Myfyrwraig darlunio yn gadael ei marc ar gerflun Snoopy ar gyfer Dogs Trust

1 Mehefin, 2021

Alison Howard with Snoopy.jpg

Bydd dyluniadau myfyrwraig darlunio o Brifysgol De Cymru (PDC) i’w gweld ar gerflun mawr iawn o Snoopy yng Nghastell Caerdydd yr wythnos hon, yn rhan o ddigwyddiad gan yr elusen cŵn Dogs Trust, i annog y cyhoedd i fod yn rhan o’r gwaith o greu cerflun o Snoopy ar gyfer llwybr celf newydd yn Ne Cymru y flwyddyn nesaf.

Cyflwynodd Alison Howard, sydd yn ei hail flwyddyn o'r cwrs BA (Anrh) mewn Darlunio , y dyluniad buddugol ar gyfer digwyddiad celf A Dog's Trail with Snoopy, a fydd yn cael ei gynnal yn y castell rhwng 1 a 4 Mehefin. Mae'r digwyddiad yn gwahodd teuluoedd a phobl sy'n caru cŵn i archebu slot i liwio rhannau o gerflun o Snoopy gyda phennau paent acrylig.

Mae'r elusen yn dod â chanolfan ailgartrefu newydd i Fae Caerdydd yr haf hwn, a bydd yn dathlu drwy lansio A Dog’s Trail with Snoopy yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Nod y llwybr celf cyhoeddus, fydd yn para am 10 wythnos ac y gellir ymuno ag ef am ddim, yw dangos bod De Cymru yn lle gwych i fyw, gweithio a chwarae ynddo, ac ymweld ag ef. Bydd hefyd yn rhoi hwb i iechyd a lles pobl.

Mewn cydweithrediad â Peanuts – a greodd y cartŵn Snoopy byd-enwog – bydd y llwybr yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Wild in Art, cwmni creadigol sydd wedi cynhyrchu cerfluniau 'cynfas gwag' yn barod i artistiaid eu hanimeiddio.

Cafodd Alison a'i chyd-fyfyrwyr ar y cwrs y briff gan Dogs Trust ym mis Ionawr eleni ac maen nhw i gyd wedi cyflwyno dyluniadau gwaith llinell du a gwyn i'w hystyried ar gyfer y llwybr. Roedd yn rhaid i'w syniadau gyd-fynd â'r ymgyrch Take Care with Peanuts, sy'n hyrwyddo gofalu amdanoch chi’ch hun, am eraill ac am y Ddaear.

Ers hynny, mae Alison, sy'n 22 oed ac o Sutton Coldfield yn Birmingham yn wreiddiol, wedi treulio tri diwrnod yn trosglwyddo ei dyluniad buddugol i'r cerflun, yn barod ar gyfer y digwyddiad yr wythnos hon.

"Cawson ni bedair delwedd o Snoopy fel templed, ac roedd angen i'n dyluniadau gynrychioli Snoopy, Peanuts, Dogs Trust a'r syniad o garedigrwydd a hunanofal," dywedodd.

"Defnyddiais i lechen ddigidol i ddechrau i greu fy nyluniad yn Photoshop, cyn ei gopïo i'r cerflun gan ddefnyddio marcwyr acrylig. Rwyf wrth fy modd yn cyfuno'r dull pen a phapur traddodiadol gyda lluniadu digidol, felly roedd y prosiect hwn yn ffordd wych o gyfuno'r ddau.

"Penderfynais ymgorffori ffyrdd y mae pobl yn ymlacio, gan gynnwys treulio amser gydag anifeiliaid a mwynhau natur. Roeddwn i hefyd eisiau cael tipyn o hwyl yn y darluniad, felly ychwanegais gi’n ymlacio’n braf mewn bath!"

Mae Alison, a gafodd ddiagnosis o Awtistiaeth y llynedd, wedi mwynhau tynnu lluniau ers pan oedd hi’n ifanc iawn, ac mae wedi defnyddio ei phrofiad i ysbrydoli ei gwaith yn y brifysgol.

"Rwyf bob amser wedi teimlo ychydig yn wahanol, ond doeddwn i ddim yn gwybod pam," dywedodd. "Yna awgrymodd ffrind ei bod yn bosibl fy mod i’n awtistig, ac ers cael diagnosis rwy'n teimlo fod popeth fel petai’n gwneud synnwyr nawr – tynnu lluniau oedd fy niddordeb mawr bob amser. Bellach, alla i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall fel gyrfa.

"Dewisais astudio Darlunio yn PDC oherwydd ei bod yn adnabyddus am ddarparu cynifer o gyfleoedd i fyfyrwyr weithio ar friffiau byw gyda gweithwyr proffesiynol creadigol a chleientiaid allanol. Rydyn ni wedi llwyddo i barhau â'r prosiectau hyn hyd yn oed yn ystod Covid, ac mae hynny wedi bod yn wych.

"Mae wedi bod yn flwyddyn heriol a dweud y lleiaf, ond rwyf wedi cael profiad mor gadarnhaol yn y brifysgol. Mae fy nhiwtoriaid yn gefnogol iawn ac rwyf wedi derbyn llawer o gymorth gyda fy astudiaethau. Rwy’n llawer mwy annibynnol ers symud oddi cartref ac rwyf mor falch fy mod wedi penderfynu mynd amdani a dod i PDC.

"Mae'n deimlad eithaf anhygoel, gwybod y bydd plant a theuluoedd yn mwynhau fy ngwaith. Fel rhywun oedd bob amser yn mwynhau tynnu lluniau a lliwio fel plentyn, rwy'n teimlo y gallai'r prosiect hwn ysbrydoli plant creadigol. Mae fel petai fy nhaith ddarlunio wedi ffurfio cylch cyflawn rywsut."

Ychwanegodd Matt Morgan, Arweinydd Cwrs Darlunio PDC: "Rwyf mor falch dros Alison; roedd ei dyluniad yn drawiadol, yn hwyl ac yn llawn cymeriad – perffaith ar gyfer y brîff! Mae tîm y cwrs bob amser yn falch pan gaiff ymrwymiad ac ymroddiad ein myfyrwyr eu cydnabod a phan welwn ni eu gwaith nhw allan yn y byd go iawn.

"Mae Alison wedi cymryd y camau cyntaf ar ei thaith i fod yn ddarlunydd proffesiynol ac mae'n wych gweld ein myfyrwyr yn defnyddio'r sgiliau a enillwyd o'r cwrs mewn cyd-destun proffesiynol. Ar y cwrs Darlunio, ein nod yw hyfforddi 'darlunwyr go iawn ar gyfer y byd go iawn', ac un ffordd rydyn ni’n gwneud hyn yw drwy gyflwyno briffiau byw gan gleientiaid go iawn i’n myfyrwyr. Mae wedi bod yn bleser mawr gweithio gyda Dogs Trust a Wild in Art, yn enwedig o gael cymeriad darluniadol mor eiconig â Snoopy yn destun!"

Dywedodd Owen Sharp, Prif Weithredwr Dogs Trust: "Mae gweld cynllun Alison yn dod yn fyw ar gerflun Snoopy wedi bod yn bleser, a bydd y digwyddiad Hanner Tymor yng Nghastell Caerdydd yn golygu y bydd cannoedd o bobl o bob rhan o'r ddinas yn gallu gwerthfawrogi ei doniau creadigol anhygoel.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr celf o PDC, sydd wedi cyflwyno dyluniadau unigryw i addurno cerflun Snoopy yn y prif lwybr y flwyddyn nesaf. Bydden ni wrth ein bodd yn creu ardal o fewn y llwybr i ddathlu gwaith y myfyrwyr talentog hyn, felly bydden ni wir yn hoffi clywed gan fusnesau lleol a fyddai'n hoffi noddi cerflun Snoopy, fel y gallwn ni wneud i hyn ddigwydd.

"Rydyn ni’n dal i chwilio am artistiaid i gyflwyno dyluniadau fydd yn ymddangos ar gerfluniau Snoopy y prif lwybr y gwanwyn nesaf. Dyma gyfle gwych i artistiaid helpu A Dog’s Trail with Snoopy i drawsnewid Caerdydd yn oriel gelf lawn hwyl, heb dâl mynediad iddi, a chodi arian gwerthfawr i helpu mwy o gŵn ledled De Cymru."

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad Hanner Tymor yr wythnos hon a sut i gymryd rhan yn y prif lwybr os ydych chi'n artist neu'n fusnes yn adogstrail.org.uk.