Grantiau’n datblygu prosiectau cynaliadwyedd

22 Mehefin, 2021

Sustainability generic

Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi derbyn cyfanswm o tua £1.5m ar gyfer ymchwil i amrywiaeth o brosiectau cynaliadwyedd. 

Mae tri datblygiad wedi derbyn cyllid grant gan Sêr Cymru, rhaglen ariannu gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i chynllunio i ddod â thalent wyddonol i swyddi ymchwil yng Nghymru.

Yr Athro Alan Guwy, Pennaeth Canolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy PDC - £474,968 - The VFA Factory

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio prosesau trosi microbiaid mewn ffordd arloesol i gynhyrchu cemegau platfform cynaliadwy, uchel eu gwerth ac amlbwrpas, ar ffurf asidau brasterog anweddol (ABAau) o ffrydiau gwastraff trefol a diwydiannol.

Bydd hyn yn troi llygryddion yn borthiant ar gyfer gweithgynhyrchu cemegol, gan leihau dibyniaeth ar betrogemegau a gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae treulio anaerobig – proses lle caiff deunydd organig fel gwastraff anifeiliaid neu fwyd ei wahanu i gynhyrchu bio-nwy a biowrtaith - yn rhan bwysig o economi gylchol y DU sy'n cael gwerth o wastraff. Mae'r system bresennol o ffioedd clwyd a chymorthdaliadau yn golygu bod treulio anaerobig yn cael ei ddefnyddio'n bennaf i gynhyrchu methan o ffynonellau biomas, ond mae hyn yn newid. 

Yn ogystal, mae methan yn nwy tŷ gwydr cryf, gyda photensial cynhesu byd-eang dros 80 gwaith yn fwy na CO2. Gall allyriadau sy'n deillio o AD fod yn fwy na 3% o'r nwy a gynhyrchir. Felly, drwy drosi CO2 diweddar yn CH4, mae AD confensiynol, yn baradocsaidd braidd, yn cyfrannu at gynhesu byd-eang.

Mae tystiolaeth eisoes yn cefnogi dichonoldeb cynhyrchu ABAau drwy dreulio anaerobig, o ffynonellau biomas a ffrydiau gwastraff nwyol, fel y rhai a ddaw o weithgynhyrchu dur ac adeiladu.  Mae ABAau, megis asetad, bwtyrad, a phropionad, yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu polymerau, plastigau, tanwyddau, toddyddion, paent, ychwanegion bwyd a chynnyrch fferyllol. Mae'r farchnad fyd-eang ar gyfer carbocsyladau yn fwy na €1.5bn, ac mae'r galw'n tyfu'n gyson.

Bydd PDC, ynghyd â'i phartneriaid diwydiant yn y VFA Factory, yn troi’r dechnoleg hon o fod yn ymchwil mewn labordy i fod yn dechnoleg gylchol sy'n berthnasol i ddiwydiant ac sydd o fudd i economi, amgylchedd a chymdeithas Cymru.

Bydd y gwaith yn y pen draw yn arwain at broses bioburo dolen gaeedig lle defnyddir cynnyrch gwastraff diwydiant i ddarparu'r cemegau a’r deunyddiau sydd eu hangen ar ddiwydiant.

Yr Athro Sandra Esteves, Athro mewn Technoleg Biobrosesu ar gyfer Adfer Adnoddau a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Cymru mewn Treulio Anaerobig yn PDC – £503,000

Mae ein bywydau bob dydd yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar argaeledd a defnydd plastigau. Er y bydd yn heriol iawn eu dileu'n gyfan gwbl, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio llai ohonynt, yn defnyddio opsiynau mwy ecogyfeillgar yn lle, ac yn ailgylchu polymerau o bob math yn effeithiol.

Cynhyrchir y mwyafrif llethol o bolymerau drwy ddefnyddio carbon ffosil, adnodd cyfyngedig sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang. Mae'r polymerau hyn yn achosi llygredd yn ein priddoedd, ein hafonydd a'n cefnforoedd, ac mae eu croniad a'u diraddio hirdymor yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae ailgylchu llawer o bolymerau ffosil hefyd wedi bod yn anodd o safbwynt technegol ac economaidd.

Mae biopolymerau y gellir eu cael yn fiolegol o wahanol fathau o wastraff organig a nwyon gwastraff sy'n seiliedig ar garbon, ac y gellir eu hailgylchu'n fiolegol, yn opsiynau amgen realistig sy'n gofyn am gydweithio academaidd a diwydiannol er mwyn datblygu cadwyni cyflenwi cynhyrchu ac ailgylchu gweithredol ac effeithlon.

Nod y prosiect 'biopol 4 life' a ariennir gan Sêr Cymru yw datblygu dealltwriaeth a sbarduno arloesedd mewn cynhyrchu ac ailgylchu polyester a hpolyamidau sy'n deillio o ficrobiaid, drwy fiodechnoleg ddiwydiannol (BDd), a diweddaru cyfleusterau ymchwil ac arddangos ledled Cymru.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar gylch oes cyfan y polyester a'r polyamidau, o borthiant, cynhyrchu polymer, a phrosesu, i effaith diwedd oes ac adfer cylchol.

Mae'r meysydd arbenigol hyn yn gofyn am sgiliau amlddisgyblaethol a chyfleusterau ymchwil arloesol sy'n adeiladu ar gydweithio integrol rhwng tair canolfan rhagoriaeth ymchwil a datblygu yng Nghymru.

Bydd y tîm academaidd, ynghyd â chydweithwyr diwydiannol, yn datblygu prosesau a chynnyrch newydd a bydd yn trosglwyddo gwybodaeth i gefnogi a datblygu twf glân a bioeconomi gwyrdd, gan gyfrannu at iechyd a lles cymdeithas. Bydd y prosiect yn helpu i sefydlu Canolfan Ragoriaeth rithwir mewn Biopolymerau yng Nghymru.

Ariennir biopol 4 life yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan – Prifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor, a Phrifysgol Aberystwyth.

Dr Gareth Owen - Athro Cysylltiol mewn Cemeg Anorganig - £490,000

Fu erioed mwy o frys i fynd i'r afael â lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer.

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar actifadu moleciwlau bach, megis carbon deuocsid, a'u trawsnewid yn gemegion gwerthfawr y gellir eu defnyddio mewn nifer o sectorau, gan gynnwys y diwydiant fferyllol, fel deunyddiau crai ar gyfer diwydiant, ac fel deunyddiau cychwynnol ar gyfer llu o ddeunyddiau newydd.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio ffynonellau cynaliadwy ir syntheseiddio’r cyfansoddion newydd hyn.

Am lawer o resymau, mae hwn yn foleciwl eithaf anodd i'w actifadu, er gwaethaf ymdrechion sylweddol gan gemegwyr synthetig ledled y byd, ond mae'r canlyniadau cychwynnol yn awgrymu bod yr actifadu hwn yn ddichonadwy.