Gweinidog yn croesawu myfyrwyr yn ôl i'r campws
24 Medi, 2021
Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ac Is-Ganghellor PDC, Dr Ben Calvert, yn sgwrsio â myfyrwyr ar Gampws Treforest
Ymwelodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, â Phrifysgol De Cymru (PDC) ddoe (dydd Iau 23 Medi) i helpu i groesawu myfyrwyr yn ôl i'r campws ar ddechrau'r tymor.
Treuliodd y Gweinidog y prynhawn ar Gampws Pontypridd PDC i weld rhai o weithgareddau’r digwyddiad croeso, cyfleusterau addysgu a siarad â myfyrwyr. Roedd hyn yn cynnwys ymweld â myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yn y Ganolfan Efelychu Clinigol yng Nglyn-taf, sy'n efelychu amgylcheddau clinigol ar gyfer addysg a hyfforddiant.
Ar ôl treulio amser yn siarad â myfyrwyr ac yn teithio o amgylch y cyfleusterau, gan gynnwys gofal dwys, bydwreigiaeth, damweiniau ac achosion brys a lleoliadau clinigol pediatreg, fe alwodd i mewn i’r digwyddiad Gŵyl Groeso yn Nhrefforest. Roedd y digwyddiad awyr agored yn gyfle i groesawu myfyrwyr yn ôl i gampysau PDC gyda stondinau cerddoriaeth fyw, gwybodaeth, bwyd a diod. Yno, bu’n sgwrsio â nifer o fyfyrwyr y DU a rhyngwladol ynglŷn â bod yn ôl ar y safle.
Siaradodd hefyd â myfyrwyr nyrsio PDC a oedd wedi bod yn gweithio mewn clinig brechu dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar Gampws Trefforest trwy'r wythnos. Mae'r myfyrwyr nyrsio, a oedd wedi gwirfoddoli i weithio yn y clinig, wedi bod yn rhoi brechlynnau dos cyntaf ac ail ddos i fyfyrwyr cyn iddynt ddychwelyd i ddysgu ac addysgu wyneb yn wyneb.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg: “Roedd yn wych ymweld â Phrifysgol De Cymru a chwrdd â llawer o’r myfyrwyr sy’n dychwelyd am y tymor newydd neu ddechrau ar eu taith i addysg uwch. Fe wnes i fwynhau cwrdd â rhai o'r myfyrwyr nyrsio, sydd eisoes wedi ennill profiad o weithio ar reng flaen y GIG yn ystod y pandemig.
“Mae'r Brifysgol wedi gwneud gwaith aruthrol yn cadw ei myfyrwyr, ei staff a'i chymuned yn ddiogel yn ystod y pandemig, trwy roi mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau y gall dysgu barhau'n ddiogel. Mae'r ganolfan frechu dros dro, sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn hanfodol wrth alluogi myfyrwyr i gael eu brechlynnau a helpu i gadw eu hunain a'u teulu prifysgol yn ddiogel.
“Diolch i bawb yn PDC am y croeso gwych.”
Dywedodd Dr Ben Calvert, Is-Ganghellor PDC: “Mae wedi bod yn hyfryd gweld myfyrwyr yn ôl i ddechrau’r tymor newydd gyda ni ac i siarad â nhw am yr hyn maen nhw'n edrych ymlaen ato. Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog i'r safle a'i dywys o amgylch ein cyfleusterau a sgwrsio gyda'n myfyrwyr.
“Rwy’n falch iawn o’n myfyrwyr a’r gwydnwch y maen nhw wedi’i ddangos dros y 18 mis diwethaf. Mae'r rhai rydw i wedi siarad â nhw yn edrych ymlaen at fod yn ôl, ac at gael mwy o addysgu wyneb yn wyneb ar y safle y tymor hwn.
“Mae gennym amryw fesurau diogelwch ar waith fel y gellir gwneud hynny mor ddiogel â phosibl, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am ddarparu’r clinig brechu dros dro i roi cyfle i’n cymuned prifysgol gael dos cyntaf neu ail ddos eu brechiad, os nad ydyn nhw wedi cael un eto, mewn ffordd gyfleus.”
Dywedodd Caitlin Davies, myfyriwr BA (Anrh) mewn Nyrsio (Oedolion) yn PDC, sydd wedi bod yn gweithio yn y ganolfan frechu dros dro ar Gampws Trefforest: “Mae'r wythnos hon wedi bod yn gyfle cyffrous iawn. Mae wedi bod yn hyfryd gweld y myfyrwyr yn dod i mewn ac eisiau aros yn ddiogel trwy gael eu brechlynnau. Mae hyn mor bwysig oherwydd byddant yn dod i gysylltiad â chymaint o bobl yn y brifysgol.”