PDC yn codi 11 lle yn y Complete University Guide

8 Mehefin, 2021

complete-university-guide-logo.jpg

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi codi 11 lle yn y Complete University Guide 2022.

Mae PDC bellach yn 91fed yn y tabl, i fyny o 102ain, a chafodd yr ail gynnydd uchaf o brifysgolion yng Nghymru eleni.

Bellach mae ein boddhad myfyrwyr wedi'i raddio fel y 35ain uchaf yn y DU.

Mae rhai o'n pynciau a raddiodd uchaf yn nhabl eleni yn cynnwys Meddygaeth Gyflenwol (4ydd - i lawr un), Astudiaethau Iechyd (9fed - cofnod newydd), Plentyndod ac Ieuenctid (10fed - cofnod newydd), Polisi Cymdeithasol (29ain - i lawr tri), ac Astudiaethau Twristiaeth, Trafnidiaeth, Teithio a Threftadaeth (29ain - i fyny 12).

Roedd Astudiaethau Iechyd a Phlentyndod ac Ieuenctid ar y brig yng Nghymru am foddhad myfyrwyr, a Meddygaeth Gyflenwol ar y brig yng Nghymru o ran rhagolygon graddedigion.

Gwelodd nifer o feysydd pwnc eraill welliannau yn eu safleoedd gan gynnwys y Gyfraith (yn dringo 26 lle i 52ain), Gwaith Cymdeithasol (yn dringo 24 lle i 33ain), Cymdeithaseg (yn dringo 33 lle i 59ain), Gwyddor Chwaraeon (yn dringo 14 lle i'r 51fed), Celf a Dylunio (yn dringo 11 lle i 42ain) a Cherddoriaeth (hefyd yn dringo 13 lle i 47ain).

Dywedodd yr Athro Martin Steggall, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Phrofiad Myfyrwyr: “Mae’n braf gweld bod PDC wedi codi eto yn y Complete University Guide eleni, gan adlewyrchu’r codiadau a welsom yn safleoedd Good University Guide y Times y llynedd.

“Rydym yn gweithio’n barhaus i sicrhau bod ein myfyrwyr yn derbyn safon uchel o addysg a safon uchel o brofiad myfyrwyr yn ystod eu hamser yn PDC, ac mae hyn yn rhywbeth y mae pob cydweithiwr wedi parhau i ganolbwyntio arno yn ystod y pandemig hefyd.

“Mae yna feysydd wrth gwrs y gallwn wella ynddynt a dyna beth y byddwn yn parhau i weithio arno, i adeiladu ar y llwyddiannau yr ydym wedi’u gweld hyd yn hyn.”