GradFest21 Creadigol: "Mae'r cwrs wedi rhoi hyder i fi fachu ar bob cyfle"

25 Mehefin, 2021

Creative Grad Fest 2021 - Naomi Linahan.jpg

Mae’r fyfyrwraig Theatr a Drama, Naomi Linahan, wedi gweithio i'r GIG a chwmni theatr o Gaerdydd yn ystod ei chyfnod yn dilyn y cwrs. Yn rhan o GradlFest21 Creadigol, dyma'r ferch 21 oed o Ferthyr Tudful yn egluro sut mae'r cwrs wedi rhoi hyder iddi fanteisio ar bob cyfle sy’n dod i’w rhan.

Pam wnaethoch chi benderfynu astudio yn PDC?

Dewisais astudio yn PDC ar ôl i fi fynychu ysgol ddrama yn rhan amser pan oeddwn i’n gwneud fy lefel A. Gwnaeth mynd i'r ysgol ddrama i fi sylweddoli nad oedd yr amgylchedd yn iawn i fi. Roedd angen i fi fod yn rhywle lle gallwn fod yn greadigol ac archwilio'r holl bosibiliadau sydd gan y diwydiant theatr i'w cynnig - dyna pryd y des i ar draws PDC. Erbyn i fi ddod i'r casgliad nad oeddwn i am fynd i ysgol ddrama roeddwn eisoes wedi defnyddio fy holl geisiadau UCAS, felly fy unig ddewis oedd defnyddio UCAS Extra. Gan mai dim ond un dewis oedd gen i, roedd yn rhaid i fi wneud y dewis iawn. Fe wnes i, diolch byth!

Ydych chi wastad wedi eisiau gweithio yn y diwydiant theatr a drama?

Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio yn y diwydiannau creadigol ar wahân i gyfnod byr lle'r oedd gwleidyddiaeth yn apelio!

Beth oedd eich hoff ran o'r cwrs?

Fy hoff ran o'r cwrs oedd cael profiad o theatr o bob cwr o'r byd. Er enghraifft, astudio theatr Japan a chymryd rhan mewn gweithdai Kabuki, yn ogystal â chymryd rhan mewn gŵyl theatr Bwylaidd 12 wythnos o hyd. Mae'n gyffrous iawn ymgysylltu â mathau newydd o theatr, dysgu am y diwylliant a'r hanes sydd o'u cwmpas, a chael mewnwelediad a gwybodaeth gan arbenigwyr y gallaf wedyn eu trosglwyddo i fy ngwaith fy hun.

Sut mae'r cwrs wedi eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol?

Mae'r cwrs theatr a drama yn PDC wedi fy mharatoi ar gyfer y dyfodol drwy fy ngalluogi i ennill llwyth o sgiliau newydd ac ymestyn y rhai oedd gen i eisoes.  Pan ddechreuais i fy ngradd, roeddwn i ychydig yn fewnblyg a swil, ond diolch i fy narlithwyr a fy nghyfoedion anhygoel rwyf bellach wedi magu'r hyder i gwblhau gwaith i'r GIG, gweithio ochr yn ochr â chwmni theatr yng Nghaerdydd a hyd yn oed wneud cais am swyddi yn Channel 4 ac ITV. Fyddwn i ddim wedi bod yn ddigon hyderus i wneud hynny cyn ymuno â'r cwrs.  

Allwch chi sôn mwy am y gwaith wnaethoch chi gyda'r GIG a'r cwmni theatr yn ystod eich cyfnod ar y cwrs?

Gyda'r GIG, roeddwn i’n gweithio'n agos â thîm y celfyddydau ac iechyd ar brosiect lles cymunedol. Fy ngwaith i oedd gwrando ar straeon cyfranogwyr a'u hail-greu fel straeon digidol oedd wedyn yn cael eu defnyddio i addysgu staff ac yn cael eu rhannu gyda'r cyhoedd mewn rhai achosion. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda'r cwmni theatr Hijinx, sydd wedi cynnwys nifer o bethau, o guradu arddangosfeydd ar-lein i gymryd rhan yn y gweithdai maen nhw’n eu cynnal gyda'u haelodau.

Beth ydych chi’n bwriadu ei wneud nesaf?

Rwy'n mynd i astudio gradd feistr mewn drama cyn mynd ymlaen i astudio TAR mewn Addysg Bellach. Ond, os yw eleni wedi dysgu unrhyw beth i fi, manteisio ar bob cyfle sy’n dod i’ch rhan yw hwnnw, felly pwy a ŵyr beth ddaw yn y dyfodol. Beth bynnag fydd yn digwydd, rwy’n gyffro i gyd!

Beth am y diwydiant theatr a drama sy’n eich cyffroi chi fwyaf?

Rwy'n credu mai'r hyn sydd o ddiddordeb pennaf i fi am y diwydiant theatr a drama yw pa mor amrywiol y mae e. Mae'n fwy na dim ond perfformio; mae addysg yn rhan ohono, ac actifiaeth, a hanes. Mae wir yn amlddisgyblaethol.