Ymchwilwyr chwaraeon PDC yn chwilio am Olympiaid

22 Mehefin, 2021

Olympic medals.jpg

Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yn recriwtio cyfranogwyr ar gyfer astudiaeth sy'n ymchwilio i effaith gohirio Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo 2020 ar athletwyr a hyfforddwyr oedd wedi gobeithio cystadlu.

Gyda'r nod o ddatblygu cymorth priodol, mae'r tîm yn bwriadu cyfweld ag athletwyr a hyfforddwyr am eu profiadau yn ystod y pandemig a sut mae'r rhain wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u salwch meddwl.

Mae Kristin McGinty-Minister (yn y llun yma) wedi ei phenodi’n Uwch Gynorthwy-ydd Ymchwil i’r prosiect. Mae'n ymuno â'r Athro David Shearer, yr Athro Brendan Cropley, a Dr Ross Hall.

Dywedodd Kristin: "Mae trafodaethau gyda'n partneriaid (Chwaraeon Cymru, Sefydliad Gwyddor Perfformiad Cymru: WIPS) yn awgrymu bod COVID-19 wedi tarfu’n sylweddol ar athletwyr a hyfforddwyr yn gorfforol ac yn emosiynol, yn ogystal â chreu niwed hirdymor i lawer o chwaraeon Olympaidd/Paralympaidd.

"Mae’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn gystadlaethau sy'n diffinio gyrfaoedd, gydag athletwyr a hyfforddwyr yn gweithio bob dydd am o leiaf bedair blynedd i geisio sicrhau llwyddiant.  Mewn rhai achosion, mae athletwyr yn gweithio tuag at Gemau yn y dyfodol, sy'n golygu eu bod wedi colli cyfleoedd datblygu hanfodol yn ystod y pandemig.  I rai, mae’n bosibl mai 2020 oedd eu cyfle olaf i'w 'gwneud hi' a sicrhau sefydlogrwydd ariannol at eu dyfodol. O ystyried tarfu mor sylweddol ar eu gyrfaoedd a'u bywoliaeth, mae'n hanfodol ein bod yn archwilio effaith negyddol bosibl ar iechyd meddwl athletwyr a hyfforddwyr i ddeall pa adnoddau sydd eu hangen i gynorthwyo pan fydd digwyddiadau chwaraeon mawr yn cael eu gohirio neu eu canslo."

Dywedodd yr Athro David Shearer, Athro Mewn Seicoleg Perfformiad Elit, "Mae gan athletwyr risg uwch o ddatblygu problemau iechyd meddwl oherwydd bod cynifer o bethau yn achosi straen yn eu bywydau proffesiynol. Fodd bynnag, mewn datganiad consensws diweddar gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, tynnwyd sylw at y ffaith bod diffyg sylweddol mewn ymchwil drylwyr sy'n archwilio pa mor gyffredin mae problemau iechyd meddwl ymhlith athletwyr, a sut mae problemau o’r fath yn cael eu rheoli.  At hynny, mae ein gwaith diweddar yn dangos bod diffyg ymchwil yn archwilio sut mae iechyd meddwl hyfforddwyr yn effeithio ar eu gallu i weithredu'n bersonol ac yn broffesiynol. Mae'r straen sydd wedi bod ar athletwyr yn ystod y pandemig hwn yn eu gwneud yn destunau ymchwil delfrydol i ddeall anghenion darpar gleientiaid eraill sy'n perfformio dan straen eithafol (e.e., meddygon, personél y lluoedd arfog) a allai hefyd elwa o lwyfan cymorth ar-lein."

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr astudiaeth, e-bostiwch [email protected]