDC, yr Athro Mitch Langford – yn edrych ar sut y gall technolegau mapio digidol arwain at ddeall darpariaeth ddaearyddol cyfleusterau bancio yn well. 

Roedd yr astudiaeth yn dilyn ymchwiliad gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd i faterion yn ymwneud â mynediad at fancio, a edrychodd ar y gostyngiad yn narpariaeth banciau, cymdeithasau adeiladu a chyfleusterau ATM. 

Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu a gwella mynediad at arian parod a mapio'r bylchau mewn gwasanaethau bancio yn gyffredinol, gan gynnwys mynediad at fanciau, Swyddfeydd Post, peiriannau ATM y gellir eu defnyddio am ddim a chysylltedd ar gyfer bancio digidol.

Canfu'r ymchwil a ddilynodd fod y pellter teithio i’r gangen banc neu gymdeithas adeiladu agosaf wedi cynyddu ar gyfartaledd o 2.8km yn 2008 i 3.8km ddegawd yn ddiweddarach. Roedd cryn amrywiaeth ddaearyddol ar waith, gyda rhai pobl ychydig yn nes at wasanaethau yn 2018, tra bo trigolion llawer o ardaloedd eraill yn gorfod teithio’n bellach.  

"Yn 2008 roedd 791 o ganghennau banc a chymdeithasau adeiladu yng Nghymru, yn gwasanaethu poblogaeth o 2,466,956 o oedolion, sef cyfartaledd o 3.2 cangen i bob 10,000 o drigolion," dywed yr adroddiad.

"Erbyn 2018, yn sgil cau canghennau, gostyngodd nifer y safleoedd i 532, a gostyngodd y gymhareb genedlaethol hon i 2.4 cangen i bob 10,000 o drigolion."

Dywed yr adroddiad hefyd y gallai’r pandemig Coronafeirws gael effaith ar fynediad at wasanaethau bancio yn y dyfodol.

"Nid yw holl effeithiau llawn y pandemig ar ddarpariaeth canghennau yn y dyfodol, ar newidiadau cymdeithasol yn y ffordd y gwneir trafodion ariannol, neu ar y defnydd o fancio digidol a thrafodion di-bapur, wedi dod i’r amlwg eto," meddai'r adroddiad, gan ychwanegu: "Bydd y wybodaeth a gesglir ac a gyflwynir yn yr ymchwil hon yn feincnod gwerthfawr ar gyfer gwerthuso materion sy'n peri pryderon o'r fath yn y dyfodol."

Gellir darllen yr adroddiad llawn yn Mapio mynediad at wasanaethau bancio.