Entrepreneuriaid ysbrydoledig yn ennill cyllid Springboard
4 Mehefin, 2021
Mae enillwyr ail Gronfa Gychwynnol Springboard ar gyfer cwmnïau newydd gan Raddedigion Prifysgol De Cymru (PDC) 2020/21 wedi eu cyhoeddi.
Wedi'u creu i roi cymorth i entrepreneuriaid graddedig, ac yn benodol i ddarparu cyllid hadu i raddedigion PDC i ddechrau busnes newydd, mae'r gwobrau hefyd yn dangos ymrwymiad PDC i gefnogi graddedigion Dosbarth 2020, sy'n wynebu'r dirywiad economaidd mwyaf difrifol mewn cenhedlaeth, gyda Chronfa Cyflwyno Syniadau Entrepreneuraidd newydd.
Roedd yn rhaid i bawb a wnaeth cais am gyllid fod wedi graddio o PDC yn 2020 a bod naill ai ar gyfnod cyn cychwyn neu o fewn y chwe mis cyntaf o fasnachu.
Wynebodd yr enillwyr gystadleuaeth gref, gyda chyfanswm o 35 o geisiadau – sydd deirgwaith mwy na’r rownd gyntaf ym mis Tachwedd 2020.
Cafodd wyth o’r syniadau busnes cryfaf eu rhoi ar y rhestr fer i’w cyflwyno i banel o feirniaid dan gadeiryddiaeth yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Ganghellor Cynorthwyol PDC; dau entrepreneur a raddiodd o PDC - Kevin Mansell-Abell, sylfaenydd That Media Group, a Cherry Barber-Mansell, sylfaenydd The White Tent Company - a Francesca James, sylfaenydd Gwobrau Entrepreneuriaeth Prydain Fawr.
Dywedodd yr Athro Jones-Evans: "Mae menter ac entrepreneuriaeth yn rhan allweddol o'n gweithgarwch ym Mhrifysgol De Cymru ac roedd yn wych gweld bod nifer gynyddol o'n graddedigion bellach yn cymryd y cam i weithio drostyn nhw eu hunain.
"Roedd ansawdd y ceisiadau ar gyfer y cylch hwn o gyllid Springboard yn eithriadol o uchel ac rwyf wrth fy modd bod busnesau newydd eithriadol yn cael eu cefnogi gan y Brifysgol."
Yr hyn ddywedodd yr enillwyr...
Matt Rees – I’ve Gone Local - £2,500
“Mae I’ve Gone Local yn wefan sy'n ei gwneud yn haws siopa'n lleol a chefnogi busnesau annibynnol. Dychmygwch roi eich hoff gynnyrch o'ch hoff siopau lleol mewn un fasged rithiol heb y drafferth o gofrestru ar wefannau lluosog na chwilio'r cyfryngau cymdeithasol am oriau di-ben-draw. Gallwch wneud hynny bellach.
"Bydd y cyllid hwn yn fy ngalluogi i barhau i ddatblygu'r wefan fel y gallwn ddarparu profiad o'r radd flaenaf i gwsmeriaid ac i’n busnesau lleol."
www.ivegonelocal.com - Facebook: @ivegonelocal - Instagram: ivegonelocal - Twitter: @ivegonelocal
Diana Finlay (isod) a Sebastian Gallop (gwaelod) a saith o raddedigion diwydiannau creadigol eraill PDC - Jamie Lamb (Dylunydd Gemau), Owen Withey, Red Corder-Duffield (Dylunydd Gemau), George Laxon, Georgia Daniels, Curtis Brigden, a Rebecca Woods - Define Logic Studios - £2,500
Diana Finlay: "Ein stiwdio gemau yw Define Logic Studios, ac rydyn ni’n disgwyl rhyddhau ein cynhyrchiad cyntaf, Scientific Shutdown, ddiwedd mis Gorffennaf ac yn bwriadu dechrau ein teitl nesaf yn fuan iawn. Bydd ein cwmni Define Logic Solutions yn gweithio ar gontractau allanol, gan weithio gyda datblygwyr annibynnol eraill a busnesau eraill i ddod â'u syniadau digidol yn fyw. Bydd y cyllid yn ein galluogi i brynu'r trwyddedau sydd dal eu hangen arnon ni i greu cynnwys proffesiynol, i gofrestru a chaffael ein henw busnes, logo, ac enw parth gwefan, a hefyd i farchnata a hyrwyddo ein gemau a'n gwasanaethau ar y cyfryngau cymdeithasol."
www.definelogicstudios.com - Twitter: @DefineLogicUSW - Instagram: @DefineLogicUSW
Jake Spanswick (isod) a Quinn Byron-Dyer (gwaelod) – Blank Pixel Games - £2,000
Jake Spanswick: "Mae Blank Pixel Games Ltd yn Stiwdio Gemau Fideo Annibynnol sydd yn datblygu a chyhoeddi gemau fideo unigryw i’w defnyddio at ddibenion cyfarwyddiadol ac addysgol. Gan arbenigo mewn Unreal Engine, ein gobaith yw pontio'r bwlch rhwng addysg ac adloniant gemau. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar ein bod wedi ein dewis ar gyfer y cyllid hwn, gan y bydd yn ein galluogi i uwchraddio ein hoffer hen ffasiwn a bydd hynny’n cyflymu ein prosesau dylunio."
Chloe Carter – Because Animals Are Worthwhile - £1,600
"Pan ddechreuais i fy nhaith addysg uwch fel myfyriwr Astudiaethau Ceffylau, doeddwn i ddim yn sylweddoli y byddwn yn cael cyfle i gyfuno fy nghariad at anifeiliaid a helpu eraill. Gyda Gwobr Gychwynnol Springboard, bu modd i fi greu Menter Gymdeithasol gyda fy nhgyd-entrepreneur, Vanessa Hall, yn creu eitemau gofal anifeiliaid ecogyfeillgar.
"Gan fod cynifer o anifeiliaid mewn llochesi gwarchod ar hyd a lled y DU, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn, roedden ni am estyn help llaw iddyn nhw a’r fyddin wych o wirfoddolwyr a gweithwyr, ac fe sefydlon ni 'Because Animals are Worthwhile'. Bob tro y byddwch chi’n prynu cynnyrch gennym, byddwch yn rhoi eitem o’r un fath yn union i anifail anghenus mewn lloches leol, sy’n ei gwneud hi’n hawdd iawn cyfrannu at elusennau lleol.
"Bydd cyllid Cychwynnol Springboard yn ein helpu i ddatblygu ein cynnyrch cyntaf, sef siampŵ sebon ecogyfeillgar. Rydyn ni’n hynod ffodus i fod yn fyfyrwyr yn y Brifysgol ac rydyn ni’n ddiolchgar eu bod wedi ein dewis ni o blith cynifer o dalentau. Bydd yn siŵr o ehangu ein gorwelion. Rydyn ni’n bwriadu lansio cyn bo hir, felly dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol."
Twitter @AnimalsAreWW - Instagram @animalsareworthwhile – Facebook: https://www.facebook.com/animalsareworthwhile/
Damaris Landers - Biodivers - £1,400
"Mae Biodivers yn brofiad sgwba-blymio, yoga a pizza fegan sy'n gweithredu ledled De Cymru. Gall ein cwsmeriaid ddisgwyl diwrnod o yoga ar y traeth, dwy sesiwn blymio dan arweiniad yn un o'n lleoliadau plymio sydd wedi eu dethol yn ofalus, sesiwn glanhau traeth ddewisol a pizza fegan ffres yn goron ar y cyfan. Rydyn ni’n angerddol dros yr amgylchedd, felly, mae gan bob cynnyrch a gwasanaeth a gynigir gan Biodivers ffocws ar yr amgylchedd ac maen nhw i gyd yn ecogyfeillgar.
Bydd y cyllid yn ein helpu i ennill ein cymwysterau Divemaster terfynol, sydd eu hangen i dywys sgwba-blymwyr eraill o amgylch baeau hardd De Cymru."
Instagram @biodivers_uk - Twitter @BiodiversUK – Facebook | Biodivers