Wythnos Ffoaduriaid 2021: Y menywod sydd wedi dod o hyd i gefnogaeth drwy adrodd straeon

18 Mehefin, 2021

Speaking Together - Henriette Bertine and Carly Rees.PNG

Henriette Bertine (chwith) a Carly Rees (dde)

Mae grŵp o fenywod sy'n chwilio am loches yng Nghaerdydd wedi cael budd o gymryd rhan mewn gweithdai adrodd straeon gyda siaradwyr Saesneg lleol, wedi eu trefnu gan Brifysgol De Cymru (PDC).

Yn y gweithdai ar-lein, sydd dan ofal y darlithydd Ysgrifennu Creadigol Barrie Llewelyn, mae ffoaduriaid yn cael eu paru â menywod sy'n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, ac fe'u hanogir i siarad am bynciau fel dathlu, bwyd a chyfeillgarwch.

Nod y prosiect, o'r enw Siarad Gyda'n Gilydd, yw dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd i hyrwyddo dealltwriaeth ac integreiddio. Mae'r gwirfoddolwyr yn cynnwys myfyrwyr TESOL (Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill), staff PDC a chydweithwyr ysgrifennu Barrie, sy'n cwrdd â'r ffoaduriaid unwaith yr wythnos drwy Zoom.

Mae Henriette Bertine, a ddaeth i Gymru o Cameroon yn 2019, yn un o'r menywod sy'n cymryd rhan yn y prosiect Siarad Gyda'n Gilydd. Mae hi wedi ei pharu â Carly Rees, un o Swyddog Cofrestrfa PDC.

"Rwyf mor hapus i fod yn rhan o'r prosiect," dywedodd Henriette, sy'n astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, ac sy'n gobeithio astudio yn PDC yn y dyfodol.

"Rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl newydd ac wedi gwneud ffrindiau, yn enwedig Carly. Mae hyn wedi bod yn wych gan fod pawb mor ofalgar. Pryd bynnag yr ydw i wedi bod yn cael trafferth, rwy'n gwybod y gallaf siarad â nhw ac nad ydw i ar fy mhen fy hun.

"Mae'r gweithdai hefyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i fi wrth ymarfer fy Saesneg a theimlo'n fwy hyderus wrth siarad Saesneg. Rwy'n ddiolchgar iawn bod y prosiect hwn wedi'i greu i helpu pobl fel fi."

Penderfynodd Carly wirfoddoli gyda’r prosiect am ei bod yn aelod o is-grŵp Prifysgol Noddfa PDC, sy'n helpu i ddatblygu cyfleoedd i helpu i greu diwylliant o groeso i bobl sy'n ceisio noddfa yn y gymuned.

Dywedodd: "Mae gallu’r iaith Saesneg yn hanfodol i bobl sy'n ceisio noddfa, i allu cael gwaith, i ddechrau eu haddysg, ac i ymgartrefu mewn gwlad newydd, felly roeddwn i'n meddwl bod y gweithdai'n syniad gwych i helpu gyda hynny.

"Rwyf wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd a dysgu am wahanol ddiwylliannau, ac rwyf hefyd wedi dysgu llawer am y broses y mae’n rhaid i ffoaduriaid ei dilyn. Mae Henriette wedi cael ambell broblem gyda thai a gwaith, ac mae clywed yn uniongyrchol am yr hyn yr oedd hi’n ei wynebu wedi fy helpu i ddeall y problemau y gall pobl sy'n ceisio noddfa eu hwynebu. Mae adeiladu rhwydweithiau a chymunedau cymorth i ffoaduriaid yn rhywbeth sy'n bwysig i fi, ac yn rhywbeth y dylai pawb ei gefnogi yn fy marn i."

Gweithiodd Barrie, a oedd hefyd yn gyfrifol am brosiect o'r enw Siarada gyda Fi gyda ffoaduriaid o Syria a Sudan y llynedd, gyda Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, Dr Mike Chick, i ddatblygu'r sesiynau.

"Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn ffoaduriaid ar ryw ffurf; rydyn ni i gyd yn symud o amgylch y byd, ac mae gennym ddyletswydd i helpu pobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi. Mae gweld y partneriaid siarad hyn yn tyfu’n ffrindiau, a'r llawenydd y mae'r menywod i gyd wedi ei rannu drwy ddod at ei gilydd a siarad, wedi bod yn wych. Casglu straeon, sgwrsio ac ymarfer Saesneg yw’r peth pwysig. Nid mater o gywiro pobl mohono – mwynhau cymdeithas a phobl yw’r peth pwysig.

"Rwyf wedi mwynhau'r prosiect hwn yn aruthrol, ac yn gobeithio y gall barhau i dyfu wrth i ni ddechrau gallu cwrdd wyneb yn wyneb eto."

Mae digwyddiad ar-lein i ddangos gwaith y prosiect Siarad Gyda'n Gilydd yn cael ei gynnal heddiw (18 Mehefin) o 1pm. I ymuno â'r digwyddiad, cliciwch yma.