PDC yn cefnogi cynllun ar gyfer academyddion sydd wedi'u dadleoli o Syria
16 Mehefin, 2021
Heddiw, bydd Prifysgol De Cymru (PDC) yn lansio cynllun Cymrodyr mewn partneriaeth â CARA, y Cyngor ar gyfer Academyddion Mewn Perygl, i gefnogi ysgolheigion o Syria.
Mae CARA yn helpu academyddion sy'n cael eu gorfodi i ffoi o'u gwledydd genedigol i ddod o hyd i loches dros dro mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil tan iddyn nhw allu dychwelyd adref ryw ddiwrnod i helpu i ail-adeiladu cymdeithasau gwell a mwy diogel.
Drwy’r cynllun bydd hyd at 30 o Gymrodyr CARA yn PDC, i gyd o Syria, yn gallu defnyddio cymorth llyfrgell ac adeiladu rhwydweithiau gydag academyddion y brifysgol, gyda'r nod o gyfrannu at ail-adeiladu addysg uwch yn Syria.
Bydd y Cymrodyr fydd yn gysylltiedig â'r Brifysgol yn gallu defnyddio adnoddau llyfrgell PDC am y pum mlynedd nesaf, gan eu galluogi i barhau â'u gwaith academaidd.
Y cynllun yw'r mwyaf hael o'i fath yn y DU ar hyn o bryd, a bydd yn ategu'r gwaith meithrin gallu a gynigir i'r rhai sy'n rhan o raglen CARA ar gyfer academyddion o Syria sydd wedi'u dadleoli.
Mae dan Dr Fateh Shaban Ddoethuriaeth mewn Daearyddiaeth Ddynol ac mae'n un o ddarpar Gymrodyr CARA PDC. Mae wedi bod yn byw yn Nhwrci gyda'i deulu ers 2014, a chyn hynny bu’n gweithio ym Mhrifysgol Aleppo yn Syria.
Ar ôl ymgymryd â'i PhD mewn Daearyddiaeth a Chynllunio Rhanbarthol ym Mhrifysgol Helwan yn yr Aifft, ni fu modd iddo ddychwelyd i Syria oherwydd y rhyfel sifil a'r trallod a achosodd i gynifer o bobl.
Ers byw yn Nhwrci mae wedi cynhyrchu adroddiad ar gyfer CARA ar gyflwr addysg uwch yng ngogledd Syria, ac wedi cyhoeddi papur o'r enw Ailadeiladu addysg uwch yng ngogledd Syria ar gyfer yr Adolygiad Addysg a Gwrthdaro.
"Des i’n ymwybodol o CARA am y tro cyntaf yn 2016, pan ddywedodd cydweithiwr wrtha i eu bod yn sefydliad rhyngwladol oedd yn cefnogi academyddion, a bod ganddynt raglen benodol ar gyfer Syriaid. Cysylltais â nhw ac wedyn bu modd i fi fynd i weithdy a dyna ddechrau pennod gwbl newydd yn fy mywyd.
"Ar y pryd, roeddwn i'n teimlo’n hynod rwystredig, yn ddigalon ac yn siomedig gyda'r sefyllfa roeddwn i ynddi. Roeddwn i wedi ceisio dod o hyd i waith mewn prifysgol yn Nhwrci droeon ond nid oedd modd i fi lwyddo yn hynny o beth. Academydd ydw i, ond doeddwn i ddim yn gallu gweithio fel academydd. Ond ar ôl i mi ddechrau cyfathrebu â CARA, a bod yn rhan o gymdeithas academaidd ryngwladol, des i o hyd i fi fy hun unwaith eto.
"Yn 2019 teithiais i Brifysgol Sussex i gymryd rhan mewn ymweliad deori ymchwil, a oedd yn wych. Rydyn ni’n credu bod y DU yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig yn y byd o ran addysg uwch, felly roedd cael y cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw gydag academyddion y DU yn werthfawr iawn i fi.
"Rwyf bellach wedi mynychu mwy na 40 o weithdai, ac mae CARA hefyd wedi trefnu tiwtor i fi o Brifysgol Caeredin sy'n dysgu Saesneg i fi. Rydyn ni’n cwrdd ar-lein bob wythnos ac mae hi'n dysgu ysgrifennu academaidd yn Saesneg i fi, yn ogystal ag unrhyw beth sydd ei angen arnaf i fy helpu wrth gyfathrebu’n broffesiynol.
"Un o rannau mwyaf gwerthfawr y Gymrodoriaeth yw bod â chysylltiad â Phrifysgol De Cymru – er mwyn gallu dweud fy mod yn Gymrawd PDC wrth gyhoeddi papurau ymchwil a rhwydweithio gydag academyddion eraill. Mae cael cyfeiriad e-bost a hawl i ddefnyddio adnoddau electronig yn ddefnyddiol iawn i fi fel academydd.
"Yn bennaf oll, mae angen i fi ddychwelyd at fy mhrif faes astudio a bod mewn cysylltiad gyda Daearyddwyr eraill. Dydw i ddim yn arbenigwr mewn astudiaethau addysg uwch, ond dyma lle’r ydw i. Felly rwy'n gobeithio dychwelyd at yr hyn rwy'n ei wneud orau.
"Does dim modd i fi gynllunio at y dyfodol oherwydd bod ein sefyllfa'n ansicr – dydyn ni ddim hyd yn oed yn gwybod beth y daw yfory ag ef yn ei sgil. Ond rwy'n gobeithio ac yn breuddwydio y byddaf yn dychwelyd i'm gwlad un diwrnod, pan fydd y rhyfel ar ben, a gallwn ddechrau ail-adeiladu ein bywydau yn Syria.
"Rwyf mor ddiolchgar i CARA ac i PDC am eu cefnogaeth. Heb gyfleoedd fel y cynllun Cymrodoriaeth, fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw."
Dywedodd Dr Cath Camps, Cydlynydd Cymrodorion CARA PDC: "Ymrwymiad ein His-Ganghellor, yr Athro Julie Lydon, a llawer o gydweithwyr eraill o bob rhan o'r Brifysgol sydd wedi galluogi’r cynllun hwn i gael ei lansio heddiw.
"Fel academydd rwy'n gwybod gwerth cysylltiad gyda Phrifysgol a phwysigrwydd gallu cael mynediad at waith deallusol pobl eraill o bob cwr o'r byd, a dyna pam rwy'n falch iawn y bydd cydweithwyr o Syria ar y cynllun yn cael y cyfleoedd hyn gyda chefnogaeth PDC. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd y bartneriaeth hon yn datblygu."
Dywedodd yr Athro Julie Lydon, Is-Ganghellor PDC: “Mae gan brifysgolion ran hanfodol i’w chwarae wrth helpu mewnfudwyr gorfodol i wneud y gorau o’u potensial a defnyddio’r sgiliau y maent yn eu dwyn i’r DU. Rwy’n falch iawn bod PDC yn arwain y ffordd trwy fod y Brifysgol gyntaf yn y DU i gynnig cynllun cymrodoriaeth i academyddion o Syria sydd wedi’u dadleoli gan y rhyfel cartref parhaus. Rydym wedi ymrwymo i greu cymuned agored, gynhwysol ac amrywiol yn PDC. ”
Ychwanegodd Dr Rowan Williams, Canghellor PDC a Noddwr CARA: "Ar adeg pan fo poblogyddiaeth amddiffynnol neu dreisgar, anghydraddoldeb hiliol ofnadwy, gwrth-Semitiaeth a diffyg ymddiriedaeth yn y cyfryngau oll yn bwrw eu cysgod dros y byd, mae’n hanfodol bod pwysigrwydd creadigrwydd deallusol rhyngwladol yn cael ei gefnogi, gan fod ofn hwnnw ar ormeswyr a’r sawl sy’n ceisio annog pobl i feddwl yn afresymegol.
"Rwy'n falch iawn bod PDC yn helpu i barhau â'r gwaith sydd wedi ei wneud gan CARA dros y degawdau i gefnogi'r weledigaeth hon, a gwarantu cyfleoedd i'r rhai sydd wedi wynebu bygythiadau a thrallod wrth iddynt chwilio am ryddid deallusol."
Bydd cynllun Cymrodyr CARA PDC yn cael ei lansio heddiw (dydd Mercher 16 Mehefin) mewn digwyddiad ar-lein.I ymuno â'r digwyddiad, cliciwch yma.