Cyn belled â bod gennych y bobl iawn yn gefn i chi, gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi eisiau

23 Mehefin, 2021

International Women in Engineering Day, Joanne Thomas, lecturer In Civil Engineering

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg, mae Joanne Thomas, darlithydd mewn Peirianneg Sifil, yn esbonio pam y daeth yn beiriannydd ac, er gwaethaf cael gyrfa lwyddiannus a bellach yn addysgu’r genhedlaeth nesaf, sut mae hi’n delio â ‘syndrom ffugiwr’.

Sut wnaethoch chi benderfynu eich bod chi eisiau bod yn beiriannydd?

Fi yw merch ieuengaf teulu o lowyr o Gastell-nedd, a'r cyntaf i fynd i'r brifysgol.  Rwyf bob amser wedi cael fy swyno gan bethau sy'n ymwneud â pheirianneg, sut mae pethau'n sefyll i fyny, ac roeddwn i wrth fy modd â lluniadu a mathemateg.  Pan oeddwn i'n ifanc iawn roeddwn i'n arfer eistedd gyda fy nhaid a chyfrif darnau arian, ac roedd yn fy helpu gyda mathemateg oherwydd gwyddai cymaint yr oeddwn yn ei fwynhau.

Ar ôl gwneud fy TGAU, roedd gen i syniad fy mod i eisiau bod yn bensaer, oherwydd roeddwn i wir wedi mwynhau braslunio, ac roeddwn i'n arfer edrych ar adeiladau a meddwl tybed ‘sut y gwnaed hynny, sut cafodd hwnnw ei adeiladu, sut mae'n sefyll?’.

Pan euthum i Goleg Abertawe i wneud fy Safon Uwch, gwyddwn eisoes bod gen i ddawn ffiseg, ac roeddwn i wir yn mwynhau mathemateg, ond roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn ‘ysgafnach’.  Fe wnes i fwynhau lluniadu, felly penderfynais wneud cyfathrebu graffig, fel lluniadu technoleg, a dysgu sgiliau cyfathrebu trwy arlunio.

Mewn gwirionedd, helpodd hyn i'm tywys tuag at beirianneg, oherwydd darganfyddais nad oedd gen i'r creadigrwydd gorau mewn gwirionedd.  Roedd hynny i gyd yn rhan o'r gromlin ddysgu.  Mae braslunio yn offeryn gwych rwy'n ei ddefnyddio heddiw i egluro syniadau a chysyniadau.

Fodd bynnag, tra yng Ngholeg Abertawe cyflwynodd fy narlithydd mathemateg fi i beirianneg, ac ar ddiwrnod blasu peirianneg ym Mhrifysgol Salford euthum i ffatri trin dŵr ac fe’i gwelais yn cael ei hadeiladu.  Sylweddolais fy mod i wrth fy modd yn gweld pethau’n cael eu hadeiladu, a gallu gweithio ar y safle.

Yno y dechreuodd y cyfan a phenderfynais fy mod eisiau bod yn beiriannydd sifil, ac es ymlaen i wneud gradd Meistr (M.Eng) mewn peirianneg bensaernïol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd blwyddyn o hynny yn cynnwys lleoliad gwaith, lle roeddwn yn ffodus iawn i weithio ar rai prosiectau gwych, gan gynnwys dylunio grisiau ar gyfer palas.

Sut wnaeth eich addysg ddylanwadu ar eich gyrfa?

Gwneud y radd Meistr oedd dechrau fy ngyrfa ac roedd yn brofiad gwych, tra bod yr amser ar leoliad yn ei gwneud yn well fyth.

Roedd yn wych fy mod i wir yn gweithio pethau allan ar bapur, ac yna'n mynd i'r safle a'u gweld yn cael eu hadeiladu, ac o'r diwedd yn gweld y prosiect terfynol.

Profodd hyn mai dyma oedd yn iawn i mi - dyma beth rydw i wrth fy modd ag ef, gwasgu’r rhifau, gwneud y dadansoddiad, mynd o’m pen i bapur, o bapur i lun, o lun i’r contractwr, o'r contractwr i'w adeiladu a gweld y gwaith terfynol, a dweud 'Fi wnaeth hwnna'.

Rwyf hefyd yn ffodus fy mod i wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau yn ystod fy ngyrfa, gan gynnwys diwydiannol, gofal iechyd, ysgolion, cyfleustodau, adeiladau masnachol, canolfannau celf a meysydd parcio, hyd yn oed gwaelodion polyn lampau.  Maent wedi bod yn gymysg iawn, ac wedi amrywio o strwythurau bach iawn i filiynau o bunnoedd, rhai na fydd neb yn ôl pob tebyg yn eu gweld.  Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i weithio i ymgynghoriaethau bach a rhyngwladol.  Treuliais y rhan fwyaf o’m gyrfa yn gweithio gyda thîm gwych yn James and Nicholas LLP, a feithrinodd fy sgiliau wrth ddylunio gyda gwahanol ddefnyddiau gwahanol.

Un o'r rhannau gorau i mi yw eich bod chi'n gweithio gyda phenseiri a disgyblaethau eraill i feddwl am yr atebion strwythurol i ddod â'u dyluniadau yn fyw - unigolion gwych yn gweithio gyda'i gilydd i wneud pethau sy'n para am amser hir.

Wrth weithio, deuthum hefyd yn Siartredig gyda Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE), sy'n gymhwyster heriol iawn i'w gyflawni. Y gyfradd basio yn y flwyddyn honno oedd 23%, felly mae'n glod mawreddog mewn gwirionedd.

Pam wnaethoch chi benderfynu symud o ddiwydiant i addysgu?

Rwy'n llysgennad STEM a phan ddaeth myfyrwyr i weithio yn y cwmnïau roeddwn i'n gweithio iddyn nhw, byddwn i bob amser yn eu cymryd dan fy adain ac yn sicrhau eu bod nhw'n derbyn gofal. Dywedodd fy nghydweithwyr fy mod yn dda am egluro pethau a’u rhoi yn nhermau lleygwr, ac, er fy mod bob amser eisiau bod yn beiriannydd, roeddwn hefyd ag awch am roi cynnig ar ddysgu, felly pan welais y swydd yn PDC penderfynais roi cynnig arni.

Digwyddodd hyn ar adeg pan gollais ffrind i ganser a gwnaeth hynny imi ail-werthuso fy ngyrfa a, phan welais y rôl yn cael ei hysbysebu, meddyliais ‘Pam nad wyf yn ei wneud, a’i wneud nawr?’

Felly, o fis Mawrth 2019, fe wnes i arallgyfeirio a bellach rwy'n dysgu peirianneg strwythurol yn fy rôl fel darlithydd peirianneg sifil.

Beth fu'ch profiad fel menyw mewn peirianneg, a pha gyngor fyddech chi'n ei roi i fenywod sy'n meddwl am yrfa mewn peirianneg?

Rwy’n ffodus gan na chefais erioed broblem gyda bod yn fenyw yn y diwydiant peirianneg. Mae hynny oherwydd dau beth - y menywod a wthiodd y ffiniau ger fy mron a oedd yn ei gwneud yn bosibl ystyried gyrfa fel peiriannydd ac oherwydd y tîm y bûm yn gweithio ynddo ym mhob un o fy nghyflogwyr. Cefais fy ystyried fel y person iawn i wneud y gwaith iawn.Nid oedd yn ymwneud â bod yn fenyw na bod yn ddyn, roedd oherwydd bod fy mhen yn gweithio'n rhesymegol.

Efallai bod menywod sy'n beirianwyr yn fach o ran nifer, ond rydyn ni yno. Cyn belled â bod gennych y bobl iawn yn gefn i chi, gallwch chi wneud unrhyw beth rydych chi eisiau.

Felly, os ydych chi am helpu'r byd, yn enwedig nawr gyda'r argyfwng hinsawdd enfawr hwn rydyn ni ynddo, byddwch[GA1]  yn beiriannydd a gwneud cymdeithas well yn ôl y pethau rydyn ni eu hangen bob dydd, fel y strwythurau rydyn ni'n eu hadeiladu, y drafnidiaeth, y dŵr a phŵer rydyn ni'n ei ddarparu yn ogystal â llawer o bethau na fyddech chi fyth wedi meddwl amdanyn nhw o bosib. Mae peirianwyr yn effeithio ar fywydau pawb, bob dydd, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n sylweddoli hynny.

Gall menywod ddod â llawer i’r bwrdd, bod yn dosturiol, meddwl am y darlun ehangach, meddwl am hinsawdd, meddwl am blant, a'r dyfodol - mae menywod yn anhygoel!

A gallwch chi siarad â'r dynion, nid ydyn nhw mor frawychus â hynny!  Mae'n rhaid i chi fynd gyda meddwl agored, mae'n Rahid i chi dderbyn bod pawb yn wahanol, a chofleidio'r gwahaniaeth hwnnw.

Rydych yn dioddef gyda ‘syndrom ffugiwr’ er eich bod yn beiriannydd llwyddiannus sydd bellach yn dysgu darpar beirianwyr eraill.  Sut ydych chi'n goresgyn y teimlad hwnnw?

Mae fy nhîm yn fy helpu llawer.  Maen nhw'n fy atgoffa fy mod i'n werth chweil, fy mod i'n dda am yr hyn rydw i’n ei wneud, ac y dylwn fod â mwy o hyder ynof fy hun.

Mynychais ddiwrnod menywod mewn peirianneg ym Mryste ychydig flynyddoedd yn ôl a oedd yn cael ei annerch gan gyn-lywydd benywaidd Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStuctE), a soniodd am y ffaith ei bod hefyd yn dioddef o syndrom ffugiwr, ac mae'n ymddangos i mi fod llawer iawn o beirianwyr benywaidd i raddau gwahanol yn ei brofi.

Nid wyf yn credu y bydd fy syndrom ffugiwr byth yn diflannu, dyna pwy ydw i, ond mae fy nhîm gwych y tu ôl i mi, gan fy atgoffa y gallaf wneud fy swydd, ac yn fy nghadw i fynd tan ddiwedd y dydd.

Yr hyn sy'n wych hefyd yw fy mod i'n cael adborth gwych gan fy myfyrwyr.  Mae hynny'n fy helpu i sylweddoli mod i’n amlwg yn gwneud rhywbeth yn iawn.