Tîm prawf Covid-19 yn ennill gwobr Cynghrair y Prifysgolion
24 Mehefin, 2021
Dr Emma Hayhurst, Dr Jeroen Nieuwland, a Dr Ali Roula
Mae prawf canfod Covid-19 cyflym a gafodd ei ddatblygu gan dîm o arbenigwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau 2021 Cynghrair y Prifysgolion.
Enwyd y tîm oedd yn gyfrifol am y system - Dr Jeroen Nieuwland, Dr Emma Hayhurst, a Dr Ali Roula – yn gyd-enillwyr y Wobr Arloesi, yn rhannu’r anrhydedd gyda thîm o Brifysgol Kingston.
Cafodd y prawf ei ddatblygu o fewn wythnosau i gychwyn y pandemig, pan addasodd y tîm eu dull LAMP, oedd wedi ei gynllunio i ganfod heintiadau’r llwybr wrinol, at ganfod firws Covid-19.
Ar ôl gwneud ceisiadau llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am adnoddau i bennu sensitifrwydd a phenodoldeb y prawf, a gweithio mewn partneriaeth gyda chwmni dylunio peirianneg lleol i gynhyrchu dyfais LAMP pwynt gofal defnyddiadwy o brototeip cynharach, mae'r ddyfais wedi'i chynhyrchu mewn niferoedd bach ac wedi'i arddangos yn y maes fel prawf effeithiol ar gyfer firws Covid-19.
Manteision y ddyfais yw ei bod yn hawdd iawn ei defnyddio, yn gyflym ac yn effeithiol. Mae hefyd yn gweithio heb fod angen prosesu mewn labordy. Mewn partneriaeth â'r Brifysgol, mae'r tîm wedi creu cwmni deillio o'r enw Llusern Scientific Ltd i fasnacheiddio'r prawf a'r ddyfais ar gyfer Covid-19 a firysau eraill.
Wedi derbyn y wobr, dywedodd Dr Nieuwland: "Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y Wobr Arloesi. Dechreuon ni'r prosiect oherwydd ein bod yn credu y gellid addasu ein prawf heintiadau llwybr wrinol prototeip yn brawf Covid-19 moleciwlaidd cyflym a chywir.
"Roedd yn ymdrech gydweithredol enfawr o fewn PDC a gyda phartneriaid allanol, yn cynnwys ein bwrdd iechyd lleol, diwydiant, a’r llywodraeth, a ganiataodd i ni ddatblygu a phrofi ein prawf Covid-19 cenhedlaeth nesaf, a chael marc CE iddo.
"Rydyn ni bellach yn datblygu profion eraill sy'n gallu cael eu gwneud ar yr un ddyfais."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cynghrair y Prifysgolion, Vanessa Wilson, fod pawb oedd yn y rownd derfynol yn cynrychioli talent, moeseg gwaith a llwyddiant prifysgolion proffesiynol a thechnegol y DU.
"Ni fu'r flwyddyn ddiwethaf heb ei heriau, ond mae prifysgolion y Gynghrair wedi bod ar flaen y gad o ran llywio a chefnogi eu sefydliadau a'u cymunedau drwy'r anawsterau hyn, ac mae'n wych gallu dathlu gwaith caled ac ymroddiad cydweithwyr o bob rhan o'r Gynghrair yn ein gwobrau heddiw," dywedodd.
"Mae'r ffordd mae ein prifysgolion wedi dod at ei gilydd yn ystod y pandemig wedi dangos y gorau o'n Cynghrair, a’n cryfder ar y cyd. Mae’n fraint fawr bod yn Brif Swyddog Gweithredol grŵp mor ysbrydoledig o sefydliadau.
"Rwy'n falch ein bod ni’n gallu, drwy'r gwobrau hyn, gydnabod yr unigolion a'r timau hynny sydd wedi mynd yr ail filltir ac wedi dangos yr ymddygiadau a'r gwerthoedd hynny rydyn ni fel grŵp o brifysgolion yn eu hystyried yn hynod bwysig.
"Daeth dros 100 o enwebiadau o blith ein prifysgolion; o dimau ystadau i uwch arweinwyr, o ymchwilwyr ôl-radd i undebau myfyrwyr – mae clywed am yr holl waith gwych sy'n digwydd yn y Gynghrair wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac rwy'n gwybod bod dewis yr enillwyr wedi bod yn dasg anodd iawn i’r beirniaid."
"Rwy'n llongyfarch ac yn cymeradwyo pawb gyrhaeddodd y rhestr fer ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd yr holl unigolion, prosiectau a thimau enwebedig yn parhau i gael effaith ar y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu ymhell y tu hwnt i Wobrau 2021 y Gynghrair."