Mae pêl-droed yn dod adref – beth sy'n gwneud anthem bêl-droed wych?
18 Mehefin, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2020/06-june/Football_fans.jpeg)
Gan Paul Carr, Athro mewn Dadansoddi Cerddoriaeth Boblogaidd
Pan gurodd tîm pêl-droed dynion Lloegr Groatia o 1 gôl i 0 yn eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaethau Ewrop 2020, trodd cefnogwyr ar hyd a lled Lloegr at ei gilydd a llafarganu "It’s coming home” ac roedd yn atseinio drwy Wembley wrth i gefnogwyr adael y stadiwm yn Llundain.
Mae’r Three Lions, a ryddhawyd gan y comediwyr David Baddiel a Frank Skinner gyda'r Lightning Seeds cyn Pencampwriaethau Ewropeaidd 1996, wedi dod yn un o gonglfeini cerddoriaeth bêl-droed. Cyrhaeddodd rif 1 yn siartiau’r flwyddyn honno a hi oedd y gerddoriaeth gefndir gydol cyfnod Lloegr yn paratoi at y rowndiau cynderfynol. Mae wedi parhau i gael ei chanu gan gefnogwyr gobeithiol Lloegr byth ers hynny.
Aeth y gân i rif un am yr eildro yn 2018 pan gyrhaeddodd Lloegr rownd gynderfynol Cwpan y Byd. Ond chwalwyd y gobeithion pan gawson nhw eu curo 2-1 gan Groatia. Gymaint oedd pŵer y gân i'r Saeson fel bod y chwaraewr o Ffrainc, Paul Pogba (yr aeth ei dîm ymlaen i ennill cwpan y Byd y flwyddyn honno), wedi creu ei fersiwn ei hun oedd yn teimlo fel ymateb coeglyd i dîm Lloegr.
Felly ar adeg pan fo Lloegr unwaith eto'n ceisio ennill eu cwpan cyntaf ers 1966, mae hirhoedledd, poblogrwydd ac arwyddocâd Three Lions yn codi'r cwestiwn: beth sy'n gwneud anthem bêl-droed dda?
Yn ôl y canwr gwerin Martin Carthy, gellir ystyried y siant pêl-droed fel un o ymgorfforiadau olaf y traddodiad llafar gwerin. Mae'n rhoi ffordd i gefnogwyr fynegi eu cariad (neu eu dirmyg) at glwb pêl-droed penodol; ond mae hefyd yn adlewyrchu eu perthynas, sy'n aml yn un gymhleth, â chenedl, tref, dosbarth cymdeithasol neu hunaniaeth dorfol.
Fel y nodwyd gan yr hanesydd Dave Russell, mae gan lawer o'r siantiau pêl-droed a glywn ar y terasau heddiw hanes hir. Maen nhw wedi cael eu canu gan ffans ers y 19eg ganrif – gyda Sheffield United FC yn addasu'r gân yfed o draddodiad y neuadd gerdd, Rowdy Dowdy Boys, yn y 1890au, er enghraifft.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/Ty%C3%8C%C2%82-Crawshay-_49783-(1).jpg)
Mae'n amlwg y gall anthemau mawr pêl-droed gynrychioli, mewn amrywiol ffyrdd, ein gobeithion am lwyddiant, yr ofn o gael ein trechu a'n balchder mewn hunaniaethau cenedlaethol a lleol.
Anthemau pêl-droed
Fel arfer, mae cysylltiad cryf rhwng yr anthem bêl-droed a chlwb, cenedl neu ddigwyddiad penodol. Fel gydag addasiad cynnar Sheffield United o gân neuadd gerdd, mae anthemau pêl-droed mwy diweddar hefyd yn manteisio ar y diwylliant y maen nhw’n gweithredu oddi mewn iddo.
Fel arfer yn dod o gerddoriaeth boblogaidd, gwerin, clasurol neu’n wir o emynau, weithiau mae ganddynt y pŵer i roi llais i ysbryd yr oes. I'r rhai sy'n ddigon hen ac sy’n cefnogi Lloegr, ceisiwch ddwyn i gof sut roeddech chi'n teimlo pan glywoch chi Three Lions (Football’s Coming Home) ym 1996, ac ystyriwch sut mae'n dal i wneud i chi deimlo heddiw. Mae gallu'r gân i'n hatgoffa o'n gobeithion, ein disgwyliadau a'n hunaniaeth genedlaethol yn amlwg.
Gellid dadlau mai anthem fwyaf adnabyddus clybiau pêl-droed y DU yw You'll Never Walk Alone, sy’n cael ei defnyddio gan Glwb Pêl-droed Lerpwl ac a gydiodd yng nghalonnau’r ffans ar ôl llwyddiant fersiwn Gerry and the Pacemakers o'r gân ym 1963. Mae geiriau'r gân, sydd wedi cael eu defnyddio gan glybiau pêl-droed eraill hefyd, fel Celtic yr Alban a Borussia Dortmund yr Almaen, yn cynnwys cymeriad sy'n dangos gwydnwch wrth "gerdded drwy storm" o adfyd. Teimlad sy'n hawdd i lawer o gefnogwyr uniaethu ag ef, wrth iddyn nhw ddangos cefnogaeth ddiysgog er bod eu timau’n colli, a’r gobaith tragwyddol y gallen nhw ennill ryw ddiwrnod.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/Ty%C3%8C%C2%82-Crawshay-_49783-(1).jpg)
Cadarnhawyd cysylltiad diymwad y gân â Lerpwl yn ymwybyddiaeth y cyhoedd yn sgil trychineb Stadiwm Heysel ym 1985 a thrychineb Hillsborough ym 1989, pan ddaeth arwyddocâd mwy trasig o lawer i’r geiriau.
Cân fwy ysgafn sydd hefyd wedi cydio ymhlith cefnogwyr yw I’m Forever Blowing Bubbles y mae West Ham yn defnyddio ei chorws. Cân Tin Pan Alley o'r 1920au. Yn hytrach nag ymdopi'n wrol ag adfyd, gall cefnogwyr uniaethu â'r ymagwedd fwy ysgafn at golli – "hyd yn oed os ydyn ni’n colli, byddwn ni’n dal i chwythu swigod".
Mae llawer o enghreifftiau eraill o ganeuon yn cael eu defnyddio fel hyn, fel Newcastle United yn defnyddio'r gân werin Blaydon Races neu Southampton yn defnyddio'r emyn When the Saints Come Marching In.
Ymdeimlad o amser, lle a hunaniaeth
Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, nad yw pob anthem yn dod o'r terasau. Daw rhai o labeli recordiau, o gyrff llywodraethu pêl-droed ac o'r clybiau eu hunain.
Mae hanes hir i hyn, ac mae'n cynnwys caneuon sy'n gogoneddu chwaraewyr, fel The Belfast Boy – teyrnged i George Best ym 1970. Caneuon wedi'u creu gan glybiau yw’r rhain, fel Blue is the Colour Chelsea ym 1972. Mae rhai hefyd yn cael eu creu ar gyfer digwyddiadau penodol, fel caneuon a gefnogwyd gan Fifa fel Gloryland (1994) gan Daryl Hall a Sounds of Blackness, cân Ricky Martin La Copa De La Vida (The Cup of Life, 1998) a thema swyddogol Pencampwriaethau Ewrop eleni gan Martin Garrix, gyda Bono a'r Edge o U2.
Mae gan ganeuon ac anthemau pêl-droed y potensial i gynyddu ein hymdeimlad o amser a lle. Gallan nhw ein helpu wrth eu cydganu, gwneud i ni deimlo'n rhan o'n llwyth ac yn rhan o lwyddiant tîm. Hefyd, mae anthemau pêl-droed yn ein hatgoffa o bwy ydyn ni yn ein hanfod, ac yn bwysicaf oll, pwy oedden ni.
Bob tro rwy’n clywed Nessun Dorma, y defnyddiodd y BBC hi ar gyfer eu darllediadau o Gwpan y Byd 1990, rwy’n cael fy atgoffa o’r pêl-droediwr eiconig o Loegr Paul Gascoigne a’i ddagrau, a fy nagrau innau hefyd, pan fethodd Lloegr y cyfle i ailadrodd achlysur na all llawer ohonom ei gofio ond sy'n parhau yn y dychymyg torfol – Buddugoliaeth Cwpan y Byd 1966 dros Orllewin yr Almaen.
Wrth i 16 olaf Pencampwriaethau Ewrop gychwyn arni eleni, bydd anthemau cenhedloedd ar hyd a lled Ewrop yn cael effaith debyg ar enillwyr a chollwyr y gystadleuaeth ond dim ond un genedl ddaw â'r cwpan adref.
Caiff yr erthygl hon ei hailgyhoeddi o The Conversation o dan drwydded Creative Commons. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.