Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021 | Gadael y Fyddin: O wasanaethu i astudio
25 Mehefin, 2021
Chloe Omoloju
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn falch o gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 26 Mehefin.
Ers llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2013, mae PDC wedi cefnogi aelodau o'r Lluoedd Arfog sy’n fyfyrwyr yn y Brifysgol, a hefyd wedi cefnogi'r gymuned Lluoedd Arfog ehangach.
Dan arweiniad Dr Ross Hall, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol: y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, mae PDC yn rhoi cymorth addysgol i bersonél y Lluoedd Arfog gyda'r System Gweinyddu Credyd Dysgu Ychwanegol (ELCAS). Mae PDC yn cynorthwyo personél y lluoedd arfog i astudio mewn Addysg Uwch (AU) drwy gydnabod eu profiad cyflogaeth unigryw yn lle cymwysterau ffurfiol.
Gwnaeth Chloe Omoloju, sy’n 34 oed, gais drwy gynllun ELCASac mae'n dechrau cwrs gradd yn PDC ym mis Medi.
Ar hyn o bryd yn gwasanaethu yng Nghorfflu Brenhinol Nyrsio’r Fyddin fel cynorthwyydd gofal iechyd milwrol, mae Chloe yn gweithio ochr yn ochr ag ymddiriedolaeth y GIG yn ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham. Mae Chloe yn dod o Gasnewydd ond mae hi'n byw ac yn gweithio yn Birmingham yn ystod yr wythnos ac yn teithio adref i'w theulu ar benwythnosau. [KW1]
Dywedodd Chloe: "Roeddwn i'n sengl pan ymunais i â'r Lluoedd Arfog. Fodd bynnag, bron i 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae fy amgylchiadau wedi newid. Rwy'n briod nawr ac mae gyda ni ddau o blant, sy’n saith a phump oed.
"Sylweddolais i fy mod am fod adref mwy a c roeddwn i am i’r plant allu aros yn eu hysgol. Mae fy ngŵr (hefyd yn gyn-aelod o’r Lluoedd Arfog) yn ei flwyddyn radd olaf yn PDC. Mae wedi bod yn hael ei glod i’r brifysgol ac awgrymodd fy mod i’n cael sgwrs gyda Dr Ross Hall.
"Doeddwn i ddim i fod i adael y fyddin tan ddiwedd eleni. Fodd bynnag, achos fy mod i wedi cael y cynnig gan PDC, roedden nhw’n fodlon i fi adael mewn pryd i ddechrau astudio ym mis Medi.
"Yn seiliedig ar fy mhrofiad fel swyddog yn gwasanaethu yn y sector iechyd, gwnaeth PDC gynnig diamod i mi ar y cwrs BSc Datblygiad Plentyndod gyda Blwyddyn Sylfaen."
Trefnodd Dr Hall alwad ar-lein gyda Chloe i drafod ei hopsiynau a’i harwain drwy’r broses ymgeisio.
"Rhoddodd y lefel hon o gefnogaeth yr hyder i fi wneud cais. Arhosodd Dr Hall mewn cysylltiad â fi drwy gydol y broses ymgeisio a gweithredodd fel fy mhwynt cyswllt yn PDC.
"Rwy'n teimlo'n nerfus ond hefyd yn llawn cyffro i ddechrau'r radd gan mai dyma'r trywydd rwyf am ei ddilyn. Yn y dyfodol, hoffwn arbenigo mewn gwaith cymdeithasol.
"I unrhyw un sy'n ystyried trosglwyddo o'r Lluoedd Arfog i AU, fy nghyngor i fyddai peidio â mynd i banig, gwnewch lawer o ymchwil a siaradwch â thîm y Lluoedd Arfog os oes gan y brifysgol un. Alla i ddim diolch digon i Ross am ei holl gymorth. Aeth allan o'i ffordd i helpu."
PDC yw'r unig brifysgol yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth ffurfiol â Chynghrair Dilyniant Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog (SCiP). Yn cynnig graddau addysg amrywiol, mae PDC yn sicrhau bod eu hathrawon dan hyfforddiant yn mynd i'r proffesiwn yn ymwybodol o blant personél y Lluoedd Arfog yn yr ystafell ddosbarth ac yn barod i'w cefnogi.
Mae Plant aelodau’r Lluoedd Arfog yn mynychu dros 10,000 o ysgolion yn y DU ac maen nhw’n wynebu heriau fel symud yn aml rhwng ysgolion a gwahanu pan fo’u rhieni yn cael eu symud i wahanol ganolfannau.
Ar ôl darlith a draddodwyd yn ddiweddar ar sut i gefnogi plant y lluoedd arfog, dywedodd Kelly Lewis, sy’n athro dan hyfforddiant: "Mae fy ffrind gorau yn byw oddi cartref yn un o wersylloedd y fyddin gyda'i gŵr a'u dau blentyn, ac maen nhw wedi gorfod symud i wahanol rannau o’r DU. Roedd symud fel hyn yn achosi pryder i’r plant o ran dechrau mewn ysgolion newydd a gwneud ffrindiau newydd.
"Gwnaeth y sesiwn i fi wir ystyried sut y gallai symud yn aml hefyd arwain at fylchau mewn addysg ac er bod plant yn wydn, gall cael rhieni sydd i ffwrdd yn gweithio yn aml effeithio’n emosiynol arnyn nhw. Dangosodd y sesiwn hon bwysigrwydd cefnogi plant i helpu i sicrhau bod eu bywyd ysgol, o ran gwneud ffrindiau neu ddysgu, yn hygyrch ac mor werthfawr â phosibl."
Dywedodd Dr Ross Hall "Mae PDC wedi ymgysylltu â phob elfen o gymuned y Lluoedd Arfog ehangach, ac mae’n rhoi cymorth i bersonél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Gall fod yn anodd cael mynediad at gyrsiau AU, ond rydyn ni wedi datblygu cynllun i helpu i droi eich dysgu drwy brofiad yn gredydau AU, lle bo hynny'n briodol. Rwy’n credu y gall ennill cymwysterau AU ffurfiol helpu’r broses o drosglwyddo o'r fyddin, ac mae PDC yn un o'r prifysgolion gorau i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial a dechrau ar yrfa newydd."
Armed Forces | University of South Wales