PDC yn neidio 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet
17 Rhagfyr, 2021
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/news/2021/12-december/People_and_Planet_logo.png)
Mae'r Brifysgol wedi codi 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet - gan adlewyrchu gwelliant enfawr yn ein gweithgareddau cynaliadwyedd.
People and Planet yw rhwydwaith myfyrwyr mwyaf y DU, sy'n ymgyrchu ar faterion cymdeithasol ac amgylcheddol. Bob blwyddyn maen nhw'n cyhoeddi cynghrair Prifysgol, sy'n rhoi sgôr i bob prifysgol yn y DU yn yr un fformat â gradd. Mae safleoedd yn mynd o Ddosbarth 1af i Fethu, gyda methodoleg sgorio gadarn a manwl iawn yn cael ei defnyddio i gynhyrchu'r safle hwn.
Yn PDC gwyddom pa mor bwysig yw Cynaliadwyedd, i'n cydweithwyr a'n myfyrwyr fel ei gilydd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gwnaed llawer iawn o waith i sicrhau bod gwybodaeth am y gwaith gwych a wnawn ar gael i'r cyhoedd. Nid ydym am fod yn gwneud pethau gwych yn unig - rydym am i gynifer o bobl â phosibl wybod amdano.
Bob haf, mae People and Planet yn chwilio’r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth sydd ar gael am yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud sy'n gysylltiedig â Chynaliadwyedd. Mae hyn i gyd yn cael ei dynnu at ei gilydd i'r sgôr derfynol.
Rydyn ni wrth ein boddau o adrodd ein bod ni bellach wedi ennill sgôr Prifysgol 2:2. Er ei fod wedi'i seilio ar wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd yn unig ac felly heb gynnwys sgoriau ar gyfer pethau na chawsant eu cyhoeddi ar adeg sgorio, mae'r sgôr yn dangos gwelliant enfawr a cham mawr i'r cyfeiriad cywir.
Mae cryn dipyn i'w wneud eto. Mae cynaliadwyedd yn gynnig tymor hir na fydd byth yn cael ei ddatrys yn y tymor byr. Mae'r gwelliant hwn yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd a dim ond dechrau ein taith i sero net fydd hwn.
Am fanylion pellach ac i weld ein cerdyn sgorio, ewch i: https://peopleandplanet.org/university-league/2021/u193/university-of-south-wales