Buvidal – y ffordd newydd sy’n ‘newid y gêm’ i helpu pobl sy’n ddibynnol ar heroin

22 Tachwedd, 2021

Nodwydd gyda phowdr heroin

Mae wedi bod yn fis prysur i'n Hathro Gwadd Jan Melichar sy'n Seiciatrydd Ymgynghorol mewn Camddefnyddio Sylweddau yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn helpu i hyrwyddo'r defnydd o Buvidal ledled Cymru a gweddill y DU.

Mae Buvidal yn fenter lleihau niwed bwysig sy'n mynd yn fwy poblogaidd. Mae'n fath o therapi amnewidion opioid (OST) sy'n cynnig meddyginiaeth amgen, ar bresgripsiwn, i bobl sy'n ddibynnol ar opioidau (fel heroin).

Mae fformiwleiddiad hir-weithredol Buvidal yn golygu y gellir ei roi i gleifion yn fisol yn hytrach nag yn ddyddiol, fel y mae ei angen ar ffurfiau eraill o OST (fel methadon). Yn ôl pob sôn, mae Buvidal yn 'newid y gêm' sy'n helpu pobl i drawsnewid eu bywydau a chyflawni canlyniadau cadarnhaol annisgwyl.

“Rydym wedi synnu o weld ei fod wedi caniatáu i lawer o’n cleifion symud ymlaen i adferiad (dim defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, dychwelyd i’r gwaith, ailgysylltu â’u teuluoedd, talu trethi, symud ymlaen â’u bywydau ac ati) mewn ffordd nad oedd yn bosibl i lawer hyd yma,” meddai Jan, Athro Gwadd yn y Grŵp Ymchwil i Ddefnyddio Sylweddau.

Mae adborth gan gleifion Buvidal wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’r dyfyniad canlynol yn enghraifft berffaith: "Newidiodd fy mywyd...dw i'n mynd yn syth i'r gwaith...dwi’n codi am 6.30 i fod yn y gwaith am 7.30...cyn hynny roeddwn i'n codi am 4.30 bob dydd i chwilio am heroin....dydw i ddim wedi ysmygu dim ers hynny (y dos cyntaf)...dw i'n ôl yn y gampfa...mae’n drueni nad oeddwn i wedi’i gael yn gynt gan y byddai wedi achub fy mhriodas..."

Bellach, mae dros 1,200 o gleifion yn cael y cyffur arloesol hwn yng Nghymru, ac mae Jan wedi bod yn rhannu’r newyddion da amdano gyda gwleidyddion yma a thramor. Gwahoddwyd Jan i ail Uwchgynhadledd Cyffuriau’r DU a gynhaliwyd ddydd Llun 11 Hydref yn Belfast i drafod buddion Buvidal, gyda grŵp o wleidyddion a rhanddeiliaid uwch gan gynnwys: Kit Malthouse AS (Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref a'r

Weinyddiaeth Gyfiawnder), Lynne Neagle AS (Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Llywodraeth Cymru), a'r Fonesig Carol Black (awdur yr Adolygiad Annibynnol o Gyffuriau a gomisiynwyd gan y Swyddfa Gartref a'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol).

Wedi'i chynnal yn Belfast, canolbwyntiodd Uwchgynhadledd Cyffuriau'r DU ar gydweithio cryf ar draws y gwledydd fel rhywbeth hanfodol ar gyfer dod o hyd i atebion i bob agwedd ar gamddefnyddio cyffuriau.

Dywedodd Jan: “Roeddwn i'n ddiolchgar o gael cyfle i siarad am y newidiadau anhygoel rydyn ni wedi'u gweld yng Nghymru i'r rhai ar waelod y domen. Roedd Kit Malthouse (y gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol), tri gweinidog llywodraeth ddatganoledig, dau bennaeth adrannau llywodraeth y DU, dau academydd a finnau o amgylch y bwrdd. Roedden nhw eisiau clywed beth oedd gen i i'w ddweud am sut y gallai hyn newid y gêm i lawer o gleifion.”

Mae Jan yn obeithiol y bydd y trafodaethau hyn yn dwyn ffrwyth ac yn arwain at fwy o gyllid a mwy o ddefnydd o Buvidal o fewn y System Cyfiawnder Troseddol ac yn ehangach wrth drin dibyniaeth ar opioidau.