Wythnos Ffoaduriaid 2021: Darpariaeth Iaith a Chynlluniau Ysgoloriaethau Noddfa
17 Mehefin, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/06-june/University_of_Sanctuary.jpeg)
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi cyhoeddi canfyddiadau eu hastudiaeth achos i brofiadau ceiswyr noddfa yn y brifysgol.
I gasglu'r dystiolaeth, gwnaeth Dr Mike Chick a Dr Cath Camps gyfweliadau â 15 o geiswyr noddfa ac archwilio effaith darpariaeth iaith ddi-dâl PDC ar y cyfranogwyr. Yn benodol, edrychwyd ar y broses recriwtio, yr amgylchedd dysgu i fyfyrwyr, a chanfyddiadau ynghylch buddion y ddarpariaeth iaith.
Mae'r adroddiad yn esbonio’r rhwystrau y mae darpar fyfyrwyr sydd wedi gorfod gadael eu gwledydd genedigol yn eu hwynebu ac yn nodi cyfres o argymhellion, gan gynnwys marchnata Cynlluniau Noddfa yn well i ddarpar fyfyrwyr, creu pwyntiau cyswllt dynodedig mewn adrannau prifysgol, a sefydlu rhaglenni mentora.
Yn 2020, PDC oedd yr ail sefydliad AU yng Nghymru i ennill statws Prifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad PDC i greu diwylliant o groeso i bobl sy'n ceisio noddfa o fewn a’r tu hwnt i’w champysau.
Dr Chick sy’n arwain Cynllun Noddfa Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches PDC, sy’n galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at hyfforddiant a pharatoadau iaith cyn dechrau ar eu gradd – rhywbeth nad yw'n cael ei gynnig gan unrhyw brifysgol arall yng Nghymru.
Dywedodd Dr Mike Chick: "Mae ennill cymwysterau yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i bawb at y dyfodol, ond i bobl sy'n chwilio am loches mewn gwlad arall, mae manteision mynychu prifysgol hyd yn oed yn fwy amlwg. Mae astudio ar lefel addysg uwch yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol a strwythur i fywyd bob dydd, ac yn gyfle i gwrdd â phobl eraill ac integreiddio â chymuned newydd.
Serch hynny, fel mae’r adroddiad hwn yn dangos, mae llawer o ddarpar fyfyrwyr sydd wedi gorfod gadael eu gwledydd genedigol yn colli'r cyfle i fynd i’r brifysgol oherwydd rhwystrau fel ymwybyddiaeth, dogfennaeth, iaith a chyllid. Tan i’r gyfraith fewnfudo newid, drwy ganiatáu i bobl sy'n ceisio noddfa weithio neu gael mynediad at addysg er enghraifft, cynlluniau noddfa prifysgolion sy’n cynnig y gobaith gorau o hwyluso addysg ac integreiddio mudwyr dan orfod sy'n dymuno astudio mewn addysg uwch."
Dywedodd Harry Iles, Cadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru: "Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd cefnogi mynediad at addysg ers tro ac mae ysgoloriaethau a chynlluniau bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar gyfer pobl sy'n chwilio am loches wedi creu argraff fawr arnaf.
"Darparu cyfleoedd addysgol yw un o brif egwyddorion dyhead "Cenedl Noddfa" Llywodraeth Cymru ac mae'r mentrau a nodir ar y tudalennau hyn yn dystiolaeth o sut mae prifysgolion mewn sefyllfa unigryw i gyfrannu at yr uchelgais ddyngarol hon.
"Mae'r lleisiau sydd yn yr adroddiad hwn yn dyst i'r rôl hollbwysig y gall prifysgolion ei chwarae o ran caniatáu i'r rhai sy'n ceisio diogelwch yng Nghymru fyw eu bywydau gydag urddas. At hynny, mae darparu mynediad at addysg uwch i fudwyr dan orfod yn galluogi creu mannau i ddod â phobl at ei gilydd, sy'n hanfodol ar gyfer chwalu rhwystrau, hyrwyddo dealltwriaeth, a gwella integreiddio."