PDC yn dod yn llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon ar gyfer cynllun cynaliadwyedd
23 Rhagfyr, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/12-december/Student_moving_in.jpg)
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru fel llysgennad dros ei chynllun cenedlaethol Pack for Good.
Mae BHF yn ariannu dros £100 miliwn o ymchwil bob blwyddyn i glefydau'r galon a chylchrediad y gwaed, a'r pethau sy'n eu hachosi. Mae'r cynllun Pack for Good yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff PDC roi eitemau diangen fel dillad, nwyddau trydanol, llyfrau a dodrefn i fanciau casglu BHF ar bob campws.
Wrth i fyfyrwyr adael eu cartrefi yn PDC, mae angen ystyried rheoli gwastraff. Mae gan PDC gynlluniau uchelgeisiol i fod yn garbon niwtral erbyn 2040, ac felly mae'r Brifysgol yn edrych yn gyson ar sut y gallant weithredu'n gynaliadwy a lleihau maint y gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.
Mae BHF bob amser angen eitemau diangen i helpu i ariannu ymchwil sy'n achub bywydau. Maent yn ailddefnyddio dros 71,000 tunnell o roddion y flwyddyn ac yn atal rhyddhau 135,000 tunnell o CO2 i'r atmosffer.
Mae PDC a BHF Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth i lansio'r cynllun Pack for Good, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff roi eitemau diangen trwy fanciau casglu ar y campws. Gwerthir yr eitemau a roddwyd, a fyddai fel arall yn debygol o fod wedi cael eu tirlenwi, yn siopau elusen BHF Cymru, gan gefnogi a helpu i ariannu ymchwil a gwaith achub bywyd yr elusen.
Fel rhan o'r cynllun, bydd PDC a BHF Cymru yn ceisio cefnogi ystod eang o ddigwyddiadau ymgysylltu â myfyrwyr. Mae'r rhain yn cynnwys siopau codi lle gall myfyrwyr newydd brynu eitemau mawr eu hangen am eu hamser yn y Brifysgol.
Dywedodd Tim Reeves, Swyddog Gweithredol Cyfrifon Prifysgol Sefydliad Prydeinig y Galon: “Mae'r ymgyrch Pack for Good yn dod â miloedd o bunnoedd o brifysgolion bob blwyddyn, sy'n mynd yn uniongyrchol i ymchwil y galon ledled y wlad. Rydym yn falch o allu cefnogi Prifysgol De Cymru yn ei gwaith ym maes cynaliadwyedd, yn ogystal â darparu popeth sydd ei angen ar fyfyrwyr i ymgartrefu yma. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r berthynas hon ymhellach dros y misoedd nesaf.”
Ychwanegodd Anna Dent, Rheolwr Ymgysylltu Allanol ym Mhrifysgol De Cymru: “Rydym yn falch iawn o gael y cyfle i gysylltu â chynllun mor wych, a fydd o fudd i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru a Phrifysgol De Cymru mewn cymaint o ffyrdd.”
Cysylltwch â'n tîm Busnes ac Ymgysylltu i drafod cyfleoedd cydweithredu.